Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (tud-4)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (tud-3) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Howell Harris (tud-5)

Teimlai ei fod wedi ei werthu dan bechod, ei fod yn gnawdol, ac nas gallai gredu, na galaru yn briodol am ei ddrygioni mwy nag y gallai ddringo i'r wybr. Yr oedd uffern wedi lledu ei safn i'w dderbyn, ac yntau heb adnabod llais yr iachawdwr. Eithr ar weddi, teimlodd gymhelliad un diwrnod i roddi ei hun fel yr ydoedd i'r Arglwydd Iesu, gan adael y canlyniadau yn gyfangwbl iddo ef. Yn erbyn hyn, pa fodd bynag, gwingai yr yspryd deddfol oedd ynddo; teimlai, os rhoddai ei hun i'r Arglwydd, y collai ei ryddid, ac na fyddai yn eiddo iddo ei hun. Ond gwedi ymdrech galed, gwnaed ef yn ewyllysgar i roddi ffarwel i bob peth tymhorol, ac i ddewis Crist yn rhan dragywyddol. " Yr wyf yn credu," meddai, " ddarfod i mi gael fy ngalw

—————————————

Eglwys Talgarth fel yr ydoedd yn amser Howell Harris

—————————————

y pryd hwnw yn effeithiol i fod yn ddilynwr i'r Oen." Nid oedd eto wedi cael cyflawn ryddhad. Aeth i'r cymundeb ar y Sulgwyn yn flinderog a thrwmlwythog dan euogrwydd ei bechodau. Eithr darllenasai mewn llyfr, " os byddai i ni fyned i'r sacrament, gan gredu yn syml yn yr Arglwydd Iesu Grist, y byddem yn sicr o dderbyn maddeuant o'n holl bechodau. Ac yn wir felly y bu i mi; cefais brawf eglur trwy yr Yspryd Glân, fod Crist wedi marw drosof fi, a bod fy mhechodau i gyd wedi eu rhoddi arno ef; a'm bod yn awr yn rhydd oddiwrth frawdle cyfìawnder, ac yn fy nghydwybod." Pan yn y wasgfa cawsai ei flino gan syniadau Atheistaidd, y rhai a wnaent ei fywyd yn faich iddo; " ond wrth weled fy Nuw ar y groes," meddai, " cefais ryddhad oddiwrth y profedigaethau hyny. Weithian yr oedd y byd hwn, a phob meddyliau am ddyrchafiad, a chlod dynol, wedi cwbl ddiflanu o'm golwg, a'r byd ysprydol a thragywyddoldeb yn dechreu ymddangos."

Dyma Harris yn ddyn newydd ac yn ddyn rhydd. Drylliwyd ei gadwynau yn chwilfriw, dihangodd yntau am byth gyda 'i Farnwr. Mewn canlyniad i hyn, IHfodd tangnefedd fel yr afon i mewn i'w gydwybod; prin y cyffyrddai ei draed a'r ddaear wrth fyned adref; gallai ddawnsio a neidio, fel y cloffyn mhorth y deml gwedi ei iachau. Wrth fyned o'r eglwys, dywedai



Nodiadau[golygu]