Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (tud-31)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (tud-30) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Howell Harris (tud-32)

Duw yn garu. Felly, rhaid i Dduw golli ei briodoleddau o gyfiawnder a phurdeb, neu rhaid i ni gael gwaredigaeth oddiwrth euogrwydd a natur pechod, cyn y gallwn sefyll ger ei fron. (3) Rhaid symud y tywyllwch oddiar ein llygaid; fel y gwelom farwolaeth ynom ni a bywyd yn Nghrist, tywyllwch ynom ni a goleuni yn Nghrist, aflendid ynom ni a phurdeb ynddo ef, gwendid ynom ni a nerth ynddo ef. Ond rhaid i ni deimlo mor druenus ydym cyn yr awn ato, a rhaid ei uno a ni trwy ffydd fywiol, neu ni fydd yn fwy llesol i ni glywed am gyfiawnhad trwy ffydd a thrueni y rhai sydd heb fod yn Nghrist, na phe y clywem am feddyg pan yn wael ac heb gymeryd ei gyffeiriau. Cefais nerth; a phan ddaethum i'r fan yma, gwelwn fod llawer wedi teimlo i'r byw, a medrais bregethu yn felus. Daeth cawod hyfryd arnom wrth i mi ddweyd wrthynt nas gallwn eu twyllo. Yna soniais am ragorfreintiau y rhai sydd yn derbyn Crist. Y mae y rhai sydd yn meddu Crist yn meddu pob peth; a'r rhai nis meddant ef, ni feddant ddim. Cynghorion cyffredinol: molianu Duw. Gwagedd yw gobeithion gau. Pan fo'r Arglwydd yn dysgu ac yn rhoi nerth, peth melus yw gweithio, a pheth hawdd. Fel y teimlasom yr Adda cyntaf ynom, felly y rhaid i ni deimlo Adda'r ail. Mewn gweddi ddirgel, cefais mai dymuniad fy enaid ydyw bod yn ffyddlon, a gogoneddu enw'r hwn a'm danfonodd. Gwneled Duw ei ewyllys arnaf. Ac O, pa fodd y gallaf fod yn llawen tra mae pobl yn dianrhydeddu ac yn anghofio Duw!

Ysgrifenais tan haner dydd, ac yna teithiais i'r Bala—pum' milldir. Nis gallwn gael fy enaid i feddwl am unrhyw fater ar y ffordd—dim ond meddyliau ysgafn—a dyma wnawn beunydd oni bai am ras.

Cyrhaeddais y Bala cyn dau o'r gloch, a siaredais gyda rhai canoedd hyd yn agos i bedwar. Tra yr oeddwn yn siarad, yr oedd llawer yn chwerthin ar eu gilydd, a gollyngwyd ergyd o wn yn fy ymyl.

Clywais un yn dymuno cael ei ddamnio, pe gwyddai mai Presbyteriad oeddwn, os cawn bregethu. Dywedais wrthynt fy mod yn perthyn i'r Eglwys. Pregethais ar y stryd ar gyfer neuadd y dref, ac yr oedd pregethu yno fel pregethu uwchben ceiliogod yn ymladd.

Dechreuais gyda chatecism yr Eglwys, llw y bedydd, y ddwy ddyledswydd at Dduw a dyn, a'r sacramentau. Nid oeddwn hyd yn hyn wedi cael fawr o awdurdod arnynt, ond yr oeddwn yn edrych a fedrwn eu tynu ataf. Gwrandawodd llawer, a wylodd eraill. Pregethais ar Luc xix. 12. Cefais awdurdod i siarad wrthynt am eu pechodau. Rhoddwyd i mi oleuni mawr, fel yn y tŷ cyn myned allan, o wybodaeth gliriach; a dangosais ddrwg pechod fel y mae yn bechod yn erbyn daioni Duw, er argyhoeddiad llawer yr wyf yn gobeithio. Y mae arnaf ofn na wnaed llawer o ddaioni yma, ond cefais nerth i fod yn ffyddlon.

Wedi hyn bum ar fy mhen fy hun, yn bwyta, &c., hyd bump. Yna pregethais hyd chwech. Dangosais fel y mae Duw yn cario ei waith ymlaen yn raddol, o ris i ris; ceisiais gynorthwyo eu meddyliau i weled eu trueni; dangosais fel y mae Satan a'r byd yn ymgynhyrfu yn ein herbyn pan ddechreuom newid oddi mewn ac oddi allan, ac fel y medr yr enaid gael nerth i'w gwrthsefyll; a dywedais wrthynt hanes fy nhröedigaeth fy hun. Cefais felusder, a nerth i fod yn ffyddlon. A llefais yn y dirgel: ' O Arglwydd, gad i mi bob amser dy deimlo di ynof, a rho nerth i mi fod yn ffyddlawn i ti, anwyl Arglwydd.'

Wedi hyn ymadewais, gan deimlad cariad cryf, tua Thal-ardd, pum milldir o ffordd. Cefais gipolwg ar y ffordd ar drueni yr hwn elo at y meirw heb Grist, ond nis gallwn wasgu y peth yn agosach at fy enaid. Gwelaf nad wyf ond pechod, yn farw a thywyll oll; nid oes genyf ond pechod a thrueni; nis gallaf wneyd dim, ond anghofio Duw o hyd; nis gwn ddim, ond y peth a ddangosir i mi.

Daeth pryder ar fy enaid am fy mam, ac awydd i ddadleu drosti mewn yspryd tosturi ac ofn: ' O Arglwydd, gwared hi o drueni. O na welwn hi wedi ei newid. Dyro iddi dy Yspryd, lladd ei hanghrediniaeth, gwna hi yn rhydd, dadguddia dy anwyl Fab ynddi. Gad i mi weled arwyddion amlwg o gyfnewidiad ynddi, ac yn fy enaid tlawd fy hun. O Arglwydd, goleua fy meddwl; a gwrando fi ar ran fy mrodyr. A adewir iddynt fyned ymlaen yn eu pechodau, ac mewn gwrthryfel yn dy erbyn di? Cofia **[1] yr hon sy'n rhan o'm henaid. Ac na alw fi i dragywyddoldeb tra'n farw yn fy mhechodau.'

Cefais olwg ar y cyflwr ofnadwy y buaswn ynddo i dragywyddoldeb; a



Nodiadau[golygu]

  1. Wrth ** y meddylir Ann Williams, o'r Ysgrin, yr hon ddaeth wedi hyny yn wraig i Howell Harris.