Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (tud-54)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (tud-53) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Howell Harris (tud-55)

theimlai unrhyw brudd-der o'r herwydd; yn hytrach cyffroid ei enaid ynddo gan y gobaith o fyned at ei Waredwr.

Fel enghraifft o'i ddyoddefaint gyda gwaith yr efengyl cymerer a ganlyn. Ryw noson clywai Mrs. Rumsey, Tynywlad, ger Crughywel, lais gwan wrth ddrws y tŷ, o gwmpas dau o'r gloch y boreu. Adnabu y llais, mai llais Howell Harris ydoedd. Prysurodd i agor, ac erbyn iddo ddod i mewn yr oedd golwg ryfedd arno. Wrth ddychwelyd o Sir Fynwy cawsai ei guro a'i faeddu yn dost; gorchuddid ei gorff gan waed, a chan archollion a chleisiau; cafwyd fod tri-arddeg o glwyfau ar ei ben, a'r syndod oedd na chawsai ei ladd. Cafodd bob ymgeledd posibl mewn ffermdy, ac aeth i ffwrdd boreu dranoeth yn siriol ei yspryd, gan ystyried mai braint oedd cael dyoddef anmharch dros Grist.

Dro arall, sef Mehefin, 1741, yr oedd ef a John Cennick yn Swindon ar eu ffordd i Lundain. Dechreuasant ganu ac efengylu, ond cyn gallu dechreu pregethu ymosodwyd arnynt gan y werinos. Saethent a drylliau dros eu penau, ac yr oedd ffroenau y drylliau mor agos i'r pregethwyr fel y gwnaed eu hwynebau mor dduon gan y pylor ag eiddo tinceriaid. Nid oedd arnynt fraw; agorasant eu mynwesau, a dywedasant eu bod yn barod i roddi eu bywydau dros eu hathrawiaeth. Yna cawsant eu gorchuddio drostynt oll a llwch yr heol, yr hwn a deflid atynt. Yn nesaf, cafodd y terfysgwyr beiriant dwfr, yr hwn a lanwasant o gwteri aflan, gan arllwys yr hylif budr ar weision Crist. Ond ni ddigalonent. " Tra y taflent y dwfr budr ar Harris," meddai Cennick, " pregethwn i; pan y tröent y peiriant arnaf fi, pregethai yntau." Parhasant i wneyd hyn, nes niweidio y peiriant; yna taflasant fwceidiau o ddwfr budr a llaid arnynt. Yr oedd boneddwr, o'r enw Mr. Richard Goddard, yn anog y terfysgwyr; benthycasai iddynt ei beiriant a'i ddrylliau i'r pwrpas; dywedai wrthynt am drin y ddau bregethwr cynddrwg ag y medrent, ond peidio eu lladd. Safai ar gefn ei geffyl yn edrych ac yn chwerthin. Wedi iddynt ymadael, gwisgasant ddwy ddelw, galwasant un yn Harris a'r llall yn Cennick, a llosgasant hwy. Diau mai hyn a wnaethent a'r pregethwyr eu hunain oni bai fod arnynt ofn. Nid digwyddiad ar ei ben ei hun oedd hwn, cyfarfyddent a'r cyffelyb yn mron bob dydd.

Fel pregethwr, math o Ioan Fedyddiwr ydoedd, a gwaith garw, rhagbarotôl, i raddau mawr, a gyflawnodd. O ran gallu gweinidogaethol, nid oedd i'w gymharu a Daniel Rowland. Yn ei flynyddoedd cyntaf, ychydig o drefnusrwydd fyddai ar ei sylwadau, ac ni arferai gymeryd testun, eithr llefarai yr hyn a roddid iddo ar y pryd. Tywalltai allan yr hyn a fuasai yn berwi yn ei fynwes, heb ryw lawer o reoleidd-dra, ond gydag awchlymder a nerth nas gallai dim sefyll o'i flaen. Ar yr un pryd, yr oedd rhyw hynodrwydd yn ei arddull, oedd yn ei osod ar ei ben ei hunan ynghanol pawb. Meddai Williams, yn ei farwnad:—

" Ond yn nghanol myrdd o honynt Mae rhyw eisiau o dy ddawn."

Nid rhaid ond edrych ar ei ddarlun," ysgrifena Dr. Owen Thomas,[1] " er mwyn gweled ar unwaith, mai nid dyn cyffredin ydoedd. Y mae y wyneb hir, ac yn enwedig yr ên hir yna, y trwyn eryraidd, yr aeliau mawrion, y talcen llydan er nad yw yn uchel, y genau agored eang, y llygaid treiddgar, a'r wynebpryd penderfynol yna, yn arwyddo ei fod yn berchen galluoedd naturiol cryfion, ac yn arbenig ei fod wedi ei wneuthur heb ofn." Yr oedd dwysder ei argyhoeddiad hefyd, yr ing enaid ofnadwy y pasiodd trwyddo, yr agosrwydd at dragywyddoldeb yn mha un yr oedd yn byw, yn awchlymu ei leferydd, ac yn rhoddi mîn ar ei eiriau. Meddai y Parch. John Hughes:[2] "Rhoes Duw iddo orchymyn, ' Llefa a'th geg, nac arbed; dyrchafa dy lais fel udgorn, a mynega i'm pobl eu camwedd, a'u pechodau i dŷ Israel." Y llef a ddywedodd wrtho, ' Gwaedda.' A gwaeddi yn groch a wnaeth: ' Pob cnawd sydd welit, a'i holl odidowgrwydd sydd fel blodeuyn y glaswelltyn.' Gwnaed ei wyneb fel callestr. Dyrchafodd ei lef uwchben dynion diofal nes yr oedd eu gwynebau yn gwelw-lasu." Pregethwr y werin anystyriol ydoedd yn benaf; pe buasai ei iaith yn fwy coeth, ei leferydd yn fwy tyner, a'i fater yn fwy athronyddol, ni fuasai yn offeryn cymwys ar gyfer y gwaith oedd Duw wedi dori allan iddo. Cyfeiria John Wesley, yn ei ddydd-lyfr, at rymusder ei genadwri. Ar gyfer dydd Llun, lonawr 22, 1750, ysgrifena: "Mi a weddïais yn y boreu yn y Fomidery (capel Mr. Wesley, yn Llundain),



Nodiadau[golygu]

  1. Cofiant John Jones, Talsarn.
  2. Methodistiaeth Cymru.