Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (tud-36)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (tud-35) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Howell Harris (tud-37)

meddwl i ddweyd na chawn ond erlid yma. Cefais gymorth i siarad, yr wyf yn gobeithio, yn ddidderbyn-wyneb, a chyda thynerwch."

Oddi yma aeth tua Thalerddig, ac yr oedd yn nos ar ei brofiad wrth deithio. Nis gallai gredu mwy nag y medrai ehedeg, ond medrodd weddïo. Pregethodd ar gwymp Petr, gan ddifynu adnodau o'i hoff Rufeiniaid. Efengyleiddiodd, ac yr oedd yno "wylo mawr." Ar ganol adrodd ei bregeth dywed: "Yr wyf yn gweled cymaint o ddrygioni yn fy nghalon fel nas gallaf ddweyd y cwbl wrth fy mrawd Lewis Rees. Pan ofynodd un i mi i ble yr ai i gymuno, nis gallwn ddweyd wrthi am fynd ato ef, gan yr hoffwn gael seiadau yn ein heglwys ni; ond pan welaf na fyn Duw hyn, yr wyf yn ymostwng. Ni fedraf fyned gam o flaen ei Yspryd ef." Wedi prophwydo y profid eu ffydd, a chael hwyl ryfedd ar bregethu, a son am "offeiriad cnawdol," aeth tua Chwmcarne, a phregethodd yn nerthol ar ddiwydrwydd Satan, a phethau eraill. Ar weddi, cafodd Lewis Rees lewyrch rhyfedd, ond tywyll oedd hi ar Howell Harris. Eto teimlai fod rhywbeth yn ei gynal.

" Treuhais beth amser i drefnu i ba le i fyned yr wythnos nesaf. Teimlwn awydd cryf am fyned adref, meddwn deimlad i weddïo am fyned, i weled fy mam a ** Ond perswadiwyd fi, yn erbyn fy nheimlad, i fyned ffordd arall, o dosturi at eneidiau."

—————————————

COFLECH HOWELL HARRIS YN EGLWYS TALGARTH.

—————————————

Yr ydym yn gobeithio nad yw ein darllenwyr yn blino ar y dydd-lyfr. Yr ydymyn difynu mor helaeth o hono am ei fod yn taflu goleu cryf ar ansawdd y wlad, ac ar yr amgylchiadau a gyfarfu y Diwygiwr yn ei ymdrech i geisio efengyleiddio ei gydwladwyr; ond yn fwy arbenig, am ei fod yn ddangoseg o natur ei brofiad, y pruddglwyf a'i goddiweddai yn aml, ei ddyhead am Dduw, a'i ryfeloedd yn erbyn anghrediniaeth a llygredigaeth ei galon. Gellid meddwl y buasai, ar ol cymaint blinder ac erlid, yn dyheu am orphwys; ond pan yn ysgrifenu y dydd canlynol o Lanbrynmair, trefnu cyhoeddiad arall y mae. Fel hyn y dywed: "Arfaethai lefaru yn y sir hon hyd dydd Mawrth. Nos Wener yr wyf yn bwriadu, os Duw a'i myn, cysgu yn nhŷ fy anwyl fam, a phregethu yno boreu dydd Sadwrn." Yna trefna i gyfarfod a chyfeillion yn Nolygaer nos Sadwrn, myned i Cwm Iau, lle yn y mynyddoedd, rhwng y Fenni a Thalgarth, y Sul, i wrando ar yr offeiriad efengylaidd, Thomas Jones; leefaru yn y prydnhawn yn agos i Cwm Iau, a dychwelyd i'r Fenni i gysgu. Yna llefaru dydd Llun yn Llandilo, ger y Fenni, a nos Lun yn y Goetre, ger Pontypŵl; dydd Mawrth yn ysgol William Powell, a nos Fawrth yn y Trensh: dydd Mercher yn Llanafan, yn agos i dŷ hen ŵr oedd yn awyddus am ei weled, ac yn Brooks nos Fercher. Oddi yno myned i bregethu i Langynidr boreu dydd Iau, gan gyrhaedd Trefecca nos Iau. Ond wedi cyrhaedd adref, nid oes ganddo hamdden i orphwys. Arfaetha bregethu yn Nhrefecca boreu dydd Gwener, myned y Sul i wrando y Parch. Thomas Lewis, offeiriad ieuanc



Nodiadau[golygu]