Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (tud-24)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (tud-23) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Howell Harris (tud-25)

y teimlad cyhoeddus, ac yn ddiau dan argyhoeddiad fod y gyfraith yn eu herbyn, gadawodd yr ustusiaid yr achos i syrthio; a chafodd Harris ymadael heb na dirwy na charchar. Diau i'r helynt brofi yn fantais ddirfawr i'r diwygiad; gwelwyd na ellid ei osod i lawr trwy gyfrwng cyfraith y wlad. Enynodd sirioldeb difesur hefyd yn mynwes Howell Harris; symudwyd ei ofnau, a chwbl gredodd y mynai yr Arglwydd iddo deithio o gwmpas i gynghori pechaduriaid. Nid oedd neb a lawenychai yn fwy na Whitefield. Ysgrifena o Philadelphia: "Yr wyf yn eich llongyfarch ar eich llwyddiant yn Nhrefynwy. Yn mhen tua deuddeg mis, os myn Duw, yr wyf am wneyd defnydd o'ch maes-bwlpudau eto. Y mae ein hegwyddorion yn cyduno fel yr etyb wyneb i wyneb mewn dwfr."'

ATHROFA TREFECCA: GOLYGFA DDWYRAIN-OGLEDDOL


Siroedd Morganwg a Mynwy a gawsant y rhan fwyaf o lafur Howell Harris yn ystod 1738, 1739; yr ydym wedi crybwyll eisioes am effeithiau ei weinidogaeth yn Mynwy, a Dwyrain Morganwg, ac ymddengys i'r unrhyw ddylanwadau ei ganlyn i orllewin Morganwg. Bu yn offeryn i ddeffro y wlad o gwr i gwr; mentrodd i ganol y gwyliau mabsantau a'r ffeiriau annuwiol, gan yru ofn ar weithredwyr anwiredd; daeth ei enw yn ddychryn i'r campwyr, a sefydlodd nifer mawr o seiadau. A gwnaeth hyn oll heb nemawr gymorth dynol; efe ei hun, a phresenoldeb ei Dduw gydag ef, a gynyrchodd y childroad; ychydig iawn o gymorth a gafodd gan yr offeiriaid, na chan y gweinidogion Ymneillduol. At ychydig o'i orchestion yn unig y cawn gyfeirio. Adroddir am dano yn pregethu mewn ffair yn Crug-glas, ger Abertawe. Yr oedd terfysg y ffair yn ddirfawr, y sŵn yn ddigon i ferwino clustiau, a'r ymladdfeydd yn waedlyd a chreulon. Buasai dyn cyffredin yn cael ei lethu gan ddychryn, ond ni wnai hyn ond awchu zêl Harris. Cododd i fynu ynghanol y berw, a'r olwg arno mor arswydlawn a phe buasai yn ymgorfforiad o ddychrynfeydd Sinai; taflodd olwg lem ar y twmpath chwareu, a dechreuodd weddïo. Yn raddol y mae difrifwch ei wedd, treiddgarwch ei lais, a thaerni ei weddi yn enill sylw; llonydda y berw fel



Nodiadau[golygu]