Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (tud-39)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (tud-38) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Howell Harris (tud-40)

a'n gweithredoedd da." Teimlai Mr. Harris fod ganddo reswm cryf dros geisio cydnabyddiaeth eangach â'r Ysgrythyr. "Ymadawsom yn felus," meddai. A oedd Mr. Davies wedi ei ordeinio yn awr, sydd ansicr; ond y mae yr ymddiddan hwn rhyngddo ef, a wnaed gan yr Arglwydd gwedi hyn yn Apostol Sir Benfro, a Howell Harris, yr hwn a wnelsid yn Apostol holl Gymru, a rhanau helaeth o Loegr, yn dra dyddorol. Wrth fyned o Hwlffordd, clywodd bethau dychrynllyd am gyflwr moesol y wlad; fod meddwdod, puteindra, tyngu, a drygau cyffelyb yn ffynu ynddi, fel na wyddai beth i'w wneyd.

Dydd Gwener, y mae mewn lle o'r enw Loverson, tua saith milldir o Hwlffordd. Yma eto cyfeiria at y Bedyddwyr, ac ymddengys fod ei deimlad tuag atynt wedi newid yn gyfangwbl. "Cefais gryn deimlad," medd, "wrth weddïo dros John Powell. Mi fum nas gallwn garu y Bedyddwyr, na llawenhau yn eu llwyddiant; ond yn awr y mae y cadwynau oll wedi eu dryllio; yr wyf yn teimlo cariad atynt, a phleser yn eu llwyddiant; a mawr yw y nefoedd wyf yn fwynhau yn hyn." Pregethodd yma eto yn Saesneg a Chymraeg ar ein cwymp yn Adda, ac am gariad Crist. Gobeithia i lawer gael eu dwysbigo hyd adref yn yr odfa. Y mae yn myned oddiyno i dŷ Crynwr, yn mhlwyf Llanddewi. "Tra y bof yr ochr hyn i dragywyddoldeb," medd, "na fydded i mi dramgwyddo yr un o dy blant, o unrhyw blaid neu enwad." Pregethodd yma am nerth duwioldeb, oddiar y geiriau, " Deled dy deyrnas." Yn nhŷ y Crynwr y lletyai, ac ymddengys i'r gymdeithas rhwng y ddau fod yn nodedig o feluis; gobeithia Harris na chaiff ei adael i ddweyd gair anffafriol am y bobl hyn eto.

Dydd Sadwrn, y mae yn Pwllhook, ger Clarbeston. Llefarodd gyda nerth mawr am yr angenrheidrwydd o seilio ein gobaith ar waed Crist, a pharhaodd y cyfarfod dros ddwy awr. "O, na fyddai i Dduw," medd, "dosturio wrth y sir hon. Yr wyf fi yn ymadael a'r lle, yn unol a chyngor cyfeillion, er mwyn ymroddi i astudio, gan yr ymddengys mai hyny yw ewyllys Duw." Gwelir fod y pwnc o gymeryd ordeiniad esgobol yn ei flino o hyd. Oddi yma y mae yn myned i le na rydd ei enw, lle yr oedd cynulleidfa o dair mil o leiaf; cafodd nerth mawr wrth weddïo, a phregethodd hyd agos i saith ar "Deled dy deyrnas," gan gymharu y ddwy deyrnas a'u gilydd. Y Sul, y mae yn Wolf's Castle, lle y llefara ar gyfiawnhad. Llefara hefyd yn y prydnhawn, ond ni theimlai unrhyw awdurdod. Yna â tua lle o'r enw Trecomau, lle yr ymgynullasai amryw filoedd. Dydd Llun, y mae yn Nhre-Cadwgan, plwyf Whitchurch. Yr oedd yn flinderog mewn gweddi, ond cynorthwyodd yr Arglwydd ef i raddau. Yma gwelodd lythyr wedi ei ysgrifenu gan weinidog perthynol i Eglwys Loegr, yn erbyn y Bedyddwyr, ac achwyna nad yw y llythyr yn arogli o yspryd Crist. Am ddeg y mae yn cychwyn tua lle o'r enw Tygwyn. Yma cyfarfu a gweinidog perthynol i'r Bedyddwyr, o'r enw Thomas Williams, yr hwn a ofynai iddo pa brawf oedd ganddo dros fedydd babanod. Cyfeiriai Harris ef at i Cor. vii. 14: " Canys y gŵr digred a sancteiddir trwy y wraig, a'r wraig ddigred a sancteiddir trwy y gŵr; pe amgen, aflan yn ddiau fyddai eich plant; eithr yn awr sanctaidd ydynt." Nid oedd gan Mr. Williams ddim i'w ateb, ond nad oedd yn gweled bedydd babanod yn y geiriau. "Yr oeddwn mewn brys," meddai Mr. Harris, " ac nis gallwn aros; ond gwelwn eu bod yn ddeillion i dybio ei bod yn ddyledswydd arnynt dros Dduw i amddiffyn un gwirionedd, heb ystyried eu bod wrth hyny yn niweidio gwirioneddau eraill. Dywedais wrtho ei fod yn gwneyd yn iawn wrth ufuddhau i'r goleuni sydd ynddo ef; felly finau wrth ufuddhau i'r goleu sydd ynof fi."

Dydd Mawrth, y mae yn Hendre Einon, Tyddewi. Dywed ei fod yn deall ddarfod i'r Arglwydd eisioes ei arddel i wneyd daioni mawr yn Sir Benfro, a bod un Cadben Davies a'i foneddiges wedi ymlynu wrtho. Gweddïa: "O Arglwydd, tosturia wrth y sir hon. Yr wyf yn foddlawn cymeryd fy arwain genyt ti, gyda golwg ar fy ymddygiad yn y dyfodol, pa un a af o gwmpas a'i peidio. Galluoga fi i ddal i fynu, gorff ac enaid." Pregetha i amryw filoedd ar drueni yr hwn sydd heb Grist, am y creadur newydd, ac am y ffydd sydd yn cyfiawnhau, ac yn gafaelu yn y Gwaredwr. Yr oll a ddywed am yr odfa yw fod yno nerth, a'r gwirionedd yn chwilio y galon. Yn Methodistiaeth Cymru ceir hanes manylach gan Mr. T. Rees, Trepuet. Dywed ef y pregethai Mr. Harris wrth y Groes, ynghanol yr heol; fod hyny wedi cael ei hysbysu yn flaenorol, ac i dyrfa fawr ymgasglu ynghyd.



Nodiadau[golygu]