Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (tud-19)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (tud-18) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Howell Harris (tud-20)

naw. Cefais gymorth wrth edrych ar y groes. Yr wyf yn gobeithio fod ei angau ef yn marweiddio pechod ynof. Am ddeg, gweddi ddirgel, a chael fy narostwng gan deimlad o fawredd Duw, fel nas gallwn edrych i fynu. 'O Arglwydd, er mwyn Crist, ac nid er mwyn fy nagrau a'm gweddïau tlawd i (oblegyd yr wyf yn wael, fel y pryf gwaelaf sydd yn ymlusgo ar dy ddaear, yn ceisio hunan a phechod), ai ni rynga bodd i ti i'n cadw ni rhag dadleuon, oblegyd eu canlyniadau? O leiaf, Arglwydd, yr wyf yn dymuno ar i ti fy nghadw i allan o'r ddadl, a danfon rhywun arall i'w chymeryd mewn llaw. Ond os wyt yn fy anfon, yr wyf yn foddlon gwneyd pa beth bynag wyt ti yn ewyllysio.' Yna parwyd i fy enaid weled cymaint o ddaioni Duw, fel y tynwyd fì allan mewn clodforedd—'O Arglwydd, yn sicr dylwn dy folianu yn barhaus am yr hyn wyt wedi ei wneyd mor rhyfedd erof. A wnai di dderbyn fy mawl? Cadw fì yn isel, canys yr wyf oll yn bechod. Dyma fy ngweddi, tosturia wrthyf; yr wyf yn bwrw y cwbl arnat ti. Yr wyf yn ymddiried ynot, pan yr af i Gaerdydd, ar roddi i mi yr ymadrodd yno er dy ogoniant.'"

Yn nesaf, dydd Gwener, lonawr 14, yr ydym yn ei gael yn Werndomen, ffermdy ger Caerphili. Yma eto y mae y Bedyddwyr yn ei flino. Ysgrifena: "O Arglwydd, yr wyf yn myned heddyw i lefaru; pa beth a wnaf ac a ddywedaf? A wnai di fy nghadw rhag dynion penboeth i boenydio fy enaid? Os mynet ti, Arglwydd, i mi newid fy marn, gad i mi weled dy ewyllys; ac os arweini di hwy ataf fi, bydded i mi fod yn gywir. O, bydded i ni gael cariad ac undeb. Yr wyt yn canfod nad wyf fi am ymresymu, os rhynga dy fodd di i'm cadw rhagddo. O, ni wnawn ymddadleu oni bai i ti fy anfon."

Gwedi hyn yr ydym heb hanes am dano hyd dydd Mercher, Ionawr 19, pan yr ydym yn ei gael yn Gwrhay, ger Mynydd Islwyn. Ai rhan o'r dydd-lyfr sydd ar goll, ynte a ddarfu iddo ef beidio ysgrifenu, nis gwyddom. Nid oes genym ond dyfalu hefyd pa le y treuliodd yr amser cydrhwng, ond y mae yn fwy na thebyg iddo fyned i Gaerdydd fel yr arfaethasai. Dydd lau, Ionawr 20, y mae yn Llanheiddel, ger Pontypŵl. Dydd Gwener, Ionawr 21, cawn ef yn Mlaenau Gwent; a'r Sul dilynol yn Llanbedr — Llanbedr, ger Crughy wel, yn ol pob tebyg—heb fod yn nepell o'i gartref.

Gwelwn ei fod yn teithio ar draws gwlad, o orllewin Morganwg hyd y rhan ddwyreiniol o Fynwy, a bod y Parchedigion Edmund Jones, Pontypŵl, a Henry Davies, gydag ef am ran o'r daith. Ai Henry Davies, Bryngwrach, a olygir; ynte Henry Davies, gweinidog yr Ymneillduwyr yn Llantrisant, sydd ansicr. Y mae y tebygolrwydd yn ffafr y diweddaf. Anmhosibl darllen ei ddyddlyfr heb deimlo fod ei holl fryd ar achub ei gydgenedl. Teimlir ei fod yn byw yn y byd ysprydol; prin y mae y ddaear a'i helynt yn bod iddo; ei berthynas â Duw, a'r gwaith mawr a pha un yr ymgymerasai, sydd wedi llyncu ei enaid. Er ei fod yn achwyn ar y Bedyddwyr, y mae yn amlwg na theimlai unrhyw chwerwder yspryd atynt. Ofni yr ydoedd fod rhoddi y fath arbenigrwydd y pryd hwnw ar fedydd, ac ymgolli mewn dadleuaeth mewn perthynas iddo, yn rhwystr ar ffordd cerbyd y diwygiad. Buasai ef yn hollol foddlawn i gydweithio a'r Bedyddwyr pe y gallent suddo ei hoff bwnc, ac ymroddi i gyhoeddi Crist yn Geidwad i bechaduriaid. Yr ydym trwy y dydd-lyfr yn gallu edrych i mewn i ddyfnderoedd ei galon; y mae cilfachau pellaf ei yspryd yn cael eu datguddio; braidd nad yw yn tueddu i ddwyn i'r wyneb ei feiau yn hytrach na'i rinweddau; a gwelwn mor syml yr ydoedd, mor ostyngedig, ac mor awyddus am gadw ei hunan i lawr, ac i roddi yr holl glod i Dduw. Mor bell ag y gallwn gasglu oddiwrth y nodiadau a geir, gwasgarog oedd ei bregethau; ni ddangosent feddylgarwch dwfn, ac nid ymdriniai ynddynt o gwbl a phynciau duwinyddol dyfnion. Ond yr oedd saeth ar flaen pob brawddeg, yr hon a anelai yn syth at galonau pechaduriaid; a thaflai yntau ei holl yspryd i'r gwaith pan yn tynu yn y bwa, fel nad oedd yn rhyfedd fod dynion wrth yr ugeiniau a'r canoedd yn cael eu clwyfo.

"Dewch, gwrandewch ef yn pregethu,
Calon ddrwg, lygredig dyn,
Ac yn olrhain troion anial,
A dichellion sy' yno ynglyn;
Dod i'r goleu a dirgelion
I rai duwiol oedd yn nghudd,
Agor hen 'stafelloedd tywyll
Angau glas, i oleu'r dydd.

Dewch, gwrandewch ef yn agoryd
Dyfnder iachawdwriaeth gras,
Gosod allan y Messiah
Yn y lliw hyfryta 'maes;
Ac yn dodi'r cystuddiedig,
Ag sy'n ofni ei ras a'i rym
Fel i chwerthin o orfoledd,
Ac i 'mado heb ofni dim."



Nodiadau[golygu]