Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (tud-53)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (tud-52) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Howell Harris (tud-54)

ffydd, yn nghymdeithas saint Llanfair; gwelai fod goleuni Crist yn peri iddynt ddirmygu yr hen gyfamod. Pregethodd yma eto oddiar " Trowch eich wynebau ataf fi," a chafodd ryddid a dirfawr felusder yn y gwaith. Aeth oddi yno tua chyfeiriad Hengwm, gan daflu bras-olwg ar ei lafur, er pan y dechrenodd fyned allan gyda'r efengyl. Dywed ddarfod iddo deithio tua deuddeg milldir y dydd am y pedair blynedd a haner diweddaf, ac felly fod ei holl deithiau am y tymor hwnw dros dair mil o filldiroedd, a'r cyfanswm am yr wyth mlynedd yn agos i chwe' mil. Traddodasai rhwng chwech a saith mil o bregethau, heblaw cofnodi ei deimladau a'r digwyddiadau yn ei ddydd-lyfr, ac ysgrifenu llythyrau dirif. Yn ychwanegol, cynghorai yn y seiadau. Cafodd gyfarfod nodedig o nerthol yn Hirgwm. Wrth weddïo daeth dylanwad rhyfedd ar ei yspryd; gwelodd ei holl bechodau wedi eu cyfrif ar Grist; " Gwelais ef,"' meddai, " yn gorchfygu angau ac uffern, ac yn gwneyd hyny drosof fi, yn fwy clir nag erioed; tynwyd fi allan o fy hunan yn fwy nag erioed. Yna, wrth bregethu oddiar 'Wele Oen Duw,' yr oeddwn yn ofnadwy, yn fwy gorchfygol nag erioed; yr oedd genyf yspryd ac awdurdod fel nas gellid gwrthsefyll. Yr oeddwn yn galw ar y chwareuwyr, ac yn condemnio eu hiaith, yn tori pob peth o'm blaen, gan gyfeirio at yr hen fyd, at Sodom, ac at y pechod yn erbyn yr Ysbryd Glân."

Ymddengys fod yr odfa, yr hon a ddesgrifia gyda manylwch, yn un ofnadwy; atebai esgusodion yr annuwiol; condemniai y teuluoedd diweddi, a'r rhai a ddygent eu plant i fynu gan eu harfer i chwareuyddiaethau; a dywedai, os yw Gair Duw yn wir, fod yr holl wlad yn myned tuag uffern. "Ychydig oedd genyf i'r ŵyn," meddai; "ond ni chefais y fath awdurdod erioed." Diau fod yno le difrifol mewn gwirionedd; mellt Sinai a oleuent i'r bobl eu cyflwr colledig, a tharanau yr Hollalluog a ruent yn eu clyw, nes yr oedd eu wynebau wedi myned fel calch, a'u gliniau yn curo ynghyd. Y mae yn Hirgwm hefyd dydd Mercher; aeth oddiyno i Cefnllys, yn Sir Faesyfed; dydd Iau y mae yn Cefnbrith, nid yn nepell o Cefnllys. Aeth oddiyno i Gore, ac ar y ffordd darllenai Lyfr Vavasor Powell, yn desgrifio ansawdd Cymru yn y flwyddyn 1641. Pregethodd yma oddiar Es. xlv. 22. Ar y dechreu yr oedd yn sych iawn, dim dylanwad, a braidd y medrai gael geiriau. Ond trodd at y gyfraith yn ddisymwth; yna daeth nerth mawr, tra y dangosai iddynt eu bod yn caru, yn ofni, yn ymddiried, ac yn rhyfeddu at bob peth ond Duw. Y mae yn y Rhiw dydd Gwener, y dydd diweddaf o'r flwyddyn 1742, a dydd Sadwrn, y cyntaf o'r flwyddyn newydd, y mae yn y Scrin, ar ymwehad a Miss Ann Williams. Teifl y difyniadau hyn allan o'i ddydd-lyfr oleuni mawr ar ei hanes, ar y diwygiad, ar y rhwystrau mawrion a'i cyfarfyddent, ac ar ansawdd ei feddwl yntau. Ond ein hamcan penaf oedd rhoddi rhyw syniad am fawredd ei ymdrechion, a'i yni diderfyn.

Ar ol dychwelyd o'r daith, yr hon a barhaodd agos i saith wythnos, rhydd y crynodeb canlynol o'i lafur, mewn llythyr at gyfaill: "Yr wyf, oddiar pan adewais Lundain, wedi teithio dros fil o filldiroedd, ac wedi llefaru dros chwech ugain o weithiau, fynychaf yn yr awyr agored, gan na all unrhyw dŷ gynwys y dorf, a hyny yn nghanol gwyntoedd, gwlawogydd, a rhew; ac eto nid wyf yn waeth o ran fy nghorff nag ar y dechreu. Hyfryd yw bod ar fy eithaf dros Dduw." Meddai, mewn llythyr arall, at un Mr. Baddington, "Pe baech yn cymeryd tro gyda mi am ddeufis neu dri, yn gweled fy llafur a'm profedigaethau, yr wyf yn sicr na ryfeddech gymaint am na anfonais atoch cyn hyn. Y mae yn awr ynghylch naw wythnos er pan ddechreuais fyned o amgylch De a Gogledd Cymru. Yn yr amser hwn mi a ymwelais â thair sir-ar-ddeg, a thrafaelais gan amlaf 150 o filldiroedd bob wythnos, gan bregethu ddwy waith, ac weithiau dair a phedair gwaith y dydd. Bum saith noswaith yn olynol heb ddiosg fy nillad. Teithiais o un boreu hyd yr hwyr dranoeth, heb orphwys, dros gan' milldir, gan bregethu ganol nos, neu yn foreu iawn, ar y mynyddoedd, rhag cael ein herlid."

Mewn gwirionedd, yr oedd ei lafur yn anhygoel. Y syndod yw nad ymollyngodd ei gyfansoddiad, er cadarned oedd, tan bwys y gwaith. Gwedi taith flin, a phregethu amryw droiau i dorfeydd terfysglyd, a'r holl wlad yn ferw ac yn gyffro o'i gwmpas, arosai i lawr drachefn hyd dri neu bedwar o'r gloch y boreu, yn gweddïo, yn ymdrechu yn galed a llygredigaeth ei galon, ac yn ysgrifenu, fel nad oedd ganddo nemawr o amser i orphwys. Efe, uwchlaw pawb, a arloesodd y tir, ac a dorodd y garw, i'r efengyl. Tybiai ef ei hunan yn fynych fod ei ddiwedd yn ymyl, ond ni



Nodiadau[golygu]