Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (tud-5)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (tud-4) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Howell Harris (tud-6)

wrth ei gymdeithion, gyda thôn orfoleddus: "Y mae fy mhechodau wedi eu maddeu!" Edrychai y rhai hyny yn hurt, heb ddeall ystyr ei eiriau, am nad oeddynt wedi bod yn y wasgfa; âi yntau yn mlaen at y fyntai nesaf, gan ddweyd yr un peth: " Y mae fy mhechodau wedieu maddeu!" Yr oedd hyny yn gymaint peth yn ei olwg a phe y buasai wedi cael nefoedd. Ni chlywsai neb yn gwneyd cyffes o'r fath o'r blaen, ond yr oedd llawenydd ei fynwes yn gyfryw fel y mynai fwrlymu i'r golwg; a mawr chwenychai i'w gymydogion lawenychu gydag ef oblegyd y ddihangfa. O hyn allan, cawn ef yn cyson ddâl cymdeithas a Duw, ac yn cael amlygiadau mynych o wedd ei wyneb. " Mehefin i8, 1735, pan oeddwn mewn gweddi ddirgel," ysgrifena,[1] " yn ddisymwth teimlais fy nghalon yn toddi ynof fel cwyr o flaen tân o gariad at Dduw fy iachawdwr; teimlais hefyd nid yn unig gariad a heddwch, ond hefyd hiraeth am ymddatod a bod gyda Christ. Yr oedd llef yn nyfnder fy enaid, na wyddwn am dani o'r blaen, 'Abba Dad, Abba Dad.' Nis gallwn beidio a galw Duw, fy Nhad! Yr oeddwn yn gwybod mai ei blentyn ef oeddwn, a'i fod yn fy ngharu ac yn fy ngwrando. Cafodd fy enaid ei lenwi, a'i lwyr ddiwallu, nes y gwaeddwn, 'Digon! Digon!' Dyro i mi nerth, ac mi a'th ddilynaf trwy ddwr a thân! "

Y mae yn brofedigaeth i ni fyned yn y blaen i ddifynu, ond rhaid ymatal. Nid oedd allan o'r maglau eto, er hyny; bu mewn aml brofedigaeth gyda'r gelyn ar ol hyn. Cadwai yr ysgol yn y blaen, gan ddisgwyl galwad oddiwrth berthynas agos iddo i fyned i Rydychain; a ry w ddiwrnod collodd ei dymher o herwydd cam-ymddygiad un o'r plant. Ar hyn, dyma y gelyn yn rhuthro arno, gan haeru ei fod wedi syrthio oddiwrth ras, ac wedi fforffetio ei hawl yn Nghrist. Ond wedi bod mewn ing enaid am dymor, danfonodd Duw gysur iddo trwy Mal. iii. 6: " Myfi yr Arglwydd ni'm newidir." Gwelodd nad ar ei ffyddlondeb ef y dibynai ei iachawdwriaeth, ond ar ffyddlondeb Crist, ei Waredwr. O hyn allan, byw i'r Iesu yw ei amcan. Ymneilldua oddiwrth ei hen gyfeillion difeddwl; penderfyna ymwrthod a phob dyrchafiad bydol; a gwertha yr oll oedd ganddo, gan eu rhoddi i'f tlodion. Yn mysg pethau eraill, teimla fod y dillad a wisgai yn flaenorol yn rhy wych i Gristion, ac yn cydymffurfio yn ormodol a ffasiwn y byd, ac felly ymâd a hwythau, gan gyfranu yr hyn a gawsai am danynt mewn elusen. Nid yw yn pryderu gyda golwg ar ei ddyfodol o gwbl; mentra ar addewid Duw.

Yn awr, y mae cyflwr ysprydol ei gyd-ddynion yn dechreu gwasgu yn ddwys ar ei feddwl. Gwel eu bod yn teithio y ffordd lydan, ac nad oedd neb o ddifrif yn eu rhybuddio am eu perygl. Methai ymatal rhag siarad a hwy am bethau ysprydol; ond y canlyniad oedd fod rhai yn ei ddirmygu, ac eraill yn tosturio wrtho; ceisiai un dosparth ei ddychrynu, tra yr oedd dosparth arall yn ei gynghori. Edrychent arno fel penboethyn. " Nid oeddwn gymaint a meddwl y pryd hwnw," meddai, " y byddai i'r Arglwydd fy nefnyddio i er bendith i neb; canys nid oeddwn yn gweled y tebygolrwydd lleiaf o hyny, ond yn hytrach i'r gwrthwyneb." Ond yr oedd gair yr Arglwydd yn llosgi fel tân o'i fewn, ac aeth yn ei flaen i gynghori pawb y deuai i gyffyrddiad a hwy. Am angeu, a'r farn, a thragywyddoldeb, y llefarai yn benaf, ynghyd a'r angenrheidrwydd am weddïo a derbyn y sacrament. Tywyll oedd ei syniadau; nid oedd ei ddirnadaeth o athrawiaethau yr efengyl ond cyfyng, ond ni chuddiai yr ychydig oleuni a feddai dan lestr. Cawn ef yn dechreu cynal addoliad teuluaidd yn nhy ei fam; a'r boreuau Suliau, cyn pryd eglwys, arferai amryw o'r cymydogion ddyfod i'w wrando yn darllen y llithoedd a'r Salmau. Meddai: "Nis gallwn orphwys na dydd na nos, heb wneuthur rhywbeth dros fy Nuw, a'm Hiachawdwr; ac nis gallwn, gyda boddlonrwydd, roddi hun i'm hamrantau os na byddwn wedi gwneyd rhyw wasanaeth er gogoniant iddo ef ar hyd y dydd. Yr oedd amser mor werthfawr yn fy ngolwg, fel nas gwyddwn pa fodd i'w dreulio yn hollol i ogoniant Duw, ac er daioni i eraill." Ymroddai i ddarllen a gweddïo pan ar ei ben ei hun, ac ai yn ei flaen i gynghori y bobl a ddeuent i'w wrando bob prydnhawn Sabbath. Erbyn hyn, yn ol ei gyfaddefiad ef ei hun, yr oedd wedi myned yn ddiareb gwlad. Dirmygid ef gan rai; bygythiai eraill wneyd niwed personol iddo; " ond," meddai, "yr oeddwn yn cael fy nghario fel ar adenydd trwy bob math o dreialon."

Nis gwyddai ei frawd Joseph, oedd yn awr yn Llundain, beth i'w wneyd o hono, nac o'i lythyrau; a lled awgryma fod y pruddglwyf wedi ei orchfygu. Er cael ymwared oddiwrth hyn, deil o'i flaen uchelgais



Nodiadau[golygu]

  1. Hunan-gofiant