Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (tud-51)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (tud-50) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Howell Harris (tud-52)

Kennox; llefarodd am gân Simeon a Mair, cafodd ei dynu allan yn rhyfedd. Disgwyliai gyfarfod a'r brawd Howell Davies yno, ond cafodd ei siomi. Gweddïodd drosto, pa fodd bynag. Dydd Sadwrn â i Lwyndyrys. Yma, er ei fawr lawenydd, daeth Howell Davies ato. Ar gyfer y Sul ysgrifena yn ei ddydd-lyfr: "Yr wyf wedi ymadael a'r anwyl a'r cariadus Howell Davies; cydunem yn hollol yn mhob peth, er fod Satan wedi ceisio creu ymraniad. Dywedais wrtho am drefn yr eglwys yn Llundain, ac am y gwaith mawr yn mhob man, a chefais ddoethineb i osod allan yn glir y pethau a rodded i mi." Dywed ei fod yn awyddus i'r diwygiad fyned yn ei flaen pe na bai ganddo ef un llaw ynddo; yn ewyllysgar iddo fyned yn ei flaen fel y mynai Efe, a thrwy yr hwn a fynai Efe. Y mae yn foddlon peidio myned i seiat y gweinidogion, rhag iddo beri gofid iddynt. Yna gweddïa: " O Arglwydd Iesu, pa bryd y caf ddyfod adref! O, yr wyf yn hiraethu am gael dyfod adref atat ti! Yno, fy Nhad, fy Mrawd, ni phechaf! " Aeth yn ei flaen i Landdowror, yna i eglwys Llandilo, lle y pregethai y Parch. Griffith Jones yn y prydnhawn, a daeth awel hyfryd ar ei enaid. Pregethai Mr. Jones—"y gwerthfawr Mr, Jones," y geilw Howell Harris ef—ar adgyfodiad Lazarus.

Gadawa Landdowror y Llun, y mae yn Cilgarw, ger Caerfyrddin, dydd Mawrth; yn Llanon dydd Mercher; Llansamlet, ger Abertawe, dydd Iau; Llanddeusant, Sir Gaerfyrddin, dydd Gwener. Dydd Sadwrn, yr hwn hefyd yw dydd Nadolig, y mae yn Llanddew, ger Aberhonddu, am bump o'r gloch y boreu yn y plygain, lle y gwasanaethai y Parch. Thomas Lewis. Oddi yno brysia yn ei flaen i Drefecca, fel y gallai gymuno yn eglwys Talgarth yn ol ei arfer. Ar ei ffordd clywodd fod ei gyfeillion wedi cael eu hatal o gymundeb yr Eglwys. Derbyniodd y newydd yn hollol dawel; yr oedd ei feddwl yn llawn o heddwch hyfryd, "nid oherwydd dylni," medd, "ond o herwydd ffydd, gan y gwelaf Grist yn mhob peth. Teimlais barodrwydd i adael yr Eglwys, a llawn nerth i ddyoddef hyn; ond teimlwn nas gallwn adael fy mrodyr i gael eu bwrw allan, heb fyned allan gyda hwynt." Yna aeth at yr offeiriad, y Parch. Price Davies, i ymholi ac i achwyn. Dywedodd hwnw, ei fod, oddiar resymau digonol, wedi penderfynu na chai y Methodistiaid gyfranogi o'r sacrament. "A ydych yn fy atal i rhag dyfod i'r ordinhad? " gofynai Howell

Harris. "Ydwyf, yn benderfynol," meddai y Ficer. Llanwyd enaid y Diwygiwr â heddwch dwfn wrth glywed; ymddiriedai yn ngeiriau Duw fod pob peth yn gweithio er daioni i'r rhai sydd yn ei garu; yna dywed: " Gwelais fod daioni mawr yn rhwym o ganlyn hyn; y mae y gwaith o Dduw; yr wyf finau yn foddlon dilyn. Llanwyd fy enaid â thosturi a chariad at yr offeiriad a'r bobl." Gobeithia, er iddo ef gael ei droi allan, y deuai Duw i achub y bob', druain. Y mae yn foddlon cael ei ddirmygu, ac i weled ond ychydig yn dyfod allan gyda hwy.

Yr oedd hyn cyn myned i'r eglwys. Yn y gwasanaeth, wrth glywed y Litany yn cael ei ddarllen ynghyd a'r llithiau, cafodd hyfrydwch mawr; teimlai fod yr adnodau yn nodedig o gyfeiriol. Pregethai yr offeiriad yn erbyn y rhai oeddynt yn mynychu cyfarfodydd crefyddol y tu allan i eglwys eu plwyf; galwai hwy yn Sismaticiaid, a dywedai eu bod yn archolli corff Crist ac yn trywanu ei ystlys sanctaidd mor wir a'r milwr a'i gwanodd a phicell. Tosturi dwfn ato a deimlai Harris, gwelai ei fod yn llefaru yn ol y goleuni oedd ganddo. Ond bu raid i'r Diwygiwr ymadael heb y fraint o gofio angau y Gwaredwr. Ar y ffordd i Drefecca, penderfynodd roddi yr holl achos gerbron yr Esgob, ac os byddai efe yn cadarnhau ymddygiad yr offeiriaid, nid oedd dim i wneyd ond cefnu ar yr Eglwys, er cymaint ei serch ati.

Cyrhaeddodd adref o gwmpas un; llifai heddwch fel yr afon i mewn i'w yspryd; bu yn ysgrifenu llythyrau ac yn cofnodi ei deimladau yn ei ddydd-lyfr hyd gwedi tri, yna pregethodd i gynulleidfa liosog oddiar Esaiah xl: " Cysurwch, cysurwch, fy mhobl." Cafodd nerth anghyffredin i gyfeirio eu llygaid at Grist; hydera i lawer gyfarfod a'r Arglwydd y prydnhawn hwnw. Cyfeiriodd at waith yr offeiriaid yn eu cau allan o ragorfreintiau'r tŷ, a dywed ei fod yn foddlon i'r mater, pwy yw y gwir brophwyd dros Dduw, gael ei benderfynu yn y farn ddiweddaf. Dyma lle y teimlodd fwyaf o nerth wrth lefaru; a syna at y cariad angerddol a lanwai yr ŵyn. Er ei fod heb gysgu y noson flaenorol, a'i fod wedi bod mewn chwech o gyfarfodydd cyhoedd a phreifat y dydd hwnw, cychwyna gyda mîn y nôs i Sancily, ffermdy lled fawr, yn nyffryn Wysg, rhwng Talybont ac Aberhonddu, yr hyn a wnelai ei daith am y diwrnod



Nodiadau[golygu]