Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (tud-27)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (tud-26) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Howell Harris (tud-28)

hwnw, yr oedd pawb, y gwyr yn gystal a'r gwragedd, wrthi yn ddiwyd yn gwau hosanau. Gafaelodd yntau yn y Beibl, gan ddarllen penod, a disgwyl i'r bobl rhoddi heibio eu gwaith; eithr yn mlaen yr oedd y gwau yn myned, a sŵn y gweill yn ymgymysgu a sŵn y Gair. Trodd i weddïo, ond heb fawr gobaith y byddai i neb o'r gynulleidfa gydynmno ag ef, a'r olwg ddiweddaf a gafodd cyn cau ei lygaid, oedd gweled y bysedd wrthi yn brysur yn trin y gweill. Ar weddi cafodd gymorth arbenig; aeth ei enaid allan at Dduw mewn deisyfiadau ar ran y trueiniaid anwybodus oedd yn bresenol; deallodd yn fuan fod y gwau wedi cael ei roddi heibio; ac yn lle clec y gweill clywid sŵn gruddfanau ac ocheneidiau am drugaredd. Ni adawyd ef hefyd wrth bregethu, a bu yr odfa yn foddion achubiaeth i amryw. Gwedi hyn, bu Morgan, brawd Meurig Dafydd, oedd yn gryfach na'r cyffredin, ac yn adnabyddus fel ymladdwr mawr, yn dra charedig iddo. Hebryngai ef trwy Lanymowddwy, gyda phastwn onen cryf yn ei law, a phan geisiai rhywrai niweidio y pregethwr ysgydwai y pastwn, gan ddweyd: "Wedi hebrwng y gŵr da i ffwrdd, mi a ddof i siarad a chwi." Droiai bu gwarant allan i ddal Lewis Rees, am fyned o gwmpas i bregethu yr efengyl. Un tro dygwyd ef o flaen y Canghellydd Owen, yr hwn yn ogystal oedd yn fìcer Llanor a Dyneio. Gwedi' i'r gŵr hwn ddeall fod ganddo drwydded i bregethu, ac felly nas gallai ei anfon i'r carchar, aeth yn gynddeiriog. Ymaflodd mewn cleddyf, gan fygwth ei ladd, ac yn ei gynddaredd torodd got y pregethwr yn gareiau a'r cledd oedd yn ei law.[1] Pan y teithiai Mr. Rees trwy Lanymowddwy un tro, cyfarfu ag offeiriad y plwyf, wrth yr hwn yr achwynodd am ymddygiadau barbaraidd ei blwyfolion. Cymerodd yr ymddiddan canlynol le rhyngddynt: —

"Gŵr o ba wlad ydych chwi?" ebai'r offeiriad.

"Gŵr o Lanbrynmair, Syr," ebai Mr. Rees, yn fwynaidd iawn.

"Beth a ddaeth a chwi i Lanbrynmair?"

"Yr oedd y gynulleidfa Ymneillduol heb weinidog; ar eu dymuniad, mi a ddaethum atynt, ar y cyntaf ar brawf; ac wedi cael boddlonrwydd o bob ochr, mi a osodwyd yn weinidog arnynt."

"Peth afresymol," ebai'r offeiriad," yw goddef i Bresbyteriaid bregethu yn y wlad hon; Ysgotland yw y wlad iddynt hwy." "Gobeithio, Syr," meddai Mr. Rees, "eich bod o well egwyddor nag y ffurfiech eich crefydd wrth arfer y wlad y byddech yn byw ynddi; onide byddai raid i chwi fod yn Bresbyteriad yn Ysgotland, ac yn Babydd yn Rhufain."

Tarawodd grym ei resymau, a mwyneidd-dra ei atebion, y gŵr eglwysig, a thrwy ei ddylanwad ar y preswylwyr, ni chafodd Mr. Rees ei aflonyddu o hyny allan. Gwnaeth Lewis Rees ddaioni anhraethol yn y Gogledd; nid oedd rhagfarn yn ei yspryd; a pharhaodd yn groesawgar i'r Methodistiaid tra y bu yn Llanbrynmair. Wedi llafurio am chwarter canrif yn Ngwynedd, symudodd i'r Mynyddbach, ger Abertawe. Bu farw Mawrth 21, 1800, pan wedi cyrhaedd ei bedwarugain-a-deg mlwydd oed.

Ond i ddychwelyd at daith Howell Harris i'r Gogledd. Ymddengys iddo fod mewn pryder cyn cychwyn pa un ai yno, ynte i Sir Benfro, yr ai. Tebygol mai yr hyn a benderfynodd o blaid Gwynedd oedd cymhellion cryfion Mr. Lewis Rees, ac hefyd yr elfen o berygl oedd ynglyn a'r daith. Ymddengys fod boneddwyr Sir Drefaldwyn wedi rhwymo eu hunain a diofryd y gwnaent garcharu unrhyw Fethodist a anturiai i'w tiriogaethau; daethai hyn i glustiau Mr. Harris, a pharai beiddgarwch ei yspryd, a'i zêl dros ei Waredwr, iddo deimlo awydd angerddol am anturio i ganol yr ystorm. Chwefror y 1af, yr ydym yn ei gael ar y ffordd tuag yno, yn Llanfair-muallt. Rhaid i ni ddifynu darnau o'i ddydd-lyfr, ac o'i lythyrau, eto, fel y caffom nid yn unig ei hanes, ond hefyd agwedd ei feddwl.

"Pan y daethum yma (Llanfair-muallt)[2] cefais y bobl yn canu, a boneddwr ieuanc yn llusgo celain cath o gwmpas, er mwyn peri terfysg. Ond siomwyd ef; ni wnai y cwn hela. Cawsom nerth mawr, ac yr wyf yn awyddus iawn am fod yn rhydd oddiwrth, a byw uwchlaw y creadur, gan ddianc at waed Crist am heddwch a sancteiddrwydd. Yr wyf yn clywed pethau nodedig o hyfryd am Mr. Gwynn; gweddïwch drosto.

Rhaiadr (wyth milltir o Llanfair-muallt), Chwefror 3, 1740. Y mae fy ngorff yn flin, gwedi llafur caled, ac y mae yn awr



Nodiadau[golygu]

  1. Methodiastiaeth Cymru
  2. Llythyrau at Miss Anne Williams, Y Scrin