Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-12)

Oddi ar Wicidestun
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-11) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf
gan John Morgan Jones

Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-13)

Drefecca am dano, a pha mor gynhes oedd y lle a feddai yn ei serchiadau. Y mae wedi ei ddyddio Gorph. 9, 1743: "Fy Mrawd Anwyl, ac agos iawn, Beaumont. Dal yn mlaen i ymladd; y mae y frwydr wedi ei henill; wele, y mae yr Iesu yn dangos y goron a bwrcaswyd ganddo. Dos rhagot, tydi filwr dewr; ni saf dim o'th flaen, oblegyd y mae Crist o'th ochr. Gwna ei glwyfau gwaedlyd ef lanw dy holl raid; ie, pe y gwnai angau ac uffern rwystro ar y ffordd. Clyw! y mae yr Iesu yn galw; bydded i James ufuddhau. Efallai y ca y llythyr hwn fy anwylaf frawd, a'm hagosaf gyfaill, yn flin arno ei hun, ac yn gruddfan am ryddid. Wel, cymer yr Iesu dy faich i ffwrdd; ac hyd hyny efe a'th gynal di dano, gan dy gymeryd yn llwyr o fysg pethau amser, a dangos i ti bethau na welodd llygaid eu cyffelyb. Y pryd hwnw cofia am dy frawd tlawd, ffol, drygionus, a phechadurus, a ddymunai rodio yn Nghrist. Y mae yr Arglwydd wedi gweled yn dda yn wastad ymostwng i ddyfod i'n plith pan fydd ei ragluniaeth yn ein dwyn yn nghyd. . . . Yr wyf yn mawr hiraethu am weled fy anwyl gydfilwr yn fflamio fwyfwy mewn zêl dros yr Oen; y mae pob gras a dawn a roddir i chwi yn mwyhau fy hapusrwydd. Yn fuan, ni a gyfarfyddwn draw, yn mysg y llwyth adeiniog, lle y bydd pechod a gofid wedi eu dinystrio. Yn sicr, nis gall neb yno glodfori rhad ras, a chariad arfaethol, yn uwch na ni, na chyda phereiddiach sain. Ydwyf, fy anwylaf frawd, a'm cydddinesydd, yr eiddot byth yn yr Oen,

How. Harris."

Dengys y llythyr hwn anwyldeb diderfyn Harris at James Beaumont. Y mae yn sicr ei fod yntau yn ddyn beiddgar, nodedig o ddiofn, ac agos mor egniol a Harris ei hun gyda theithio a phregethu. Rhydd y difyniad canlynol o lythyr a ysgrifenodd at Harris, Awst 2, 1742, olwg ar y dyn: "Y mae llawer dan argyhoeddiad yn Llanybister, Meddigre, Llanddewi, a Maesgwyn, lle y pregethais ddwy waith gyda nerth. Yr oedd y diafol yn rhuo ei oreu. Bendigedig fyddo Duw, y mae teyrnas yr un drwg yn cwympo i lawr bendramwnwgl o gwmpas ei glustiau. Felly nid rhyfedd ei fod yn rhuo, gan fod ei amser mor fyr. Bydded i'r Duw tragywyddol ddryllio ei deyrnas fwyfwy, er mwyn Iesu Grist. Amen." A yn mlaen i ddweyd fod drws newydd yn ei blwyf ef wedi cael ei agor i'r efengyl, lle y pregethodd y noson cynt, tan arddeliad amlwg; fod y churchwarden a'i deulu yn y cyfarfod; i lawer gael eu cyffroi; ac ar y terfyn i'r churchwarden ei wahodd i'w dŷ, ac arlwyo gwledd iddo. Pregethodd dranoeth yn yr un lle; yr oedd y swyddog eglwysig yno drachefn, a theimlodd dan y Gair i'r fath raddau, nes y bu raid iddo eistedd i lawr, a gwaeddu allan. Yr oedd rhai o'r teulu hefyd yn wylo dros y lle. Diwedda ei lythyr trwy ddweyd fod yr Arglwydd wedi ei fendithio yn rhyfedd yn mysg pobl Maesyfed, a bod ei ddau frawd, a'i chwaer fechan, yn rhodio yn ostyngedig gerbron yr Arglwydd. Nid bob amser yr oedd swyddogion eglwysig mor dyner o hono. Cymerer y difyniad canlynol a ysgrifenodd i Lundain at Mr. Grace, Tachwedd 29, 1742: "Bum yn ddiweddar yn Siroedd Brycheiniog, Henffordd, a Morganwg. Yn Sir Forganwg, yr oedd Duw gyda mi yn rhyfeddol; gellid meddwl fod teyrnas y cythraul yn syrthio; ni chefais y fath daith erioed o'r blaen, bendigedig fyddo fy anwyl iachawdwr. Aethum yn ddiweddar i wylnos a gynhelid yn y wlad. Gafaelodd offeiriad y plwyf ynof, gan fygwth fy rhoddi yn y stocs. Atebais inau i mi fod yn y stocs o'r blaen o herwydd yr un peth, a'm bod yn foddlon cael fy rhoddi ynddynt eto. Ni chyflawnodd ei fygythiad, ond cadwodd fi yno am beth amser, nes y gwaredodd yr Arglwydd fi o'i law. Aethum i dŷ ychydig ffordd o'r lle, a phregethais i nifer o eneidiau tlodion, y rhai a'm canlynasent o'r fan lle y'm cymerasid yn garcharor. Y mae yr Arglwydd yn rasol iawn i gynghorwyr tlawd Maesyfed. Y mae yn agor eu geneuau yn rhyfedd mewn ffeiriau a marchnadoedd."

Cafodd James Beaumont ei ran o erlidiau. Rhydd y llythyr dilynol, a ysgrifenwyd at Howell Harris, rywbryd yn y flwyddyn 1744, hanes ei ymweliad ef, a'r hen gynghorwr William Evans, Nantmel, a rhan o Sir Drefaldwyn: "Pan aethum i Lanidloes, rhoddodd boneddiges o'r lle genad i mi bregethu dan neuadd y dref. Ond gyda bod y bobl yn dechreu ymgasglu, daeth y churchwarden, gan beri terfysg mawr. Ymddengys fod ganddo awdurdod oddiwrth ganghellydd yr esgobaeth i'm rhwystro i lefaru yn y dref. Pan ddaeth yn agos ataf, gofynodd: 'Trwy ba awdurdod yr ydych yn pregethu yn y lle hwn?' Atebais inau mai trwy awdurdod Gair Duw. Ond ni ofalai efe am y



Nodiadau[golygu]