Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (tud-17)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (tud-16) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Howell Harris (tud-18)

un a mi mewn yspryd, yr hyn a brofais i yn fynych yn fy enaid tuag ato ef, er heb unrhyw obaith ei weled ef i lawr (yn Nghymru) na chlywed oddiwrtho, synwyd fi at ddaioni Duw." Ymddengys oddiwrth y difyniadau hyn, yn y rhai y lleda Howell Harris ei galon ger ein bron, fod Edmund Jones, Pontypŵl, yn dechreu dangos yr yspryd proselytio, a'r duedd i droi llafur y Diwygiwr yn fantais i'w enwad ei hun, am yr hyn y gweinyddir cerydd tyner iddo yn nes yn mlaen. Yn nhynerwch ei gydwybod beia Harris ei hunan am roddi lle i

—————————————

ATHROFA'R IARLLES HUNTINGDON YN NHREFECCA

A gymerwyd allan o'r Evangelical Register 1824

—————————————

syniad o'r fath; ond daeth yn amlwg, yn mhen ychydig, fod y dybiaeth y gwrthodai roddi lle iddi yn ei fynwes yn sylfaenedig ar ffaith. (Gwelir hefyd mai yn y Collene, yn Morganwg, ar y 9fed o lonawr, y derbyniodd lythyr Mr. Whitefield, er i'r llythyr gael ei ysgrifenu y 26ain o Rhagfyr, y flwyddyn flaenorol. Rhaid cofio fod y trefniadau ynglyn a llythyrau y pryd hwnw yn anmherffaith iawn, a thebygol ddarfod i'r llythyr fyned yn nghyntaf i Drefec chael ei ddanfon oddiyno ar ol Mr. Harris

" TREFEURIG, Llun, lonawr IO, 1739. Deffro yn fynych; medrwn godi, ond esgeulusais. Codi o gwmpas wyth. Yr wyf yn gobeithio y dygir fi i fuddugoliaeth lwyr ar y cnawd. Gweddi breifat; marwaidd, marwaidd; ond cefais benderfyniad i ddisgwyl. Wrth weled fod son am danaf. wedi ymledu tros Loegr, ac mor barod yw fy nghalon i ymchwyddo, a pha mor arwynebol ydwyf, parwyd i mi lefain gyda gofid yn fy enaid: *O Arglwydd, yr wyf yn ofni fod hyn oll yn tueddu i'm dinystr, o herwydd balchder fy nghalon fy hun. Mor llithrig yw y lle yr wyf yn sefyll arno!

Diolch nad aethum o gwmpas er mwyn cael enw. O na fyddwn yn ddinod! Ond, O Arglwydd, yr wyf yn cyflwyno yr oll i ti. Yr wyf yn ewyllysgar i fyned os wyt ti yn fy anfon, digwydded y peth a ddig wyddo i mi. Gelli di ddarostwng holl falchder fy nghalon, a'm cadw yn ostyngedig. O Arglwydd, tosturia wrth y byd. Estyn einioes Mr. Whitefield, Mr. Griffth Jones, Mr. Edmund Jones, a dy holl rai ffyddlon. Os yw y Bedyddwyr yn cyfeiliorni, gosod hwy ar yr iawn. Na fydded hyn (bedydd) yn achlysur ymraniad yn ein



Nodiadau[golygu]