Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (tud-23)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (tud-22) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Howell Harris (tud-24)

Eglwys Wladol, nid oblegyd syniadau neillduol gyda golwg ar berthynas yr Eglwys a'r wladwriaeth, ond oblegyd fod eu heneidiau yn rhynu ac yn newynu i farwolaeth o'i mewn. Newyn am efengyl oedd yn yr Eglwys; yno cynygid careg i'r bobl yn lle bara, ac aethant hwythau i'r meusydd, lle yr oedd gwirionedd Duw yn cael ei bregethu gan dynion ffyddlon. Un o feibion ffyddlonaf Eglwys Loegr oedd Howell Harris; nid yw byth yn blino mynegu hyny; ond parodd anfoesoldeb buchedd, a difaterwch yr offeiriaid, iddo fod yn flaenllaw gyda mudiad a waghâodd yr eglwysi ar hyd a lled y wlad.

Ond i ddychwelyd, aeth Howell Harris gyda Whitefield i Lundain. Pregethent ar y ffordd, ac yr oedd nid yn unig tân, ond hefyd beiddgarwch penderfynol y Cymro o fantais ddirfawr. Yn nghymydogaeth Bryste, rhwystrwyd Whitefield i lefaru gan branciau a gwatwaredd rhyw chwareuwr, a bu raid iddo roddi i fynu. Neidiodd Harris i'r pwlpud, a chymerodd yn destun: "Daeth dydd mawr ei ddigter ef, a phwy a ddichon sefyll?" Meddai y gwatwarwr annuwiol: "Fe safa i." "Beth!" llefai Harris, a'i lygaid yn melltenu yn ei ben, ac arswyd yn eistedd ar ei wedd; "Y ti sefyll! Y ti, brifyn diddim a gwael y fath ag wyt, sefyll o flaen llid yr Anfeidrol" Cwympodd y dyn fel marw i'r ddaear, a dywedir na adawodd y cryndod mo hono tra y bu byw. Cyrhaeddodd y Diwygwyr Lundain Ebrill 25, lle yr arhosodd Harris hyd ddechreu Mehefin. Tra yn y Brifddinas, elai yn fynych gyda Mr. Whitefield i gymdeithas grefyddol y Morafiaid yn Fetter Lane. Perthynai, nifer o ddynion duwiol a da i'r gymdeithas hon, ac yn eu mysg amrai o fonedd y tir, megys Arglwydd ac Arglwyddes Huntington, Syr John PhiIIips, y Cymro o Sir Benfro, a brawd yn-nghyfraith Griffith Jones, &c. Diau i Harris yma gael cymundeb wrth fodd ei galon. Cyffroid y gymdeithas ar y pryd gan y cwestiwn o hawl lleygwyr i bregethu. Meddai Charles Wesley, yn ei ddydd-lyfr: "Cyfododd dadl gyda golwg ar bregethu lleygwyr; yr oedd amryw yn zelog drosto; ond darfu i mi a Mr. Whitefield sefyll yn gryf yn erbyn." Yn raddol, pa fodd bynag, daeth Whitefield yn fwy cymhedrol; cawn ef yn ysgrifenu mewn llythyr at John Wesley, dyddiedig Mehefin 25, 1739" Yr wyf yn oedi barn ar ymddygiad y brodyr Cennick a Watkins, hyd nes y deallaf yr amgylchiadau yn well. Y mae gwahaniaeth mawr rhyngddynt hwy a Howell Harris. Y mae efe wedi ceisio urddau sanctaidd dair gwaith; bydd i mi ei gefnogi ef ynghyd a'r cyfeillion yn Nghaergrawnt." Rhoisai Harris y seiadau a ffurfiasid trwy ei offerynoliaeth dan ofal dynion ffyddlon, y rhai oeddynt i'w harolygu, ac i anfon gwybodaeth o'u hansawdd iddo ef i Lundain. Yn mysg y rhai hyn yr oedd Meistri James Roberts; David Williams, Watford; Edmund Jones; a Henry Davies. Ysgrifena James Roberts ato Ebrill 17, 1739, ac y mae tôn ei lythyr braidd yn gellweirus: "Fy anwyl Howell," meddai, "gadewch i mi fod dipyn yn siriol gyda chwi. Yr ydych yn fath o Arolygydd, neu Arglwydd Archesgob, mewn amrai siroedd; felly, priodol i'ch caplan tlawd, yr hwn sydd wedi ufuddhau i'ch arch, ac wedi ysgrifenu y llythyr, o ba un y mae copi yn cael ei amgau i chwi, yw eich hysbysu am y modd y cyflawna ei ddyledswyddau." Y "llythyr" oedd cenadwri at yr eglwysi yn Longtown, Llandefathen, Crugcadarn, a Gwendwr. Ysgrifena Mr. Edmund Jones lythyr ato Mai 21, 1739, o ba un y difynwn a ganlyn: "Yr wyf wedi bod o gwmpas eich seiadau fel gwyliwr, i edrych sut yr oeddynt yn dod yn mlaen, a pha un a oedd y diafol yn ceisio eu niweidio; a gallaf ddweyd, diolch i Dduw, i mi gael y cwbl yn llwyddiannus. Ni chefais gymaint o bresenoldeb Duw er ys blynyddoedd ag a gefais ar y daith hon; yn enwedig yn Maesyronen, yn y weddi yn Gwendwr, y Sul yn Nhredwstan, a'r Llun yn Grwynefechan. Y mae eich cyfeillion yn Mrycheiniog yn hiraethu am eich gweled. Cefais nerth gan Dduw wrth weddïo drosoch yn Grwynefechan. Y mae y warrant yn eich erbyn wedi dyfod i ddim. Ni wnai y Cynghorwr Gwynn gyffwrdd a hi, na neb o'r ustusiaid, ond yr ustusiaid offeiriadol; yr oedd Price Davies (offeiriad Talgarth) yn neillduol i'w weled yn eich erbyn; ond llwfrhasant, ac ymddangosent fel yn cywilyddio o'r braidd y darfu i'r offeiriad James, o Lanamwch, yr hwn oedd mor weithgar yn eich erbyn, ddianc rhag boddi ychydig yn ol, yr hyn a haedda sylw. Yr wyf wedi ceisio gan y dynion ieuainc, perthynol i'r seiadau, i weddïo yn benodol dros y boneddwyr a safasant o'ch plaid." Profa y llythyrau hyn amryw bethau; (1) Fod yr Eglwyswyr, yn arbenig y personiaid, yn llawn llid eto yn erbyn



Nodiadau[golygu]