Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-10)

Oddi ar Wicidestun
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-09) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf
gan John Morgan Jones

Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-11)

amryw ystyriaethau, gan amryw Awdwyr, Bristol, 1744."

Nid yw enw James Ingram i'w gael yn nghofnodau Trefecca, ond y mae yn sicr ei fod yn bregethwr teithiol o gryn enwogrwydd. Nid yw hanes ei enedigaeth a'i ddygiad i fynnu gennym; ond ymddengys iddo gael ei argyhoeddi trwy Howell Harris. Yn fuan, gwnaeth Harris ef yn was ac yn olygwr ar ei eiddo yn Nhrefecca; a throdd y gwas, gan ganlyn ei feistr, i gynghori, Y llythyr cyntaf oddiwrtho sydd gennym, ysgrifennwyd ef at Harris, rywbryd yn y flwyddyn 1744, o garchar Aberhonddu. Cawsai Ingram ei ddal er mwyn ei orfodi i ymuno a'r fyddyn. Dyma un o ffurfiau yr erledigaeth yn erbyn y Methodistiaid, a ddygid yn mlaen gan offeiriaid a bonheddwyr y dyddiau hynny, sef carcharu y cynghorwyr, a'u gorfodi i fyned yn filwyr, neu i ymuno a'r militia. Cawn bedwar cynghorwr yr un pryd, yn y flwyddyn 1745, gyda'r fyddyn yn nhref Caerloyw. Ond i ddychwelyd at James Ingram. Yn ei lythyr o'r carchar, dywed: "Gyda chywilydd yr wyf yn cyffesu ei bod yn isel arnaf neithiwr; ond y boreu heddyw galluogwyd fi i lefaru ar y geiriau hyny:- 'Yn ôl dy ddydd y bydd dy nerth.' Cefais ryddid neithiwr i esbonio y ddeuddegfed bennod o'r Datguddiad, am o gwmpas awr; parheis yn hwy heddyw, gyda chymorth anghyffredin. Yr oedd fy enaid yn y nefoedd; yn enwedig pan oeddwn yn gweddïo drosoch chwi, a thros y cyfeillion. A chwedi hyny, pan y daeth fy nhad, a Sali (ei wraig), gweddïais gyda phleser mawr. Yr wyf yn erfyn arnoch berswadio Sali, yr hon sydd yn benderfynol o ddyfod gyda mi; ond yn sicr, nid yw yn iawn iddi wneyd, er fod ymadael a hi i mi fel pe y rhwygid asen o'm hochr." Prin yr oedd yr offeiriaid yn manteisio wrth garcharu James Ingram; yr oedd cynghori yn llosgi fel tan yn ei yspryd, a gwnâi hyny yn y carchar, i'r rhai, fel yntau, a gawsent eu dal, er mwyn eu gorfodi i ymuno a'r fyddyn.

Bu Mr. Marmaduke Gwynn yn gwneyd ei oreu i'w gael yn rhydd, eithr methiant a fu yr ymgais. Noddfa olaf pob Methodist gorthrymedig oedd yr Iarlles Huntington, ac ati hi yr apeliodd Howell Harris ar ran ei was. Y mae llythyr Ysgrifenydd yr Iarlles, a anfonwyd mewn atebiad at Harris, Mehefin 13, 1744, ar gael. Dywed: "Ein hunig ffordd i gynorthwyo Mr. Ingram yw trwy apelio at Iarll Stair, y prif gadfridog; ac ni fedd efe awdurdod dros y swyddogion gwladol, eithr yn unig y rhai milwrol. Felly, os nad yw Ingram wedi cael ei roddi i fynnu i'r awdurdodau milwrol, nis geill yr Iarll wneyd dim drosto, Cawsom ddwy esiampl o diriondeb a thegwch ei arglwyddiaeth yn ddiweddar. Pan y darfu i mi, fel goruchwyliwr yr Iarlles, brofi i'w foddlonrwydd fod y ddau y dadleuwn drostynt yn bregethwyr Methodistaidd, er heb fod mewn urddau, a'u bod wedi cael eu dirwasgu i'r fyddyn trwy falais a thwyll yr offeiriaid, a'r churchwardens, a'r oferwyr, efe a ryddhaodd un o honynt yn uniongyrchol, ar yr amod iddo dalu i lawr yr arian, a'r costau yr aethai y gatrawd iddi ynglŷn ag ef; yr hyn a wnaed ar unwaith. Ac am y llall, cafwyd dyn cryf i gymeryd ei le. Felly, chwi a welwch, y rhaid i chwi anfon pob manylion am Ingram, a phrofi nad yw yn syrthio tan y ddeddf seneddol ddiweddaf, gan ei fod yn was i chwi, ac yn edrych ar ôl eich eiddo, yr hwn ydych yn cadw tŷ, a'r cyfryw dŷ yn eiddo i chwi eich hun, a'ch bod wedi cael addysg dda yn yr ysgolion ac yn y brifysgol, a'ch bod yn parhau i ddilyn eich efrydiau. Nid rhaid i chwi ddweyd eich bod yn bregethwr Methodist. Ac os gellwch ychwanegu eich bod yn freeholder, goreu oll; a bydd yn barod o'ch plaid i gael eich ryddhau, pe y rhoddent mewn gweithrediad eu bygythion mileinig yn eich erbyn chwi. Rhaid i chwi nodi hefyd a pha gatrawd y cysylltir Ingram; pwy yw ei gadben, a'i filwriad, a rhaid i chwi addaw naill ai talu yr arian a'r costau i'r gatrawd, neu fod y dyn yn barod i'w gynyg yn ei le,"

Teifl y llythyr hwn ffrwd o oleuni ar y modd yr ymddygid at y Methodistiaid. Gwelwn (i) Fod y cynghorwyr yn cael eu gorfodi i ymuno a'r fyddyn. (2) Yr ystyrid eu cael yn rhydd trwy dalu arian, neu gynyg dynion eraill yn eu lle, yn ffafr. (3) Na cheid y ffafr hon heb apelio at yr awdurdodau milwraidd uchaf. (4) Nad oedd Howell Harris ei hun, er yn dal eiddo rhydd-ddaliadol, yn ddiberygl o gael ei bresio. (5) Mai yr offeiriaid, a'r rhai oeddynt yn ufudd weision iddynt, oedd wrth wraidd y cyfan. Pa fodd bynnag, daeth Ingram yn rhydd. Ysgrifena at Howell Harris, Mehefin ig, 1744: "Gallaf eich hysbysu fy mod allan o garchar Aberhonddu er ys pythefnos, ar yr amod fy mod yn rhoddi fy hun i fynnu yno pan ddaw y swyddog. Yr oeddwn yn rhy fyr



Nodiadau[golygu]