Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (tud-35)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (tud-34) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Howell Harris (tud-36)

canol; ac ni theimlais gariad yn fy nhynu yn ol i'w achub, er na fedraswn wneyd dim. Ond achubodd yr Arglwydd ef a'r lleill. Pan ddaethum at fy nghyfeillion, galwodd tri neu bedwar o bobl ar ein holau. Yr oeddwn yn ddrwgdybus o honynt; er hyny arhosais hwynt. Yr wyf yn meddwl mai rhai wedi dod i'm dal ar fy nhaith oeddynt; gofynasant i mi beth oedd fy mywoliaeth, a beth oedd yn gwneyd i mi ddod o gwmpas, a chwestiynau felly.

Pan ar fy mhen fy hun, agorodd y Llyfr ar 2 Tim. i'. 17, 18. Treiais geisio'r Arglwydd, ond yr oedd wedi ciho; nis gallwn ei gael, ond medrais lefain: ' Arglwydd, nid af oddiyma nes yr edrychot arnaf." O mor ddigysur ydyw arnom hyd nes y daw yr Arglwydd o hono ei hun. Parodd ei ymadawiad oddiwrthyf i mi edrych ychydig i mi fy hun, a gwelais fod popeth o'i le,—(i) Nid oeddwn wedi cael galwad glir i ddod yma. (2) Nid ymddygais, y mae arnaf ofn, er anrhydedd i Dduw; a gwelaf na wnaf, os na chynhelir fi bob eiliad ac os na ddysgir fi gan Dduw. Ond cefais gysur wrth feddwl fy mod wedi gwneyd, er nad fel y dylaswn, eto fel y daeth i'm meddwl i wneyd. (3) Ni ddisgwyliais ddigon wrth Dduw, a thorais y gorchymyn: ' Nac ofnwch y rhai sydd yn lladd y corff.' Ond ildiais i ofn y cnawd, dywedais yn deg wrth elynion yr Arglwydd, gwelais fy hun yn llawn o hunan-gariad, yn cymeryd mwy o ofal am fy mywyd nag am achos Duw, ac nid oedd pryder am ei anrhydedd ef yn ddwfn yn fy nghalon.

Daeth y pethau hyn oll i'm meddwl; ond wrth ddisgwyl wrth Dduw, cofiodd drugaredd; er fy mod i yn hir mor galed a chareg, heb gariad, yn galed a sych, a'm calon yn berwi drosodd o feddyliau chwerwon am Dduw. Cefais gymorth i osod yr holl fater ger bron Duw, ac i ymbil ag ef, gan deimlo peth euogrwydd a'm caledai. Nis gallwn fyned ymaith,—disgwyliwn, gobeithiwn wrth weled tynerwch Crist,—ond yr oedd fy enaid mewn cadwynau. O'r diwedd rhyddhawyd fi, a medrais lefain gyda pheth gofid, wrth gofio i mi gwympo yn Adda, a cholli ei ddelw ef: ' Ai ni welir dy ddelw arnaf byth mwy? O anwyl ogoneddus Arglwydd! Ai nid digon genyt yr hyn a wnaeth Crist drosof? Tro oddiwrthyf wyneb dy gyfiawnder, ac edrych arnaf mewn trugaredd yn Nghrist. O edrych ar ei waed ef! '

Cefais feddwl rhydd i weddïo drostynt oll, ond ni fedrais gael taerineb. ' O Arglwydd, anwyl Arglwydd, yr wyf yn hiraethu am fod gyda thi. O pa hyd raid iddi fod nes y caf ddod! Ò 'rwyf yn hiraethu, 'rwyf yn hiraethu—cymer fi, enill y fuddugoliaeth yn llwyr dy hun. Yr wyf yn sicr nad oes yr un cythraul yn uffern haeddodd uffern yn fwy na fi, ond y mae genyt ti drugaredd—golch fi yn ngwaed Crist, selia fi yn blentyn i ti dy hun.'

Yna adfeddienais fy enaid, i ddweyd geiriau cariad melus, a diolchgarwch. Yna aethum at y brodyr; gweddïasom a chanasom ynghyd hyd saith. Wedi hyn aethum i dŷ fy ngyfaill, bu'm yno hyd wedi deg, yna i'm gwely.

Dysgais oddiwrth heddyw: (1) Fel y digir yr Arglwydd, ac fel y dengys ei amynedd wrth fy nyoddef. (2) Gymaint o wrthryfel sydd yn Satan, pan welir cymaint o derfysgu yn mysg dynion er cymaint o atalfeydd—er gwaethaf cydwybod, cyfreithiau dynol, gobaith, cywilydd, &c. (3) Fy mod bob amser yn teimlo yn ddiolchgar drostynt am y fraint o siarad a byw dros Dduw. (4) Beth wyf pan wedi i'm gadael, mor barod i edrych i lawr. Mor dda i mi ei fod ef yn dal gafael ynof fi, onide buan iawn y collwn fy ngafael ynddo ef. (5) Mor gryf ydyw cynddaredd Satan yn fy erbyn; a rhaid mai ei gynddaredd ef yw hwn, o herwydd nid oedd dim arall i enyn y bobl yn fy erbyn. Galwasant fi yn ymhonwr ac yn awdwr y cynhwrf hwn; a phe buasent wedi fy nghael allan o'r tŷ, yr oeddynt wedi meddwl fy nghario mewn cadair o gwmpas y dref, mewn gwawd." Yma daw ei fyfyrdodau a'i weddïau hyd nes y cysgodd, cyn un o'r gloch y boreu.

"Rhuegruawell, plwyf Penegoes, Sir Drefaldwyn. Yr oedd fy nghorff yn flinedig, wedi trafaelu ugain milldir ddoe, ac arhosais yn fy ngwely tan oedd agos yn naw. Breuddwydiais fy mod yn derbyn fy nghymun gyda'r Dissenters, ac arhosodd y meddwl hyfryd yn f'enaid. O mor ddiyni ydwyf; a phan fyddaf ar lawr, pa fodd y gallaf godi? A rhoddodd ffydd, wedi ei sylfaenu ar yr addewidion, allu i mi ddisgwyl am atebiad, o herwydd fod Duw wedi addaw, a bod Crist yn y nefoedd. Dadleuais hyn, fel y noson o'r blaen.

Wedi hyn, pregethais hyd oedd yn agos i un-ar-ddeg. Cefais beth cymorth wrth weddïo. A melus oedd pregethu am osod y sylfaen yn ddwfn, ac am afresymoldeb erlid. Daeth adnodau lawer i'm



Nodiadau[golygu]