Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (tud-41)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (tud-40) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Howell Harris (tud-42)

y wlad wedi dyfod i'w wrando, a gobeithia ei fod mewn yspryd cariad a phwyll wedi medru eu cyrhaedd. Yn Gymraeg pregethai ar dröedigaeth Paul, ac ymddengys fod y cyfarfod yn un nodedig iawn. "Galluogwyd fi," medd, "i daranu mewn modd ofnadwy iawn gyda golwg ar uffern." Cyn gorphen, pa fodd bynag, cyfeiria at gariad Crist. Ymddangosai effeithiau anarferol yn cydfyned a'r traddodiad, a llawer yn cael eu dwysbigo. Achwyna fod John Powell yn ymgynhyrfu gyda golwg ar fedydd, a'i fod y dydd Llun blaenorol wrth bregethu wedi galw yr athrawiaeth am fedydd babanod yn gyfeiliornus, uffernol, melldigedig, a chythreulig. "O," meddai, "fel yr wyf yn hiraethu am heddwch a chariad."

Dydd Iau, y mae yn Nevern, tua milldir o Trefdraeth. Teimlai angenrhaid arno yma i lefaru ar "Profwch yr ysprydion." Gofynwyd iddo fyned gydag un a eilw "Parson Thomas," gweinidog perthynol i'r Bedyddwyr, yn ol pob tebyg. "Yr wyf yn meddwl," ysgrifena, " ei fod er gogoniant Duw i mi fyned; nid i ymryson a'r Bedyddwyr, ond i geisio atal yr ystorm, a pheri i bawb brofi eu hunain. Yn sicr, y mae Dliw yn caelei ddianrhydeddu, ac eneidiau yn cael eu dinystrio, trwy y zêl hon." Üddiyma â tua Glyn-Meredydd. "Yr wyf yn credu," meddai, "fy mod yn eiddo i ti. Ti yw fy Mrenin, a fy Meistr." Wrth ganu, portreadwyd dyoddefaint, angau, a chariad yr Arglwydd Iesu, mor fyw gerbron llygaid ei feddwl, fel yr enynwyd fflam o gariad yn ei enaid yntau. Yn nesaf yr ydym yn ei gael mewn lle o'r enw Dygoed. Dydd Sadwrn y mae mewn lle o'r enw Bwlchyclawdd, yn mhlwyf Maenclochog, y Sul yn Rhyd Hir, plwyf Llanddewi Velfrey, a dydd Llun y mae yn ymadael a Sir Benfro, ac yn cyrhaedd lle o'r enw Wenallt.

Gyda golwg ar y daith hon yn Mhenfro, y mae yn sicr mai yn y flwyddyn 1740 y cymerodd le; profa llythyrau a dydd-lyfr Mr. Harris hyny tu hwnt i amheuaeth. Amlwg yw idd ei ddyfodiad gynyrchu cyffro dirfawr. Pan y deuai cynulleidfaoedd o amryw filoedd i wrando, mewn gwlad mor deneu ei thrigolion, rhaid fod corff y boblogaeth am filldiroedd lawer o gwmpas yn crynhoi ynghyd. Y mae yn sicr fod yr odfaeon, rai o honynt, beth bynag, yn nodedig o nerthol; fod y cynulleidfaoedd yn cael eu hysgwyd fel cae o ŷd o flaen rhuthr y corwynt. Mynai y Bedyddwyr ddadleu ag ef gyda golwg ar fedydd; yr oedd ei enaid yntau yn cashau dadleuaeth, ac ni fynai ymryson. Nid oedd ganddo wrthwynebiad pendant yn erbyn yr athrawiaeth am fedydd y crediniol; ond credai ei bod yn cael ei gwthio yn ormod i sylw, pe byddai yn wir, a hyny ar draul esgeuluso gwirioneddau pwysicach. ond yr hyn a'i blinai fwyaf oedd fod y ddadleuaeth yn lladd yspryd crefydd, ac yn rhwystr anorfod ar ffordd y diwygiad. Nid oes amheuaeth na wnaeth y daith fanwl hon o eiddo Mr. Harris, yr hon a barhaodd bythefnos o amser, argraff annileadwy ar Sir Benfro, a'i bod yn rhagymadrodd ardderchog i lafur cyson Howell Davies yn y blynyddoedd dyfodol.

Medi, y flwyddyn hon (1740), cawn ef yn nghwmni Mr. William Seward yn cymeryd taith faith trwy ranau o Fynwy, Henffordd, a Brycheiniog. Yr oedd William Seward yn ŵr o safle gymdeithasol anrhydeddus; cawsai ei argyhoeddi mor foreu a'r flwyddyn 1728; daeth i gyffyrddiad a'r ddau Wesley, ond glynodd yn hytrach wrth Whitefield, ac yr oedd yn gydymaith iddo yn America yn y flwyddyn 1739. Yr oedd gyda Whitefield pan yr ymwelodd gyntaf â Chymru. Calfin trwyadl ydoedd mewn athrawiaeth, a chwedi cwympo allan a Charles Wesley, y mae yn croesi y sianel, ac yn ymuno â Howell Harris yn Mhontfaen. Pregethasant mewn amryw leoedd nes cyrhaedd Casnewydd. Yno ymosodwyd arnynt yn enbyd; rhwygwyd dillad Mr. Harris, a lladratwyd ei berwig, a bu raid iddo sefyll yn ben-noeth yn y gwlaw. "O ben-noethni hyfryd," meddai, "dan waradwydd Crist." Lluchiwyd cerig atynt, ac afalau pwdr, ynghyd â llaid; ceisiai ei gyfeillion gan Harris roddi i fynu, ond ni theimlai yn rhydd gwneyd hyny nes i'r Arglwydd gael goruchafiaeth ar Satan. Aethant oddi yno i Gaerlleon-ar-Wysg. Tra y gweddïai Seward, a hyny gyda melusder mawr, yr oedd pob peth yn dawel; ond pan y cyfododd Harris i bregethu, dyma y cythrwfl yn dechreu. Crochlefai y werinos; lluchient dom a llaid, ynghyd ag wyau a cherig eirin, at y llefarwyr, a tharawyd Seward ar ei lygad fel y llidiodd, ac yn y diwedd y collodd ei olwg yn hollol. "Gwell dyoddef hyn nag uffern," ebai yntau. Yn Nhrefynwy cedwid rhedegfa geffylau; ac yr oedd gwreng a bonedd wedi ymgynull ynghyd. Dechreuodd Harris lefaru ger neuadd y dref, lle yr oedd nifer o foneddigion a boneddigesau ar giniaw; ymddengys y



Nodiadau[golygu]