Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (tud-30)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (tud-29) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Howell Harris (tud-31)

tref fechan ar lan Llyn y Bala; cyfrifir y daith tua deuddeng milltir. Daeth rhywbeth fel ofn drosof wrth glywed fy mod yn neshauat dref, ond tawelwyd fi gan ymroddiad meddwl. Yr oedd fy myfyrdodau yn rhy ysgeifn, ac mor ychydig o Dduw sydd yn fy meddwl! Cefais beth hyfrydwch i'm henaid wrth weled daioni Duw yn rhoddi pethau i ni, a chefais fy hun yn gweddïo: ' O Arglwydd, na ad i mi bechu mewn ewyllys na meddwl.'

Wedi hyn, tra'r oedd cur yn fy mhen, a minau ar newynu, cyrhaeddais y Llan tua phump. Arhosais yma; yr oedd cynulleidfa fawr iawn wedi ymgynull, ond wedi mynd ymaith. Siaredais hyd chwech wrth rai canoedd am dröedigaeth St. Paul. Cefais gymorth yma i efengylu gyda grym, ac yr oedd llawer yn wylo. Atebais amheuon a gwrthwynebiadau, a gwahoddais bawb at Grist. Cefais rwyddineb melus i siarad wrth galonau drylliog, calonau wedi eu perswadio.

Wedi hyn, rhoddwyd i mi ras i weddïo am Yspryd Duw, fel y medrwyf ganu a gweddïo, a charu a siarad, a byw yn yr Yspryd hwnw, ac O mor angenrheidiol yw hyn!

Yna aethum i'r tŷ, lle'r oedd yspryd ysgafnder wedi dod dros y bobl. Bum uwch ben fy mwyd o saith hyd yn agos i wyth. Ac yna agorodd yr Arglwydd ddrws i mi siarad a hwynt, a hwy a wrandawsant. Siaredais am ein cwymp, ac fel yr agorodd y cwymp hwnw ddrws i gariad Duw hefyd. Danghosais iddynt gariad Duw tuag atom, a'n gwrthryfel ninau yn ei erbyn. Effeithiodd hyn arnynt, a wylodd llawer. Agorwyd drws i mi—tŷ tafarn oedd y tŷ—i ddarllen ac esbonio y ddeuddegfed benod o'r Rhufeiniaid, i ganu ac i weddïo. Ymddengys mai pobl ddiniwed sydd yma, a chefais gymorth i fod yn ffyddlon yn eu mysg.

Ysgrifenais lythyr hyd wedi deg; a bum mewn gweddi ddirgel hyd gwedi un-ar-ddeg, yn gweddïo gyda pheth pryder, wedi darllen Actau ii. 17, 18: 'O dyro i mi o'th Yspryd, O dyro i mi o'th Yspryd, fel y gogoneddwyf ac yr anrhydeddwyf di. O Dduw, a allaf fi fod yn llawen tra y dianrhydeddir dy Fawrhydi bendigedig genyf fi ac eraill? Arglwydd anwyl, paham yr wyf yn rhoddi mor ychydig o werth ar dy gariad? Yr wyf yn diolch i ti am y wybodaeth am danat dy hun a roddaist i rai eraill. O Dduw, pa bryd y caf fi dy adnabod a dy garu? O, rhyfedd dy fod yn gwneyd cymaint rhyfeddodau i mi, a minau eto heb gariad atat! '

Llanywyllyn, ger y Bala, Sir Feirionydd, Dydd Mercher. Deffroais yn fore; codais am wyth. Yr wyf yn mhell oddiwrth Dduw o hyd, ac eto yn anfoddlon hebddo. Aethum i weddi yn y dirgel; a gweddïais yn hir mewn geiriau, o'r pen a'r deall, ac nid o'r galon. Nis gallwn gael gafael ar ddymuniadau i wneyd daioni o ddifrif. Ond o'r diwedd, tra yn disgwyl yno ac yn ofni dilyn f'ewyllys fy hun heb Dduw, rhoddodd yr Arglwydd allu i'm henaid lefain: ' O Arglwydd, yr wyf yma ymhell oddiwrthyt ti, ac mewn gwlad bell. Gad i mi dy gael di yn rhan; yr wyf yn ymwadu a phob peth arall. Dyro hwynt i'r hwn a fynot, a gad i mi fod yn eiddo i ti. O Drindod, yr wyf yn rhoddi fy hun i ti.' O naw hyd ddeg, pregethais i rai canoedd o bobl. Dechreuais trwy ddangos oddiwrth y seithfed benod o Rhufeiniaid—fel y gwnaethwn y nos o'r blaen wrth son am dröedigaeth St. Paul—ein bod yn gweled yma y dygir ni, pan ddaw gras Duw i'r galon: (i) I ganfod llygredigaeth ein natur, fel y mae corff ac enaid wedi eu cwbl halogi, ein hamharodrwydd i wneyd da a'n parodrwydd i wneyd drwg. (Danghosais hyn oddiwrth eu profiad hwy eu hunain.) (2) I weled fod teimlo yr anmhosiblrwydd hwn i wneyd daioni yn boen a gofal mawr i'r enaid. (3) Nis gallant fod yn dawel heb chwilio am ryddhad. " Pwy a'm gwared oddiwrth gorff y farwolaeth hon?" (4) Fel y gwelwn oddiwrth Rhuf. viii. 2, pan ddaw'r enaid i chwilio yn ddyfal am ryddhad, datguddia Crist ei hun, i ryddhau yr enaid oddiwrth euogrwydd a llygredd pechod, a chadwynau'r tywyllwch. Ac yma cefais oleuni mawr i ddangos (i) Ein bod dan y gyfraith tra byddom ynom ein hunain. Gadawyd i mi ddeall mwy ar natur y gyfraith nag erioed o'r blaen; dangosais nas gall Duw faddeu am droseddu ei gyfraith nes y caffo iawn i'w gyfiawnder. ' Ai ni fuasech chwi'n condemnio barnwr, ac yn ei gyfrif yn anghyfiawn, pe y rhoddasai bardwn i ddrwgweithredwr, a'i fai yn amlwg, heb iawn i'r gyfraith? ' (2) Nas gall Duw edrych arnom nes y newidir ein natur, ac nas gallwn ninau ymhyfrydu ynddo ef, A fedrai gŵr a gwraig gytuno pe carai y naill yr hyn a gashäi y llall? Felly nis gallwn ninau fod yn gytûn a Duw os carwn chwant, balchder, cybydd-dod, meddwdod, tywyllwch, yr hyn bethau y mae Duw yn gashau; a thra nas gallwn garu y sancteiddrwydd a'r purdeb y mae



Nodiadau[golygu]