Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (tud-25)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (tud-24) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Howell Harris (tud-26)

pe y tywelltyd olew ar ddyfroedd cyffrous; cywilyddia y chwareuwyr ac ymeifl dychryn ynddynt; a dyma hwy yn dianc oddiar y maes fel pe eu hymlidid gan ellyllon. Pan welodd y telynwr ddarfod iddo gael ei adael, rhoes yntau ei offer heibio ac ymadawodd. Yn mysg y rhai oedd yn bresenol y pryd hwnw yr oedd creadur annuwiol a elwid " Rotsh o'r Gadle." Ymddengys i saeth lynu yn ei gydwybod yntau, ond ni adawodd ei ffyrdd drygionus. Gwyddai ei fod ar ffordd na ddylai, ond ni chefnai arni. Dywedir ei fod unwaith wedi gwario ei holl arian ar ei flysiau, ac na wyddai pa fodd i fyned yn y blaen. Tybiai y dylasai yr hwn a wasanaethai mor egniol ei gynorthwyo, a chyfarchai y "gwr drwg" "Wel, yr wy' i wedi bod yn was ffyddlawn i ti, gad i mi weld fath feistr wyt ti; dod rywfaint o arian yn fy het." Yna rhoddai ei het i lawr, a chiliai oddiwrthi encyd o ffordd. Yn mhen enyd, dychwelai ati eilwaith, i gael gweled beth oedd ynddi. Wedi ei chael yn wag, troai i edliw a'r diafol, gan ddweyd: "Mi welaf mai meistr caled ydwyt wedi'r cyfan." Pa foddion a ddefnyddiwyd i'w ddwyn ato ei hun ni wyddis i sicrwydd. Aeth ryw foreu Sul i gyrchu y cŵn hela ar gyfer tranoeth; nid anhebyg i eiriau Howell Harris drywanu ei galon ar y ffordd; pa fodd bynag, daeth yn ei ol heb y cŵn, ac aeth i'w wely, dan arteithiau euogrwydd anamgyffredadwy. Yr oedd wedi cael ei ddal megys a gwys oddiuchod; a fflangellid ef megys ag ysgorpionau. At hyn y cyfeiriai gwedi hyny wrth ganu:—

"Pan oeddwn ar fy ngwely,
Un prydnhawn,
Heb feddwl dim ond pechu,
Un prydnhawn,
Fe ddaeth ei danllyd saethau,
Y ddeddf a'i dychryniadau,
I'm tori i lawr yn ddiau,
Un prydnhawn,
A gado'm holl bleserau,
Un prydnhawn."

Bu ei argyhoeddiad yn ofnadwy. Ai at lan y môr, gan godi llonaid ei law o'r tywod, a cheisio eu rhifo: "Mi a ddeuwn i ben a hyn rywbryd," meddai, "ond am dragywyddoldeb, nid oes rhifo arno byth! "Ymofynai a'i hen gymdeithion, ai ni wyddent hwy am un ffordd o ddiangfa, ond cysurwyr gofidus oeddynt oll, Cyfarfu unwaith â hen feili yn Abertawe, ac yn ing ei enaid gofynai i hwnw: "A wyddost ti rywbeth am Iesu Grist?" Edrychodd y beili yn hurt arno, ac aeth ymaith heb ddywedyd gair, Ond o'r diwedd tywalltwyd olew a gwin i glwyfau "Rotsh o'r Gadle," a'r offeryn a fendithiwyd i hyny oedd Mr. Lewis Rees, o Lanbrynmair, yr hwn oedd wedi dyfod yn weinidog i'r Mynyddbach.

Yr ydym yn cofnodi hanes "Rotsh" am ei fod yn ddiau yn engrhaifft o'r dull yr argyhoeddwyd llawer i fywyd yn yr amser rhyfedd hwnw. Un arall o'r cedrwydd talgryf a dorwyd i lawr yn 1739 oedd William Thomas, o'r Pil, a hyny pan nad oedd ond llencyn un-mlwydd-ar-bymtheg oed. Dwysbigwyd ef trwy wrando Harris yn pregethu mewn lle a elwir Chwarelau Calch, yn agos i Gastellnedd, eithr bu am agos i bedair blynedd gwedi hyn cyn rhoddi ei hun i fynu yn llwyr i'r Iesu. Daeth yn ganlynol yn "gynghorwr" nid anenwog, ac yn ddyn o ddefnyddioldeb mawr. Adroddai hen ŵr, o'r enw John Morgan, am Harris yn dyfod i le a elwir Waungron, nid yn nepell o'r Goppa-fach, ar gyffiniau Morganwg a Chaerfyrddin. Cynhelid gwylmabsant yno ar y pryd. Yr oedd y cyfarfod wedi dechreu cyn i John Morgan, ar ei ffordd i'r gamp, gyrhaedd; ond pan tua chwarter milldir neu fwy o'r lle, cyrhaeddodd llais y pregethwr ei glust, "a daeth," meddai, "gyda'r fath awdurdod, fel y teimlwn ef yn myned trwy fy esgyrn yn y fan." Dychwelwyd ef a llawer eraill at y Gwaredwr y tro hwnw. Cyfeiriai yr hen weinidog hybarch, Hopkin Bevan, o Hirwaun, at Howell Harris yn dyfod dro arall i Crug-glas. Daeth dyn haner meddw yn mlaen, wedi ei anog gan ryw ddihirwyr, a gwn yn ei law, gan geisio saethu y pregethwr, Cynygiodd ddwy waith a thair, ond ni thaniai yr ergyd. "Trowch ffroen eich dryll ffordd arall," meddai Harris, gyda llais awdurdodol; gwnaeth y dyn, ac allan aeth yr ergyd. Yn fuan wedyn cafwyd y dyn wedi llosgi i farwolaeth mewn odin galch, lle yr aethai yn ei feddwdod.

Nis gallwn, o ddiffyg lle, gofnodi ychwaneg o lafur a buddugoliaethau Howell Harris yn Ngorllewin Morganwg y cyfnod yma. Tua'r pryd hwn, neu yn fuan gwedi, sefydlwyd seiadau yn y Palleg, ger Ystradgynlais; Creunant, yn nghymydogaeth Castellnedd; y Goppa-fach, nid yn nepell o Abertawe; Castellnedd, Hafod, Cnapllwyd, Llansamlet; a'r Dyffryn, ger Margam.

Tua mis Rhagfyr bu ar ymweliad a Sir Benfro; ei ymweliad cyntaf yn ddiau, Nid yw hanes y daith genym; felly, nis gwyddom pa mor bell yr aeth, nac yn



Nodiadau[golygu]