Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-13)

Oddi ar Wicidestun
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-12) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf
gan John Morgan Jones

Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-14)

pethau a berthyn i Dduw, eithr yn hytrach pa fodd y gallai fy nhynu i lawr o'r lle y safwn arno. Pan welais ei fod yn benderfynol o'm rhwystro, dywedais wrtho fy mod yn barod i ufuddhau i holl gyfreithiau y tir, yn wladol ac yn eglwysig, Dechreuodd geisio fy arwain ymaith fel carcharor; tynais inau fy oriawr allan er gweled pa awr o'r dydd ydoedd; ar hyn pallodd calon y dyn o'i fewn, newidiodd ei wedd, a chyfnewidiodd o ran ei leferydd. Dywedodd ei fod yn fater cydwybod ganddo i fy rhwystro, gan fod y canghellydd wedi ei orchymyn yn gaeth na chaifai neb bregethu yn y dref; ac os pregethai rhywun ar iddo ei gymeryd yn garcharor. Ond yn lle fy nghymeryd i fynu, aeth ymaith, gan ddymuno yn dda i mi.

"Yn bur fuan, dychwelais i'r lle yr oeddwn i bregethu, a rhoddais allan air o hymn. Trwy amser y canu yr oedd pob peth yn dawel; ond pan aethum i weddi, daeth yr yswain, gan ganu yn ei gorn hela, a galw ynghyd y bytheuaid bychain (beagles). Ymddengys mai y werinos derfysglyd a olyga wrth y beagles; ac mai siarad yn ffugrol y mae. "Ymddangosent," meddai, "fel cwn, yn barod am eu hysglyfaeth, Ond ni oddefodd yr Arglwydd iddynt fy nghamdrin yn mhellach na fy ngorchuddio drosof a thom, ac wyau. Rhegent y collent eu bywydau cyn y cawn bregethu yn y dref. Aethum inau i gwmyn cyfagos, ond y tu allan i gylch y gorffbriaeth, a chanlynodd llawer o bobl. Gwnaeth yr Arglwydd fi yn gryf, ac yn ddisigl, a rhoddodd i mi i lefaru ei air gyda hyfdra, ac nid oedd fy llafur yn ofer yn yr Arglwydd. Methais a phregethu yn Nhrefeglwys, oblegyd ystorm enbyd o wynt a gwlaw. Llechai ŵyn Crist o dan berth yn ymyl y fan y trefnasid i mi lefaru; ond treiddiai y gwlaw trwy y llwyni, ac yr oedd y creaduriaid truain yn oerion ac yn wlyb. Gan nad oedd cyfaill i'n derbyn, meddyliasom am fyned i dafarndy, ryw haner milltir o'r lle. Yno, yn y gwesty, cynyddodd y bobl. Erlidwyr oedd y tafarnwr, a'i wraig. Gofynasom ganiatad i ganu hymn, a chawsom; galluogodd Duw ni i ganu a'r yspryd ac a'r deall. Gwedi canu clodydd ein Prynwr, cymerais ryddid i gynghori ac i weddïo"

"O gwmpas deuddeg o'r gloch dranoeth aethom i'r Drefnewydd, a chauodd y trigolion o'n cwmpas ar bob tu. Lledent eu safnau arnom, ac ysgyrnigent ddanedd, fel llew parod am ei ysglyfaeth. Dywedodd Person y dref wrth ei ysgolheigion, pwy bynag o honynt a'n curai waethaf, y caffai fwy o ffafr gydag ef mewn cysylltiad ag addysg. Ffordd ryfedd o bwrcasu dysg, sef ei brynu a gwaed! Gwnaed yr ymosodiad cyntaf arnaf gan y menywod, y rhai a wlychent eu ffedogau yn nghenel y cŵn, er mwyn dwbio fy wyneb a'r budreddu aflan. Safai y brawd William Evans yn fy ymyl, gan geisio fy nghysgodi oddiwrth yr ergydion ar fy nghorph eiddil; ond yn ofer. Curent eu ceffylau, gan geisio gyru trosom. Codasant i fynu fath o gert, neu chwerfan, fel y syrthiai arnom, ac y rhoddai derfyn ar ein hoedl. Yr oedd y cerig a hyrddid atom yn myned gyda'r fath ruthr, fel y treiddient trwy glawdd, oedd ryw gymaint o bellder. Fel hyn y parhaodd y werin derfysglyd i'n baeddu yn y modd mwyaf barbaraidd, hyd nes i un o honynt fy nharo, fel y llewygais. Pan welsant nas gallwn ddal mwy, taflodd rhai o honynt eu harfau i lawr, gan ddweyd fy mod wedi cael digon. Daliai y brawd Evans fì yn ei freichiau hyd nes y daethum ataf fy hun, yna aeth i chwilio am fy ngheffyl, yr hwn a yrasid ymaith gan yr erlidwyr. Fel y safwn wrthyf fy hun, daeth dynes annhrugarog, gan geisio fy nharo a phren ysgwar, ond gwelodd y brawd Evans hi, a chyfryngodd rhyngof a'i hamcan gwaedlyd. Erbyn hyn yr oeddwn wedi fy ngorchuddio drosof a thom ac a gwaed, ac mor wan, fel nas gallwn sefyll heb gymhorth. Tra y ceisiai fy nghyfeillion fy nghynorthwyo allan o'r llaid, i ba un y cawswn fy nhaflu, daeth benyw, a thaflodd ddyrnaid o dom i'm safn, yr hyn a gymerth ymaith fy anadl, yn mron. Gwaedais tros ddwy filltir o ffordd, ar ol cael ymwared oddiwrth fy erlidwyr; a phan aethum i ddiosg fy nillad, cefais fod fy mhen, a rhanau o'm crys, fel pe y baent wedi eu trochi mewn gwaed, Wedi cael plastr i fy mhen, ac ymborth i fy nghorph, gweddîais ar fy Nhad nefol am faddeu iddynt, ac yr oeddwn yn ddedwydd o ran fy meddwl Dyma y derbyniad a gefais gan bobl y Drefnewydd. Yr wyf yn gweddïo ar i Dduw roddi iddynt galon newydd, er mwyn Iesu Grist. Amen, ac Amen."

Fel hyn yr ymddygid at yr hen gynghorwyr; dyma y driniaeth a dderbynient oddiwrth y bobl y ceisient eu llesoli yn yr ystyr uchaf. Ond er llid y personiaid, a chynddaredd y dorf, ni lwfrhaent; aent rhagddynt gydag yspryd diofn i gyhoeddi



Nodiadau[golygu]