Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (tud-28)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (tud-27) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Howell Harris (tud-29)

yn bedwar o'r gloch y boreu. Ond y mae rhywbeth ynof, pan ei rhoddir mewn gweithrediad, sydd yn fy ngwneyd yn ddiludded. Ddoe, galluogwyd fi i lefaru ddwywaith, i drafaelu deng milltir, ac i ysgrifenu llawer o lythyrau. Heddyw, teithiais chwech milltir, llefarais ddwywaith, cedwais ddwy ddyledswydd deuluaidd, ac ysgrifenais chwech o lythyrau. Heno cefais y newydd cysurus fy mod mewn gwirionedd i gael fy nghymeryd i'r ddalfa yn Sir Drefaldwyn. Gwn y llawenhewch, y gweddïwch, ac y bendigwch Dduw trosof. Cawsant gyfarfod i'r pwrpas, ac yr wyf yn cael yr Arglwydd yn fy nerthu yn rhyfedd oddi mewn. Gosododd Duw yn meddwl cyfaill anwyl i ddod i ddweyd wrthyf. Cuddied yr Arglwydd fy mhen yn nydd y frwydr. Yr wyf yn myned y fory i Cwmtyddwr, i wyl, a nos y fory i ran o Drefaldwyn. Y mae yr Arglwydd wedi rhoddi i mi lawer concwest ar y diafol.

Llanybister (pedair milltir o Rhaiadr), Chwefror 5, 1740. Diwrnod gogoneddus oedd y ddoe; yr oeddwn yn yr wyl fawr, a mentrais wrthwynebu y diafol ar ei dir ei hun. Felly lleferais o fewn ychydig latheni i dafarndy, lle yr oedd y chwareuyddiaeth i gychwyn. Ar y dechreu yr oeddwn gryfaf; wrth lefaru am argyhoeddiad Zaccheus, ceisiais eu denu trwy gariad; ond collais fy awdurdod. Yr oeddwn yn farw ac yn sych yn mron hyd y diwedd. Yna dyrchafodd yr Arglwydd fy llais fel udgorn, a galluogodd fi i gyhoeddi hyd adref gyda golwg ar elynion Duw. Ni phrofais erioed fwy o nerth. Yr wyf yn credu ddarfod i rai gael eu gwanu; wylai llawer; llewygodd un; eraill drachefn a deimlent gryndod dirfawr; ac yr oedd ar bawb fraw mawr. Gwedin aethum i'r eglwys; pan y daethum allan ofnwn rhag i'r diafol eu cael i'w fagl drachefn, a chyhoeddais y pregethwn o fewn chwarter milltir i dref Rhaiadr. Yno y daethant, yn mron bawb, yr wyf yn meddwl, ond ychydig oedd yn y tŷ. Cynorthwywyd fi i lefaru, a hyny gyda llai o daranu a mwy o ddyddanwch, nag arfer. Oddiyno aethum i le a elwir Y Lodge, yn Llandinam, lle y galluogwyd fi i lefaru gyda nerth, Neithiwr a heddyw ni chyfarfyddais a dim gwrthwynebiad, a chawsom odfaeon melus": Cedwir llawer rhag dyfod i'm gwrando gan ystori, sydd yn pasio fel gwirionedd, fy mod yn gohebu a brenin yr Ysbaen, a bod deugain punt yn cael eu cynyg am fy nghymeryd. Y fory yr wyf yn disgwyl cael fy nal; ac os caf, ysgrifenaf yn uniongyrchol o fy llety newydd.

Dyma Howell Harris wedi rhoddi ei draed ar ddaear Gwynedd, ac wedi pregethu yn Llandinam, a hon oedd y bregeth gyntaf i Fethodist yn Ngogledd Cymru. Dengys yr hanes pa mor ffol oedd y chwedlau a daenid am dano.

"Llanbrynmair,Nos Sadwrn(Chwefror g, 1740). Hyd yn hyn y mae yr Arglwydd wedi bod gyda mi, ac yn fy llwyddo fwyfwy. Ymddengys Satan fel wedi ei rwymo; yr oeddwn yn disgwyl bob dydd gael fy rhoddi mewn cadwyn; ond hyd yn hyn nid wyf wedi cyfarfod gwrthwynebiad. Dydd Gwener, cyfarfyddais a Mr. Lewis Rees, ac ni chefais yn ystod fy holl deithiau y fath nerth ag a ges neithiwr wrth lefaru i tua mil o bobl yn Llan (Llandinam?) Gallech glywed calonau yn ymddryllio; ac yr oedd y fath ocheneidiau, a dagrau, a gwaeddi, na wrandawsoch ar ei gyffelyb. Yr wyf yn gobeithio ddarfod i lawer o galonau agor i Iesu Grist. Yr oeddwn ymron a chael fy nghario allan o fy hunan. O! gogoneddwch Dduw drosof. Yr wyf yn myned dydd Llun nesaf i Sir Feirionydd. Druan o Wynedd; y maent yn byw yma fel anifeiliaid, heb wybod dim! "Pasiai ar ei daith trwy Lanidloes; nid yw yn ei lythyrau yn cyfeirio at y dref, ond dywedir yn Nrych yr Amseroedd iddo gael llonydd i bregethu heb i neb aflonyddu arno. Bu cymaint o erlid yn Llanidloes a braidd unrhyw dref yn Nghymru ar ol hyn. Cawn iddo hefyd bregethu yn Nhrefeglwys, a dywedir mai dyma y pryd yr argyhoeddwyd Lewis Evan, Llanllugan, yr hwn oedd ar y pryd yn ddyn ieuanc un-ar-hugain mlwydd oed. Gwehydd ydoedd Lewis Evan; gwedi ei argyhoeddi ymroddodd i ddarllen y Beibl; ac yn bur fuan cymerai ef o gwmpas i'w ddarllen o dŷ i dŷ; llithrodd yn raddol i roddi gair o gynghor, ac i derfynu trwy weddi, a daeth yn gynghorwr heb yn wybod iddo, ac heb wybod fod neb wedi gwneyd fel hyn o'i flaen. Peth dyeithr yn yr ardal oedd gwehydd ieuanc yn myned o gwmpas i gynghori, a pharodd ei ymddygiad gryn gyffro.

Nid yw Mr. Harris yn ei lythyrau yn cyfeirio at ei bregethu yn Llanbrynmair,[1] ond y mae yn sicr iddo wneyd, a dywedir mai o



Nodiadau[golygu]

  1. Methodistiaeth Cymru, cyf. i., tudal 98.