Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (tud-52)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (tud-51) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Howell Harris (tud-53)
yn ddeng-milldir-ar-hugain. Er hwyred ydoedd, pregethodd mewn lle o'r enw Tygwyn. Ei destun ydoedd: " Trowch eich wynebau ataf fì holl gyrau y ddaear, fel y'ch achuber." Ar y dechreu yr oedd yn dra difywyd; nid oedd unrhyw ddylanwad yn cydfyned a'i eiriau; ond rhoddwyd ef yn rhydd; cafodd nerth rhyfedd, a chariad a goleuni, i edrych at Grist.
LLAWYSGRIF HOWELL HARRIS.

Boreu y Sul y mae yn Sancily, a daeth i'w feddwl drachefn y priodoldeb o fyned dros y môr; teimlai ** a Chymru yn agos iawn at ei galon, ond galluogwyd ef i'w cyflwyno i'r Arglwydd Iesu. Teimlai Dŷ yr Amddifaid (a adeiladesid yn Georgia gan Whitelìeld) eglwysi yr ochr arall i'r cefnfor, yn pwyso ar ei feddwl, a mawr awyddai eu gweled. Credai y gallai yr Iesu gario ei waith yn mlaen yn y wlad yma hebddo. Aeth i eglwys Llanddew, lle y pregethai y Parch. Thomas Lewis. Yno cafodd les i'w enaid. Yr oedd ganddo amcan deublyg wrth fyned i Landdew, sef cael cyfranogi o'r sacrament, yr hyn a waharddasid iddo yn eglwys Talgarth gan Mr. Price Davies, y ficer, a chael ymgynghori a Mr. Thomas Lewis, yn ngwyneb y dyryswch newydd oedd wedi codi. Toddodd ei galon fel cwyr ynddo wrth nesu at y bwrdd; tynwyd ei yspryd yn agos iawn at yr Iesu, a melus oedd y gyfeillach. Teimlodd fod yr Iesu yn aros yn ffyddlon, pan yr oedd ef yn cael ei fwrw allan o eglwys ei blwyf. Wrth edrych ar yr elfenau, gwelodd fwy o ddirgelwch yr undeb rhwng y ddwyfoliaeth a'r ddynoliaeth yn mherson y Mab nag erioed.

Aeth oddi yno tua Merthyr Cynog; clywai fel yr oedd y gwaith yn myned rhagddo yn mhob man, a phenderfynai lynu wrth yr ŵyn. Cyrhaeddodd yno o gwmpas pedwar; "Trowch eich wynebau ataf fi," oedd ei destun, cafodd nerth mawr wrth weddïo, ac wrth anerch y dyrfa. Yn yr hwyr aeth i le a eilw Alltmawr, pregethodd hyd gwedi naw oddiar Zech. xii. 10: "A thywalltaf ar dŷ Dafydd, ac ar breswylwyr Jerusalem, yspryd gras a gweddïau, a hwy a edrychant arnaf fi yr hwn a wanasant; " ac yr oedd y nefoedd yn gwenu arno, Bu i lawr hyd gwedi un-ar-ddeg yn cynghori yr ŵyn.

Dydd Llun, y mae yn Llanddewi'r Cwm; anogodd y bobl i edrych at Grist, yna cychwynodd i Langamarch, lle y cyfarfyddodd a'r anwyl Mr. Gwynn. Ei destun yno oedd: "Wele Oen Duw," a chaffodd ddirfawr nerth i lefaru.

Gwedi cymdeithas felus a Mr. Gwynn, cyfeiriodd ei gamrau tua Dolyfelin. Ar y ffordd bu yn dda ar ei enaid; gwelodd bechod fel y mae yn erbyn yr Iesu, ac felly dychrynai rhagddo yn gystal a rhag ei ddoethineb, ei ewyllys, ei reswm, a'i gyfiawnder ei hun; gwelodd Grist yn ogoneddus, a'i hunan yn ofnadwy, nes y gweddïodd: " O, achub fi rhag fy hunan! " Pregethodd oddiar Heb. xii. 1, 2, gyda nerth mawr. Wedi hyny aeth tua Llanfair-muallt, yr oedd ei gysylltiad a Miss Williams, y Scrin, yn pwyso yn drwm ar ei feddwl; ar yr un pryd teimlai barodrwydd i'w rhoddi i fynu, ac i beidio ei gweled byth, os byddai hyny yn fwy manteisiol i ŵyn Crist. Cafodd undeb nefol, a rhyddid



Nodiadau[golygu]