Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (tud-43)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (tud-42) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Howell Harris (tud-44)

yn llawn penderfyniad; " dyma y gwaed cyntaf a gollais dros Grist," meddai, "er i mi gael fy mynych fygwth." Yr unig beth a'i gofidiai oedd iddo gymeryd ei berswadio i roi i fynu pregethu; gwyddai na fyddai marw iddo ef ond mynediad i ddedwyddwch.

Wedi cael ei drin mor ddidrugaredd yn y Bala, naturiol disgwyl y buasai yn troi yn ol, ac yn gadael y Gogledd i farn; ond yn ei flaen yr aeth. Nid oedd Luther wrth fyned i Worms, pan y dywedai yr ai yno pe bai yn y lle gynifer o gythreuliaid ag oedd o lechi ar benau y tai, fymryn yn fwy gwrol dros Dduw nag oedd Howell Harris, pan yn wynebu Gwynedd yn awr. Nos Sadwrn, cyrhaeddodd Bwllheli, ond ni wyddai neb pwy ydoedd. Boreu y Sul, holodd am y pregethwr goreu oedd yn yr Eglwys yn y parthau hyny. Dywedwyd wrtho fod Canghellydd yr Esgobaeth yn pregethu yn Llanor. Yno yr aeth, ac efe a'i ddyfodiad i Wynedd oedd pwnc y bregeth. Galwai y Canghellydd ef yn weinidog dros y cythraul, yn au brophwyd, ac yn waeth na'r diafol, "oblegyd," ebai ef, "nis gall y diafol weithredu yma yn mysg dynion ond trwy gyfrwng offerynau o'r fath." Galwai arnynt er mwyn Crist a'i eglwys, ac o gariad at eu gwlad, i ymuno yn erbyn y fath ddyn ofnadwy, yr hwn a amcanai ddinystrio nid yn unig eu personau a'u meddianau, ond eu heneidiau dros byth. Fel hyn y llefarai y Canghellydd wrth ei blwyfolion, heb wybod fod y neb a ddynoethai yn bresenol. Ar derfyn y gwasanaeth aeth Harris ato, i ymgynghori ag ef gyda golwg ar osod ysgolion Cymraeg i fynu, ac i ymliw ag ef am y bregeth. Ar hyn deallwyd fod Howell Harris ei hun yn y lle. Dechreuwyd ymosod arno; ceisiai rhai fyned a'i geffyl oddiarno, eraill a daflent gerig at ei ben, ac o braidd y diangodd. "Tybiais," meddai, "na chawn byth genad i ddychwelyd yn fyw o'r parthau hyny."

Ymddengys fod y Parch. John Owen, y Canghellydd y cyfeiriwyd ato, ac oedd hefyd yn ficer Llanor a Dyneio, yn ddyn brwnt, ac yn dra llidus yn erbyn y Methodistiaid. Dywedir ei fod yn meddu ar gryn dalent, y medrai siarad yn rhigl a rhwydd, a bod ganddo ddylanwad nid bychan yn y wlad o gwmpas. Er mwyn rhwystro y diwygiad trefnodd, gyda ei frodyr y clerigwyr, i gadw cyfarfod bob dydd Mercher yn Dyneio, ger Pwllheli, i bregethu yn erbyn yr hyn a alwent yn gyfeiliornadau dinystriol, oedd yn ymdaenu ar led y wlad. Deuai yr offeiriaid i gynal y cyfarfod yn eu tro; eu testynau fyddai: " Ymogochelwch rhag gau brophwydi; " " A chanddynt rith duwioldeb, eithr wedi gwadu ei grym hi;" "Y rhai hyn sydd yn ymlusgo i deiau, gan ddwyn yn gaeth wrageddos flwythog o bechodau," &c. Nid yw yn ymddangos, pa fodd bynag, i'r weinidogaeth enllibaidd hon rwystro dim ar y cerbyd. Yr oedd gan y Canghellydd hefyd glochydd talentog, yr hwn oedd yn ogystal yn ysgolhaig pur wych. Y gwr hwn a gyfansoddodd yr * interliwt enllibaidd yr ydym wedi cyfeirio ati yn barod, yr hon a elwir yn "Interlude Morgan y Gogrwr."[1] Yn y gân fudr hon, nad yw mewn un modd yn amddifad o ddawn, gosodir Howell Harris i gyfarch "Chwitffild" yn yr ymadroddion a ganlyn:—

"Pedfaech chi mor dda 'ch tuedd, Mr. Sanctiddiol,
A rhoi i mine beth o'ch awdurdod nefol,
Rwy'n tybied y gwnawn heb ronyn dawn dysg,
Waith odiaeth yn mysg ynfydion.

Mi fedra grio ac wylo'n greulon,
Mewn golwg, heb ddim ar y nghalon;
A phregethu rhagrith heb ronyn rhith rhaid,
I dwyllo trueiniaid tlodion.

Mi fedraf, pan fynwyf, roi pres ar f' wyneb,
A dweyd mai Gair Duw a fydd pob gwiriondeb,
A throi 'r Ysgrythyr, loew bur wledd,
Gwaith anial wledd, i'r gwrthwyneb.

Mae genyf ddigon wedi eu hudo yn y Deheudir,
A ddaw ar fy lledol fel ped fawn i garn lleidr,
I 'mofyn am ryw gyngor gwan
Mewn hylltod wedi can' milldir."

Fel hyn y dywed Harris wrth Jenkin Morgan : —

"Dos di 'mlaen yn rhith y prophwyd Elias,
Mi ddeuaf finau 'n swydd Simon Magus, neu
Suddas,
Ni a fynwn arian am gadw nad,
Os bydd dim yn y wlad neu 'r deyrnas."

Nis gallwn ddilyn yr Interlude yn mhellach; rhaid addef fod ynddi ddawn, ond dawn celwyddog ydyw, wedi ei fwriadu i daflu gwarthrudd ar gymeriad y rhai a wynebent bob math o beryglon, heb un amcan is nag achub eneidiau. Pa fodd bynag, boddhaodd y clochydd ei feistr. Galwyd cyfarfod o fonedd y tir yn mhalas Bodfel i ddarllen yr Interlude, a'r fath oedd y boddlonrwydd a roddodd iddynt, fel y tanysgrifwyd haner can' gini yn y fan a'r lle i'r clochydd, am y gwasanaeth a



Nodiadau[golygu]

  1. Gwel tudalen 51.