Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (tud-33)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (tud-32) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Howell Harris (tud-34)

ynddo ef. (5) Hi yw y glust i glywed llais Crist yn mhob dim. (6) Hi yw llais a thafod yr enaid. (7) Ei hedyn. (8) Yn treulio bwyd ysprydol.

Ceisiais ddangos gallu cariad Crist, ond gorfod i mi roddi i fyny. Aethum i'm gwely tua haner nos.

Tal-ardd, yn mhlwyf Llanywyllyn, Meirionydd, Dydd lau. Codais cyn saith; wedi breuddwydio neithiwr. Cefais ddymuniadau am i Dduw fy rheoli, a rhoddi i mi fyfyrdodau sanctaidd ar y ffordd heddyw—un-milldir-ar-bymtheg yn ol eu cyfrif hwy—fel y gwelwyf fod fy nghymdeithas i gyda'r Tad a chyda'r Mab. Dymunwn yn dda, ond nid wyf yn teimlo digon o wagder yn fy enaid i dderbyn Duw. Yn sicr ni chafodd neb erioed natur mor anhawdd ganddi ddod at Dduw, ac mor anhawdd iddi gredu'r Beibl ac ymhyfrydu ynddo. Yna daethum i ddarllen y Beibl, ond ychydig o hono gyda'm calon; eithr y mae ef yn tosturio wrthyf, ac yn fy nilyn a'i gariad. Ni fu neb yn meddu mwy o Satan na myfi, nac mor galed i effeithio arnaf, ond rhyfedd yw natur gras—y gras a wnaeth ragrith yn onestrwydd ac uniondeb, y gras a wnaeth y casineb mwyaf yn gariad, y gras a wnaeth y balchder mwyaf yn ostyngeiddrwydd, y gras a wnaeth y llwfrdra mwyaf yn wroldeb, y gras a wnaeth y chwant mwyaf yn burdeb, y gras a'm cododd o'r domen i anrhydedd. O nas gallwn ei ogoneddu ef am byth!

Wedi bwyta a gweddïo gyda'r teulu, cychwynais tua Machynlleth cyn wyth, taith o un-milldir-ar-bymtheg. Mor fuan ag yr aethum allan cafodd fy enaid daerineb a llefain, ac erfyn dros Ogledd Cymru, druan: 'O Arglwydd, dyro wybodaeth iddynt. O trugarha wrthynt. Oni weli di'r tywyllwch dudew sydd yn mhobman yn eu mysg? O Arglwydd anwyl, na wrthod fy nghais; anfon wybodaeth iddynt drwy ryw fodd neu gilydd.'

Nis gallwn oddef cymeryd fy ngwrthod, eithr gwnawd i mi barhau mewn taerineb. Wedi peth cysgadrwydd, gweddïais wedin, ond yr wyf eto yn mhell oddiwrth Dduw. Yna meddyliais am fy myned i Fachynlleth heddyw, a llefais: ' Pe gwyddwn, Arglwydd, fy mod yn mynd i dy ddianrhydeddu di, trwy ras y gallaf ddweyd nad awn. Y mae digon o ddianrhydeddu arnat heb i minau hefyd dy ddianrhydeddu di. Na ad di i mi fod yn mhlith y rhai sydd yn dy erbyn mwy. Er i mi ildio i feddyliau ofer, ac er i'r rheini sychu

fy enaid, O dyro dy hun i mi, ac yna gad i mi fod y peth a fynot, gan deimlo fy enaid wedi ei ddiddyfnu oddiwrth bobpeth, a chan allu meddwl ychydig am berffeithderau Duw.. Rho dy natur ynof, nid oes arnaf ofn dim ond pechod. Na foed ewyllys ynof ond dy ewyllys di, dysg fi i'th ogoneddu yn mhob peth.'

Tuag un-ar-ddeg daethum i Ddinas Mawddwy, tref wyth milldir o Fachynheth. Yr oeddynt yn ymddangos ychydig yn dynerach yma y tro hwn, a dywedent y buasent yn falch o'm clywed. Yna penderfynais bregethu yno, a dechreuais siarad a rhyw ychydig o honynt oedd wedi dod at eu gilydd. Chwarddai rhai, yr oedd pawb a'u hetiau am eu penau, ai rhai eraill heibio heb gymeryd sylw o honof, gwaeddai rhai eraill: ' Yr wyf fi'n clywed digon yn yr eglwys.' Lle ofnadwy ydyw hwn; addefasant y bydd canoedd yn dawnsio ar y Sul, ac yn chwareu pêl, yn tyngu ac yn byw pob afradlondeb; felly y mae yn mynwent Mawddwy. Ni chefais awdurdod arnynt, ac ni chymerais destun, ond pregethais yn gyffredinol am Dduw, a marw, a'r farn, a thragwyddoldeb, a phechodau a arferir. Ni chefais awdurdod, a pheidiais a siarad pan welais rai yn rhedeg ataf, gan feddwl eu bod yn dod i aflonyddu. Ond gwelais mai dod i wrando yr oeddynt, a phregethais ychydig yn ychwaneg gyda mwy o deimlad, ond ychydig iawn. Ni chefais unrhyw effaith arnynt, darostyngwyd fy yspryd; yr oeddwn yn foddlon iddynt fy mathru dan eu traed, ond yr oedd ynof dosturi tuag atynt, a pheth pryder am achos Duw. Cefais yspryd tosturi i weddïo, gan deimlo'n isel a gostyngedig iawn.

Ymadewais am haner awr wedi deuddeg, tua Machynlleth, a daeth ataf, fel o'r blaen, yspryd i weddïo dros Ogledd Cymru. Cyfarfyddais ŵr ieuanc tlawd oedd yn ffafriol, a chawsom ymgom felus; yr oeddwn yn ei garu, a chynorthwywyd fi i'w gynghori. Yr oedd gras Duw ynddo, ond yr oedd yn anwybodus am Grist.

Rhedodd y bechgyn bach ar fy ol heddyw, i waeddi. Yr wythnos hon, hyd yn hyn, y mae Satan wedi cael ychydig o ryddid. Yr oeddwn inau wedi fy ngadael, ac yn isel fy yspryd. Gofidiais pan glywais fel yr oeddynt yn cymeryd enw Duw yn ofer, a llefais: 'O Arglwydd, pa hyd y dyoddefi ni? Saf drosot dy hun, dros dy dŷ dy hun. Ymwregysa, Arglwydd, amddiffyn dy ogoniant; oni weli



Nodiadau[golygu]