Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (tud-32)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (tud-31) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Howell Harris (tud-33)

gwnaeth meddwl mor gyfiawn fuasai Duw, wrth wneyd hyn, i mi ymostwng i'r llwch ger ei fron. Ac yna dangoswyd i mi dynerwch Duw tuag ataf, rhagor at eraill. onis gallaswn fod wedi ymbarotoi at fod yn filwr, a chael fy ngadael i mi fy hun, i fod yn erlidiwr? O, beth wyf fi, fel yr hoffwyd fi rhagor miloedd? Gwae i mi os na ogoneddaf Dduw. O Arglwydd, y mae arnaf ofn pechod. Gwna fi yn un a arweinir ymlaen gan gariad. Tyn fy holl gariad atat, ac na ad i mi orphwys nes teimlo yn sicr fy mod yn eiddo i ti, a thithau yn eiddo i mi yn fwy llwyr o hyd. Ac O, arhosed hyn ynof—cael teimlo cariad newydd, ac awydd am ogoneddu Duw.'

Cyrhaeddais Lanywyllyn, ac arosais yno tan oedd yn agos i wyth; yna troais i tuag adref heno, ac yr oedd ** yn cael lle mawr yn fy meddwl. ' O Arglwydd, gad i mi sicrwydd dy fod di'n Dduw i mi, a fy mod inau'n eiddo i tithau yn mhob peth.'

Cefais beth iselder meddwl wrth weled fod Crist yn oleuni a bywyd a phurdeb, ac wrth weled fod mor ychydig o bob un o'r rhai hyn ynof fi. Ofnwn nad ydyw ef ynof—ond eto y mae graddau, a phwy sydd yn tynu fy meddyliau i fyny? O na fedrwn fod yn ddiolchgar fyth.

—————————————

EGLWYS DEFYNOG.

Lle y Cyfarfydd Howell Harris a Daniel Rowlands am y tro cyntaf yn y flwyddyn 1757

—————————————

Ar y ffordd cefais olwg gliriach ar fawredd Duw. Yr oedd y mawredd hwn o flaen fy llygaid o hyd: yr hwn yn unig sydd yn taenu'r nefoedd.' Yr oeddwn mewn syndod wrth feddwl yr edrychai ar lwch; ac wrth weled rhyfeddod ei dragywyddol gariad yn anfon ei Fab, collais fy hun mewn edmygedd. O tyn fi yn gyfangwbl i dy garu di!

Cyn cyraedd yno yr oeddwn wedi blino, gorff ac yspryd, ac yr oedd fy nhymerau naturiol yn pallu. Pregethais ar ragoroldeb ffydd: (i) Fel y mae'n agoriad i glo trysorau gras Rhagluniaeth Duw. (2) Hi ydyw llaw yr enaid i dderbyn oddiwrth Dduw. (3) Hi ydyw'r droed i redeg ar ol Duw pan fydd yn cilio, ac i ddilyn pan fydd yn tynu ynom. (4) Hi yw y llygad i weled Crist, a phob gras wedi ei drysori



Nodiadau[golygu]