Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (tud-38)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (tud-37) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Howell Harris (tud-39)

a lanwai ei galon; yn hytrach ymosododd ar lygredigaeth yn y wedd o falchder, meddwdod, gwyn, a chybydd-dod.

Prydnhawn yr un dydd cyfeiria ei gamrau tua Maenclochog, ac ar y ffordd cyffröir ei enaid ynddo wrth siarad am Enoch Francis, gweinidog ymadawedig perthynol i'r Bedyddwyr, galara am y golled a barodd ei farwolaeth i'r eglwys, a gweddïa na chaffo Satan wneyd dinystr arnynt yn awr, wedi i Mr. Francis gael ei symud. Yr oedd Enoch Francis yn bregethwr gwych, ac yn dal gafael dyn yn yr athrawiaeth efengylaidd. Ei ddylanwad ef yn benaf a gadwodd eglwysi y Bedyddwyr yn Nghymru rhag gwyro at Arminiaeth, fel y gwnaethai amryw o'r eglwysi Presbyteraidd. Erbyn cyrhaedd Maenclochog nid oedd neb yn ei ddisgwyl, nid oeddynt wedi clywed am ei ddyfodiad; ond yn mhen rhyw awr casglwyd cynulleidfa o amryw ganoedd, a phregethodd yntau am agos i dair awr. Cyn dechreu, bu mewn ymdrechfa galed a Satan; ond rhoddodd yr Arglwydd fuddugoliaeth iddo ar y gelyn, a galluogwyd ef i lefain: "Satan, gwna dy waethaf! Yn enw yr Iesu yr wyf yn dy herio! Mi a dynaf dy deyrnas i lawr, ac a ddynoethaf dy ddichellion." Yr oedd y rhan gyntaf o'r bregeth yn daranllyd, ac yn dynoethi drygedd y galon; yna trodd i ddangos mai dyna y rheswm paham y dylent ddyfod at Grist. "Ar hyn," medd, "wylodd llawer yn chwerw; ac ymddangosai nerth mawr yn ein mysg oddi yno i'r diwedd. Cyn ymadael anoga broffeswyr crefydd i beidio ymryson, ac ymladd y naill yn erbyn y llall, ond i gytuno yn eu hymdrechion yn erbyn y gelyn. Cyfarfu yma a'r Parch. John Powell, y gweddïasai drosto yn y boreu; "a galluogwyd fi," medd, "i lawenychu yn galonog yn ei lwyddiant." Yn yr hwyr cychwyna tua Hwlffordd; y mae yn llefaru ar fin y ffordd; cyn cyrhaedd, clyw fod un M. P yn pregethu yn erbyn bedydd babanod, a theimla ei yspryd yn ymgynhyrfu gan awydd cymeryd i fynu arf yn ei erbyn. Eithr gwedi ail ystyriaeth, tyr allan mewn gweddi, i ofyn ar i'r Arglwydd lywodraethu ei yspryd a'i galon. Y mae yn clywed, hefyd, os aiff i Dyddewi, y caiff ei gymeryd i'r ddalfa, fod un Justice Vaughan wedi arwyddo gwarant i'r perwyl hwnw; "ond gwnaed i'r oll a glywais," medd, "ddylanwadu yn felus ar fy enaid, i'm tynu allan o fy hunan at Grist."

Dydd Mercher, y mae yn Hwlffordd. Wrth ddal cymundeb â Duw yn y boreu dywed: "Yr wyf yn gofyn am help yn unig i fod yn ffyddlawn i'm Harglwydd; nid yw fy mod i yn cael fy namsang mewn un modd yn ddolurus; nid oes arnaf ofn dim yn gymaint ag i mi drwy fy ngwaith dy ddianrhydeddu di." Gobeithia fod yr Arglwydd am ddefnyddio John Powell i ddiwygio y sir, a hydera y bydd iddo yntau gael gwneyd yr oll a fedr i gryfhau ei ddwylaw. Y mae yn pregethu i ganoedd lawer, cyfrifa y gynulleidfa tua dwy fil. Pregetha yr un dydd yn Saesneg am agos i ddwy awr; pwnc y bregeth yw fod crefydd yn gynwysedig mewn gallu, fel ei heglurir mewn cysylltiad â Zaccheus, ac yn nhroedigaeth Paul. Ymddengys fod yr odfa yn un dra nerthol; " llanwodd yr Arglwydd fy ngenau â geiriau," medd; "dyrchafwyd fy llais i fynu; gwnaed fy yspryd yn gryf; yr wyf yn gobeithio fod awdurdod yn cydfyned, ac i mi gael cymorth i edrych i fynu at Dduw." Pregetha ar yr un mater drachefn yn Gymraeg. Teimlodd hyfrydwch mawr wrth lefaru y ddau dro; ond yn arbenig yn Gymraeg. Yn ganlynol, ymgynghora â chyfeillion gyda golwg ar ei daith trwy ranau eraill y sir.

Dydd Iau, yr ydym yn ei gael eto yn Hwlffordd, ac yn myned i ymweled a'r Parch. Howell Davies, yr hwn feddyliem a ddaethai i'w wrando. Yr oedd y gyfeillach mor felus fel ag i beri i Harris waeddi "Gogoniant!" "Cefais ymddiddan maith ag ef am wahanol bethau," meddai. "Galwai ei sancteiddrwydd yn amod iachawdwriaeth; addefwn inau nas gallai iachawdwriaeth fod hebddo; ond nad oeddwn yn foddlawn ei alw yn amod, rhag i bobl gael eu gyru i chwilio am dano ynddynt eu hunain ac nid yn Nghrist, gan dybio na chânt eu derbyn os na byddant yn feddianol arno. Yr ydym yn cael ein cyfiawnhau er mwyn Crist, ac yn cael ein hachub trwy weled mawr gariad Duw yn rhoddi ei Fab. Ymddiddanasom am deimlad, a'r modd i brofi ei wirioneddolrwydd, trwy y cyfnewidiad a effeithia ar ein heneidiau a'n bywydau; am yr angenrheidrwydd am ffydd yn flaenorol i weithredoedd; am berygl moesoldeb heb egwyddor; am y perygl o fod yn amddifad o dlodi yspryd, i beri i ni anobeithio ynom ein hunain, a'n tynu allan o hunan at Grist; a pha fodd yr ydym yn cael ein cyfiawnhau yn ngolwg Duw trwy Grist, ac nid o herwydd ein hedifeirwch



Nodiadau[golygu]