Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (tud-37)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (tud-36) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Howell Harris (tud-38)

oedd yn bregethwr da yn nghymydogaeth Aberhonddu, a chychwyn oddi yno am daith faith arall yn Sir Benfro. Braidd nad oedd angerddolrwydd ei yspryd yn ei godi uwchlaw lludded corff; ac nid gwerthfawr ganddo yntau ei einioes ei hun, os gallai gyflawni rhyw wasanaeth i Grist ei iachawdwr. Yr un pryd, digalon y teimlai gyda golwg ar Sir Drefaldwyn. "Yr wyf yn ofni," meddai, "fod y sir hon dan felldith; yr wyf yn cael fod y rhan fwyaf, os nad yr oll, o'r boneddwyr yn elynion."

Fel yr arfaethasai Howell Harris, felly y cyflawnodd. Cychwyna tua Sir Benfro dydd Llun, Mawrth, 1740, gan bregethu dair gwaith yn ystod y dydd. Yn Llywel (Trefcastell) cynhelid ffair bleser; pregethodd yntau gydag awdurdod yn ei chanol. Ceisiodd Satan ei rwystro trwy osod un i fynu i holi cwestiynau iddo, ac un arall i ganu'r gloch, ac arall drachefn i gadw sŵn. Ond aflwyddiannus fuont. Wedi gorphen y bregeth, gosodasant i fynu ddawns yn y fynwent; nis gallai ei enaid yntau oddef iddo ymadael tra yr oedd y dawnsio yn myned yn mlaen; aeth i'w canol, a tharanodd felldithion y gyfraith ddwyfol yn eu clyw, nes eu gyru oll ar ffo. Trwy yr wythnos, cawn ef yn teithio o gwmpas deg milldir, ac yn pregethu dair gwaith y dydd, nes, erbyn nos Sadwrn, Mawrth 8, y mae yn cyrhaedd tŷ yr Hybarch Griffith Jones, Llanddowror. Gydag ef, a Madam Bevan, y treuliodd y Sabbath, ac yr oedd eu cymdeithas, yn ol ei ddydd-lyfr, yn wledd felus i'w enaid. Dydd Llun, yr ydym yn ei gael yn Llwyndryssi, plwyf Llangan, Sir Gaerfyrddin; a dydd Mawrth y mae wedi myned i mewn i Sir Benfro.

Yr oedd Penfro yr adeg yma yn gyffelyb i siroedd eraill Cymru o ran drygfoes, anwybodaeth, a choelgrefydd; os nad oedd, yn wir, yn fwy ofergoelus.[1] Dywedir yr ai y trigolion i'r llan, Sul y Pasg, yn nhraed eu hosanau, sef heb esgidiau, rhag, meddent, gyffroi y pridd. Ar foreu Nadolig cyfodent cyn dydd i edrych y Rhosmari, a thaerent ei fod yn blodeuo; ond rywfodd nid oedd y blodau byth yn aros hyd doriad y wawr. Credent fod ysprydion yn yr eglwys nos Calangauaf, yn cyhoeddi enwau pawb perthynol i'r plwyf a fyddai farw o fewn corff y flwyddyn ddyfodol. Ceid ambell un yn ddigon gwrol i fyned i wrando dan ffenestr y gangell; clywai hwnw, meddid, yr enwau yn cael eu cyhoeddi; ond pe elai a chydymaith gydag ef, ni chlywid dim. Ddydd Calanmai byddai ganddynt helynt fawr ynghylch "gwisgo y fedwen;" ymdyrai y lliaws ynghyd, a meddwdod ac ymladd fyddai y diwedd. Dyoddefai hyd yn nod y ddaear oblegyd anwiredd ei thrigolion.[2] Prin y gellid dweyd fod amaethyddiaeth yn bod o fewn y sir; ychydig neu ddim triniaeth a gaffai y tir; bwrid ychydig ŷd i'r ddaear yma a thraw, yn y llanerchau hawddaf i'w haredig; ond ni fyddai na gwrych na chlawdd o'i amgylch, a gwaith y trigolion trwy yr haf fyddai ei warchod, a chadw yr anifeiliaid allan o hono. Gwelir hyd yn nod y tir yn ddyledus i'r diwygiad. Yr oedd rhai eglwysi perthynol i'r Annibynwyr a'r Bedyddwyr wedi eu planu yma oddiar y ganrif flaenorol; ac ymddengys fod bedydd wedi bod yn destun dadl, a chwerwder yspryd nid bychan yn eu mysg, oddiar adeg y ddadl gyhoeddus ar lechwedd y Frenni Fawr, yn 1692, hyd yn awr. Y mae dydd-lyfr HoweH Harris yn llawn o gyfeiriadau at yr ymryson ynghylch bedydd; teimlai ei galon yn ofidus ynddo o'r herwydd.

Gwnawn ei ddilyn ar ei daith trwy y wlad gyda chymorth ei ddydd-lyfr a'i lythyrau.

Trefhowell, plwyf Llanfrynach, Sir Benfro, dydd Mawrth. Y peth cyntaf a wna wedi codi o'i wely yw gweddïo ar ran John Powell, gweinidog cyfagos perthynol i'r Bedyddwyr, yn ol pob tebyg, yn yr hwn y cred fod y gwaith da wedi ei ddechreu, ond yr ofna iddo gael ei arwain ar gyfeiliorn, a gwneyd niwed. Yna gofyna am gael ei wrando ar ran y Bedyddwyr, yn mysg pa rai y mae yn hyderus fod llawer o bobl i'r Arglwydd, ond amheua mai o hono ef y tardd eu hyspryd condemniol. " Melusa hwy a dy gariad," medd, " fel y byddont bobl bur i ti." Gweddïa yn ganlynol dros y Methodistiaid, ar iddynt gael eu cadw rhag cyfeiliornadau; a thros holl weinidogion y Gair. Cyfaddefa ei fod ef yn hollol allan o drefn, ar ei ben ei hun yn gyfangwbl, ond eto yn cael drws agored i'r weinidogaeth. " Gwna di, Arglwydd, dy ewyllys dy hunan arnaf," medd; " na ad i mi fyned yn fy nerth fy hun, nac yn fy neall fy hun." Ceisiwyd ganddo bregethu ar bwnc dadleugar, bedydd yn ddiau, ond ni wnai, o herwydd y cariad



Nodiadau[golygu]

  1. Methodíistiaeth Cymru
  2. Ibid