Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (tud-20)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (tud-19) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Howell Harris (tud-21)

Ymddengys ddarfod i Harris dreulio mis Chwefror, 1739, yn ymweled a gwahanol leoedd yn siroedd Brycheiniog, Maesyfed, a gogledd-orllewin Morganwg; felly y dengys ei ddydd-lyfr. Nid anhebyg iddo gael ei rwystro i fyne'd i'r Gogledd, fel y bwriadasai, gan lythyr oddiwrth Mr. Whitefield, yn addaw dyfod i Gymru. Ymglymasai calonau y ddau yn rhyfedd, er nad oeddynt wedi gweled eu gilydd yn y cnawd. Cychwynodd Whitefield o Bryste Mawrth 6. Ffaith ddyddorol yn ei hanes yw mai rhyw bythefnos cyn hyny y pregethasai gyntaf yn yr awyr agored, a hyny i lowyr Bryste, pan yr oedd holl eglwysi y ddinas wedi cael eu cau yn ei erbyn. O hyn allan, pregethai pa le bynag y cai gyfleustra, heb holi pa un a oedd esgob wedi cysegru y ddaear â halen ai peidio. Er ei bod yn gynar yn y flwyddyn, a'r hin mewn canlyniad yn oer, tyrai miloedd i'w wrando yn Mryste; ar un amgylchiad dywed fod tuag wyth mil o bobl yn bresenol, tra y llefarai ar bowling green a fenthycasid iddo. Yr oedd hefyd newydd gyfarfod a'r Hybarch Grifíith Jones, Llanddowror, yn Bath, gan yr hwn y cawsai hanes Cymru, ac yn ol pob tebyg hanes manylach am Howell Harris, a'r gwahanol rwystrau ar ffordd llwyddiant yr efengyl yn y Dywysogaeth. Teimlai Whitefield ei galon yn cynhesu at yr hen filwr, a chafodd ei argyhoeddi nad oedd ef ond milwr dibrofiad iawn eto. Yn nghwmni ei gydymaith, Mr. William Seward cyrhaeddodd y New Passage prydnhawn dydd Llun, Mawrth 6. Yma cyfarfuant a'r Parch. Nathaniel Well, offeiriad Caerdydd, yr hwn a deimlai y fath lid at y Methodistiaid, fel na wnai groesi yn yr un cwch a'r ddau efengylwr. ond o herwydd tywydd ystormus, gorfodwyd hwy i aros yma am ddeuddeg awr, ac nid oedd gan Mr. Well well ffordd i dreulio ei amser na thrwy chwareu cardiau. Achwynai Mr. Well fod y ddau yn canu hymnau pan yn croesi y sianel, fel yr oedd y llywiwr yn methu clywed llais y dyn oedd yn gwylio, nes y bu raid eu rhwystro. Sicrhâi hefyd na chai Mr. Whitefield ei eglwys i bregethu ynddi. " Gobeithio," meddai William Seward, "fod y meusydd yn wynion yn Nghaerdydd, fel ag yn Mryste. Y mae yno hefyd seiat yn disgwyl am danom." Awgryma hyn fod eglwys Fethodistaidd wedi cael ei sefydlu yn barod yn Nghaerdydd trwy offerynoliaeth Howell Harris. Cyrhaeddodd Whitefield a Seward Gaerdydd o gwmpas un-ar-ddeg dydd Mercher.

Dechreuodd Whitefield ar unwaith gynghori y bobl oedd yn y gwest-dy, tra yr aeth Seward i chwilio am le i bregethu ynddo. Cafodd, trwy ryw ddylanwad, neuadd y dref, a phregethodd Whitefield o sedd y barnwr i gynulleidfa o bedwar cant; gwrandawai y rhan fwyaf yn sylwgar, ond gwatwarai rhai. Gyda ei fod yn disgyn o'i sedd, pwy a welai ond Howell Harris. Teithiasai Harris trwy Gwm Tâf Fawr, ac arosai y nos flaenorol yn Eglwysilan, nid anhebyg yn nhŷ Mr. David Williams. Y cwestiwn cyntaf a ofynodd i'r Diwygiwr Cymreig oedd: "A ydych yn gwybod fod eich pechodau wedi cael eu maddeu? "Prin y medrai Harris ateb, gan mor sydyn y daeth y gofyniad ar ei draws. "Pan gyntaf y gwelais ef," meddai Whitefield, "ymglymodd fy nghalon am dano; yr oedd arnaf eisiau derbyn rhyw gymaint o'i dân; a rhoddais iddo ddeheulaw cymdeithas a'm holl galon. Treuliasom yr hwyr mewn adrodd y naill wrth y llall beth oedd Duw wedi ei wneyd i'n henaid; cymerasom i ystyriaeth hefyd achosion y gwahanol seiadau; a chytunasom ar y mesurau hyny ag a ymddangosai y mwyaf tebygol i lwyddo gwaith ein Harglwydd." Gwelir yma fel yr ymgynghorai y Diwygwyr a'u gilydd; a'r ymgynghoriadau anffurfiol hyn a ymddadblygasant yn raddol i fod yn gyfansoddiad trefnus, gyda Chymdeithasfa a Chyfarfodydd Misol. Treuliwyd boreu dydd lau, Mawrth 9, mewn gweddi ac ymddiddan gydag aelodau y seiat yn Nghaerdydd. Am ddeg, pregethai Whitefield yn neuadd y dref i gynulleidfa fawr, gydag Harris yn eistedd yn glos wrth ei ochr. Tra y llefarai, yr oedd rhyw greaduriaid anystyriol oddiatan yn llusgo llwynog marw o gwmpas, ac yn ceisio cael y cwn cadnaw i'w hela, i rwystro'r odfa. Wedi gorphen, aeth y ddau Ddiwygiwr, yn nghwmni dau weinidog Ymneillduol, i wasanaeth a gynhelid yn yr eglwys. Ysgrifena Whitefield yn ei ddydd-lyfr am Howell Harris: "Goleuni dysglaer a llosgedig a fu efe yn y rhan hon o'r wlad; gwrthglawdd yn erbyn cabledd ac anfoesoldeb; a gweithiwr difefl yn efengyl Iesu Grist. Er ys rhyw dair neu bedair blynedd y mae Duw wedi ei dueddu i fyned o gwmpas i wneyd daioni. Y mae yn awr o gwmpas pum' -mlwydd ar-hugain oed. Ddwy waith appeliodd am urddau sanctaidd, a châdd ei wrthod ar yr honiad twyllodrus nad oedd mewn oed, er ei fod y pryd hwnw yn ddwy-flwydd-ar-hugain a



Nodiadau[golygu]