Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (tud-44)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (tud-43) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Howell Harris (tud-45)

gyflawnasai ar ran yr Eglwys. Nid hir y bu y clochydd, modd bynag, heb i'r farn ei orddiwes. Wrth ddychwelyd o argraffu ei lyfr, trodd i felin gerllaw y Bala i orphwys. Gofynodd y rhai a ddigwyddai fod yno ar y pryd, beth a gludai. Atebodd yntau mai interludc yn erbyn y Cradocs. Ond yr oedd y dynion yn cydymdeimlo a'r diwygiad. "Y distryw mawr," meddent, "pa beth a wnaethant i ti? Ble y mae y rhaf? ni a'i crogwn yn ddioed." Dychrynodd yr adyn, a phrin y dihangodd a'i fywyd yn ysglyfaeth. Wedi hyn aeth yn ffrwgwd rhyngddo a'r Canghellydd. Tybiai hwnw ei fod yn ceisio taflu y gloch ar ei gefn er mwyn ei ladd; rhuthrodd arno fel arth, ac ymladdfa waedlyd a gymerodd le, mewn canlyniad i'r hyn y tröwyd y clochydd o'i swydd. Bu farw yn dlawd a thruenus.

—————————————

LLYFRGELL TREFECCA, GYDA PHWLPUD A CHADAIR DDERW HOWELL HARRIS

—————————————

Yn ol Drych yr Amseroedd, yn Nglasfryn Fawr, tŷ Mr. William Pritchard, y pregethodd Howell Harris gyntaf yn Sir Gaernarfon. Saif Glasfryn Fawr yn mhlwyf Llangybi, ger Pwllheli. Cawsai William Pritchard ei argyhoeddi wrth wrando ar Ymneillduwr, o'r enw Francis Evans, yn cadw dyledswydd deuluaidd; anfonasai at Grifiìth Jones am ysgolfeistr i gadw ysgol ac i bregethu; yn unol a'r cais hwn y daeth Jenkin Morgan i'r Gogledd, ac yn y Glasfryn Fawr y cedwid yr ysgol. Teimlai y Canghellydd Owen yn gas at Mr. Pritchard oblegyd hyn, a rhoddodd ef yn Nghwrt yr Esgob. Gyda fod Howell Harris yn dechreu llefaru, rhuthrodd y Canghellydd, gyda haid o oferwyr wrth ei sodlau, arno. Rhoes yntau i fynu bregethu, a dechreuodd weddïo. Ceisiodd yr offeiriad luddias neb i glywed, trwy roddi ei law ar ei enau. Cododd Harris i fynu, a dywedodd:—

" Pa beth? A rwystrwch chwi ddyn i weddïo ar Dduw? Byddaf yn dyst yn eich erbyn am hyn yn y farn."

" Byddaf fi yn dyst yn dy erbyn di, y burgyn budr," oedd yr ateb, "am fyned ar hyd y wlad i dwyllo pobl."

Yna galwai ar un o'i ffyddlon ganlynwyr i ddyfod yn mlaen i gydio yn Harris. Eithr dychrynasid hwnw wrth glywed son am y farn, a gwrthododd, gan ddweyd: "A glywch chwi ar y gwŷr! Ni wn pa un o honoch yw y ffolaf. Ni feiddia yr un o



Nodiadau[golygu]