Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (tud-34)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (tud-33) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Howell Harris (tud-35)

di fod yr offeiriaid yn dy erbyn, oni weli fod y rhai mawr yn codi yn dy erbyn di? O Dduw, bydd gyda mi. Boed i bobpeth a'th ofidio di fy ngofidio inau; a phobpeth a'th foddhao di fy moddhau inau.' Adnewyddwyd fy nerth, ond yr oeddwn eto yn wan. Teimlais beth cymundeb a Duw, ond yr oeddwn yn rhy ddiofal yn fy myfyrdodau.

Cyrhaeddais Fachynlleth ychydig wedi tri. Disgynais wrth dŷ'r Cyllid. Yno cyfarfyddais a hen ŵr bonheddig, yr hwn oedd wedi meddwi. Cydiodd ynof, sarhaodd fi, gan ofyn cwestiynau sarhaus. Ond ni wnaed terfysg. Clywais iaith uffern—dynion yn damnio eu hunain yn fy nghlustiau—a daeth yr holl dyrfa ynghyd i chwareu pêl droed. Wedi cael ychydig o luniaeth aethum allan, gan feddwl mynd i'r Clwt Teg oedd ger llaw. Yr oedd yr Arglwydd wedi darparu tri neu bedwar o gyfeillion i'm hamddiffyn; ac yr oeddynt hwy wedi cael lle arall i mi, mewn drws bychan oedd yn agor o lofft uwchben grisiau. Sefais yn y drws hwnw, a'm gwyneb i'r heol. Ni wnaethum yr hyn a ddylaswn wneyd mewn lle mor beryglus, sef ceisio yr Arglwydd, eithr dechreuais siarad am lw y bedydd. Ond yr oeddynt wedi ymgynddeiriogi cymaint fel na wrandawent. Yr oedd offeiriad—Mr. Griffiths, o Benegoes, mab i Ddissenter o Sir Aberteifi—a thwrne o'r enw Lewis Hughes, a gŵr bonheddig o'r enw Mr. Thomas Owens; yr oedd y rhai hyn fel pe buasent wedi eu rhoddi ar dân uffernol gan Satan. Yr oeddynt mor wallgof fel y gallesid gweled cynddaredd yn mhob gwyneb; ac ymgynddeiriogai y dyrfa, gan luchio cerrig a thyweirch, a hen esgyrn ataf. Ond gwaredodd yr Arglwydd fi rhag i'r un o honynt gyffwrdd a mi. Y mae genyf achos cywilydd, am fy niofalwch yn peidio ceisio'r Arglwydd, ac yn enwedig yn peidio gweithredu ffydd. Yr oeddwn yn wan, ac nis gallaswn gael geiriau. Ond o'r diwedd ymdawelasant ychydig, a chefais inau beth awdurdod. Siaredais ychydig am y clefyd mawr sydd yn eu mysg; lluchiwyd pethau ataf, ac yr oedd yr offeiriad a'r twrne yn rhuo bygythion, yn bygwth rhoi'r cwnstabl arnaf oni thawn, ac yn cynhyrfu'r dyrfa i ymosod arnaf. Teimlais nad oedd Duw wedi fy ngalw yma, neu fy mod wedi camymddwyn. Ofnais i mi ymfalchio, ond yma tynwyd fy malchder i lawr. Cefais gymorth i ddweyd wrthynt am edrych ati, na safai gwyr mawr yn y farn yn eu lle. Wrth fy ngweled yn dal i bregethu, rhedodd y twrne i fyny i'r ystafell lle yr oeddwn, mewn dig a chynddaredd mawr, a'i enau'n llawn melldithion, yn tyngu yn erchyll, gan feddwl fy llusgo i lawr. Siaredais inau yn deg ag ef, a dangosais mor afresymol oedd iddo ymwallgofi heb reswm. Gorfod i mi dewi, o herwydd nis gallai neb fy nghlywed. Ac yna daeth y gŵr bonheddig i fyny at y drws oddi allan, mewn cynddaredd mawr, a saethodd ergyd o lawddryll yn ein mysg, a chrochlefodd. Aethum inau i lawr y grisiau yn awr, gan weled fy mod mewn perygl. Aethum gyda'r cyfeillion i ystafell breifat, ac yna daeth y dyrfa i'r ffenestr, a chrochlefasant drachefn. Gwelais fy mod yn awr yn uffern, yn ymladd ag anifeiliaid yn Ephesus. Aethum allan, gan feddwl myned ymaith; ond pan gefais fy hun yn y dyrfa gwelais fod fy mywyd mewn perygl. Ofnwn gael fy nhrywanu, yr oeddwn wedi cael fy nghicio ddwywaith, ac wedi fy ngwneyd yn wawd y dyrfa. Galwent fi yn ' berson,' mewn dirmyg. Dangosodd marwolaeth ei wyneb i mi mewn llawer ffordd.

Cefais ystafell breifat wedin gan gyfaill, a bolltiasom y ddôr; ond yr oeddynt yn ysgrechain cymaint y tu faes fel yr oeddwn yn disgwyl gorfod marw pan ddown allan. Ac yn awr ymdrechais geisio Duw, ond gadawyd fi yn unig. Yr oeddwn ar fy mhrawf, a'm ffydd yn wan. Deisyfais ar iddynt beidio fy llofruddio; ac yna agorasom y drws ac aethom i'w mysg.

Achubodd yr Arglwydd fy mywyd; a gwnaeth iddynt adael i mi fyned pan ddywedais fy mod am droi i ffwrdd. Pan ofynais am heddwch yn enw'r brenin, dywedodd un na chawn niwed; a dywedodd un arall, pan oeddynt yn meddwl fy mathru dan eu traed, fy mod yn gyd-greadur. Cymerais fy ngheffyl, ac aethum ar hyd ffordd gefn; ond gorfod i mi fyned drwy ran uchaf y dref ar fy ffordd, a dyna lle yr oeddynt yn dod oll i'm cyfarfod eilwaith. Rhedodd un ataf drwy'r caeau, gan godi dwy dywarchen. Dymunais arno beidio fy lladd; taflodd un dywarchen ataf a methodd, yna taflodd y llall yn union heibio fy mhen. Aethum trwy eu canol, lluchiwyd cerig ar fy ol, ond cadwodd yr Arglwydd fi, ac ni chefais fy nharo gan gareg. Rhedodd un gyda pholyn ar fy ol i'm taro, ond nerthodd yr Arglwydd fy ngheffyl blinedig i garlamu, ac felly dihengais. Ond yr oedd fy nghyfaill ar ei draed, ac yn eu



Nodiadau[golygu]