Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-11)

Oddi ar Wicidestun
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-10) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf
gan John Morgan Jones

Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-12)

i dir-filwr, a chedwir fi i fod yn fôr-filwr, er fy mod yn rhy fyr i hynny yn ogystal, gan nad wyf ond pum troedfedd a dwyfodfedd a hanner o hyd. Ni wn ddim am yr amser, na'r llong yn mha un y cymerir fi i ffwrdd, na pha un a gymerir fi o gwbl. Y mae amryw ynadon, a Syr H. H., aelod seneddol, wedi addaw gwneyd eu goreu i'm cael yn rhydd. Y mae eraill yn rhuo fel llewod. Eithr rhuent hwy; Duw sydd yn teyrnasu. Pregethais, yn gyffredin, dair gwaith y dydd yn ystod y tair wythnos y bum yn y carchar. Yr wyf yn awr ar fy nghylchdaith yn Sir Henffordd. Anerchwch bawb sydd yn caru llwyddiant Seion yn fy enw. Eich tlawd ac annheilwng was, ond trwy ras, eich dedwydd frawd, James Ingram." Tebygol mai yn rhydd, ac yn pregethu Crist, y bu o hyn hyd ddiwedd ei oes. Yn Gorph. 28, 1744, ysgrifenna Benjamin Cadman at Howell Harris gyda golwg arno: "Cafodd y brawd Ingram, pan oedd ddiweddaf yn Nantmel, alwad i fyned trosodd i Drefaldwyn. Atebai ef nad oedd ganddo awdurdod arno ei hun, ac nas gallai fyned heb eich caniatâd chwi, Yr ydym yn dymuno arnoch dalu ymweliad a ni, os gellwch; os na ellwch, ar i chwi roddi rhyddid i'r brawd Jemmi Ingram i ddyfod." Hydref, yr un flwyddyn, ysgrifenna John Sparks at Howell Harris o Hwlffordd:— "Neithiwr, pregethodd y brawd Ingram yn fy hen bwlpud i yma. Llefarai yn felus ac yn gysurlawn oddiar y geiriau:— 'I chwi y rhai sydd yn credu y mae yn urddas.' Daethai llawer i wrando, a gobeithiaf i rai glywed mewn gwirionedd." Yn Ionawr, 1745, cawn yr hen gynghorwr, John Richard, Llansamlet, yn ysgrifennu: "Mi a fûm gyda fy mrawd James Ingram yn Newton, yn ei wrando yn llefaru; daethai llawer o bobl i'w wrando, a gallaf ddweyd trwy brofiad ddyfod o'r Arglwydd yno i'n cyfarfod. Bendigedig a fyddo ei enw ef. Amen. Yr wyf yn credu i'r odfa gael ei bendithio i agor calonnau rhai i genhadon Duw, os nad i Dduw ei hun; canys chwi a ryfeddech y fath dynerwch oedd yn eu hysprydoedd. Gosodwch ar y brawd Jemmi i fyned yno mor fynych ag y gallo, canys yr wyf yn credu pe y byddai iddo fyned yno i aros am wythnos, y byddai i'r holl fro gael ei hagor i dderbyn cenhadau yr Arglwydd. Yr wyf yn teimlo fy enaid fel llew am ysglyfaeth, am gael yr eneidiau hynny oddi tan lywodraeth Satan." Y mae yn amlwg oddiwrth y llythyrau hyn a'u cyffelyb fod James Ingram yn dra phoblogaidd fel cynghorwr.

Tua chanol haf 1745, tybia fod Howell Harris wedi cael ei anfoddhau ganddo, oblegyd ei ddiofalwch. "Fel yr oeddwn yn dyfod o Erwd," meddai, " daeth i'm meddwl mai gwell fyddai i mi aros mwy gartref, gan fy mod i, a'm ceffyl, a'm golchiad, yn dra chostus i chwi, tra nad wyf o fawr gwasanaeth yn Nhrefecca. Eto, er mai prawf o falchder fyddai i mi dybio y gallwn gyffroi pobl anffrwythlawn y sir hon, yr wyf yn gostyngedig dybio fod gan yr Arglwydd genadwri atynt i'w hanfon drwof fi. Dynoethwyd braich yr Arglwydd tra y pregethwn yn ngŵyl Aberedw; darfu i un o brif ddynion yr wyl dori ei goes; a syrthiodd un arall, cymydog i ni, wrth ddychwelyd o wyl arall, dydd Sul diweddaf, oddiar ei geffyl, a bu farw yn y fan." Pa gysylltiad oedd rhwng pregethu Ingram a gwaith y dyn yn tori ei goes, ni ddywed; y mae yn fwy na thebyg yr edrychai ar y ddamwain fel barn Duw. Modd bynnag, adferwyd cyd-ddealltwriaeth yn fuan rhwng Ingram a'i feistr. Cawn amryw lythyrau o'i eiddo at Howell Harris gwedi hyn, yn mha rai y dengys awydd am ymroddi i'r gwaith Saesnig. Eithr cyn yr ymraniad yr ydym yn colli golwg arno yn llwyr. A fu efe farw yn gymharol ieuanc, neu ynte, a ymsefydlodd fel gweinidog Ymneillduol ar ryw eglwys yn Lloegr, nis gwyddom.

Ceir nifer o gyfeiriadau yn nghofnodau Trefecca, ac yn llythyrau Howell Harris, at James Beaumont, cynghorwr yn Sir Faesyfed. Ymdddengys mai yn Gore, lle yr oedd hen eglwys Ymneillduol, ac yn yr hwn le hefyd y bu seiat gynnes gan y Methodistiaid, y preswyliai. Dywedir ei fod yn ymadroddwr gwresog. Rhaid yr ystyriai Howell Harris ef yn mysg yr enwocaf o'r cynghorwyr, oblegyd enw Beaumont yw yr uchaf ar y rhestr bron yn ddieithriad, oddigerth eiddo Herbert Jenkins. Cafodd ei dderbyn i undeb y Gymdeithasfa fel cynghorwr cyhoedd yn Nghymdeithasfa gyntaf Watford, Yn Nghymdeithasfa Fisol Glanyrafonddu, cafodd ei benodi, gyda Howell Harris a Herbert Jenkins, i fod yn ymwelydd cyffredinol dros yr holl seiadau. Yn ail Gymdeithasfa Watford, gwnaed ef yn arolygwr dros seiadau Siroedd Maesyfed a Henffordd. Profa y llythyr canlynol, o eiddo Howell Harris ato, pa mor uchel y meddyliai y Diwygiwr o



Nodiadau[golygu]