Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-14)

Oddi ar Wicidestun
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-13) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf
gan John Morgan Jones

Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-15)

efengyl gras Duw i bechaduriaid. Ni chythruddwyd hwynt ychwaith fel ag i geisio dial eu camwri; yn hytrach, fel Stephan, y merthyr Cristionogol cyntaf, ac fel yr Arglwydd Iesu ei hun, medrent weddïo dros eu herlidwyr yn eu gwaed. Dyma wroniaid na fedr y byd ddangos eu rhagorach.

Yn mhen peth amser aeth Beaumont drosodd i lafurio yn Lloegr. Ysgrifena at Howell Harris, Ebrill ii, 1745, i ddweyd ei fod yn bwriadu myned tua Bath a Llundain. Achwyna hefyd yn y llythyr hwn fod oerfelgarwch wedi codi rhwng Harris ag ef. Pa beth oedd achos yr oerni nis gwyddom; tueddwn i feddwl mai gwahaniaeth barn ar ryw bwnc o athrawiaeth; ond cynyddu wnaeth y pellder rhwng y ddau gyfaill, nes myned yn dra dolurus. Cawn un Rice Williams, cynghorwr yn Sir Faesyfed, yn ysgrifenu at Howell Harris, Rhagfyr 29, 1748, fel y canlyn: "Bydded i'r Arglwydd frysio eich ymweliad a ni i gadw seiat breifat. Os ca pethau fyned yn mlaen yn hir fel y maent, gellwch ffarwelio a seiat Sir Faesyfed. Y mae rhai yn ddigon hyf i daeru, os troir Beaumont allan, y bydd i liaws o'r cynghorwyr ei ganlyn, gan ei fod yn sicr o gymdeithas y sir. Y mae Beaumont yn pregethu yn ein herbyn bob wythnos. Yn awr, y mae ein seiat fechan, oedd mewn perffaith undeb, yn ferw trwyddi, ac yn llawn o zêl bartïol. Yr wyf yn ofni y canlyniadau. Anfonwyd am dano ef (Beaumont) gan James Probert, i'r Castell, nos lau diweddaf, lle y maent yn ymgynull yn wythnosol, ond, fel ag yr wyf yn deall, heb yn wybod i'r lleill, Y mae wedi cael ei wahodd i ddod yma, hefyd, ar y dydd cyntaf o'r flwyddyn newydd; ond bwriadaf ei rwystro, gan fod Thomas James i fod yma, yr hwn sydd ychydig yn llai tra-awdurdodol. Y mae y ddadl ynghylch sancteiddhad, yr hyn (fel yr honant) nid yw ond credu syml. Ni oddefìr cyfeiriad at ddyledswydd, na gorchymyn; ac nid ydynt yn credu mewn cynydd mewn gras; a chaseir gwylio ac ymprydio. Y mae Tom Sheen wedi yfed yn ddwfn o athrawiaeth Beaumont; efe yw gŵr ei ddeheulaw. Llawer o'n haelodau a gloffant rhwng dau feddwl, heb wybod pa fodd i fyned yn mlaen. Y mae ein Credo Nicea yn cael ei chashau gan ein hathrawon newyddion; honant y dylai gael ei diwygio, yn arbenig y rhan am genhedliad o'r Tad cyn dechreuad y byd."

Fel hyn yr ysgrifena Rice Williams, a rhydd ei lythyr gipolwg ar y golygiadau wahaniaethol a ddelid gan Beaumont. Ai nid dyma wraidd y gymysgedd o Sandemaniaeth ac Antinomiaeth a ffynai am beth amser yn ardaloedd Llanfairmuallt, gwedi yr ymraniad rhwng Rowland a Harris, at ba un y cyfeirir yn Nrych yr Amseroedd, i'r hon y dywedir fod Thomas Sheen yn athraw? Nid yw yn debyg i James Beaumont fyw yn hir gwedi y llythyr uchod; y mae yn sicr ei fod wedi marw cyn y flwyddyn 1750. Dywedir mai cael ei daro a chareg a wnaeth pan yn pregethu yn yr awyr agored, ac i'r ddyrnod droi yn angau iddo. Y dyb yw mai yn Sir Benfro y cymerodd hyny le. Sicr yw ei fod yn ŵr ymroddgar, llawn o zêl a gwroldeb; a gofidus gorfod croniclo ddarfod iddo gyfeiliorni i raddau oddiwrth y ffydd cyn diwedd ei oes.

Y cynghorwr nesaf a ddaw dan ein sylw yw Thomas James, Cerigcadarn, yn Sir Frycheiniog. Ychydig iawn o'i hanes personol sydd genym, ond a allwn gasglu oddiwrth ei lythyrau, ynghyd a'r cyfeiriadau ato yn nghofnodau Trefecca. Ymddengys, modd bynag, iddo gael ei argyhoeddi tan weinidogaeth Howell Harris, ac iddo ddechreu cynghori ar unwaith. Y mae genym brofion y cynghorai yn nechreu y flwyddyn 1741. Mewn llythyr, dyddiedig Hydref 9, 1742, at Howell Harris, yn Llundain, dywed ddarfod iddo bregethu mewn gwylmabsant, yn Llanfihangel, y flwyddyn flaenorol, a chael ei fendithio i argyhoeddi rhyw enaid. Tybiai fod hyn yn gosod rhwymau arno i fyned i'r wylmabsant y flwyddyn ganlynol. Ceisiai y diafol ei rwystro, gan sibrwd wrtho y cai ei ladd; daeth nifer o gyfeillion ato i ddangos iddo y perygl, a gelynion i'w ddychrynu; ond ni wrandawai Thomas James; yno yr aeth; a'i fywyd yn ei ddwrn. Cyrhaeddodd Lanfihangel cyn i'r rhialtwch ddechreu; aeth y tafarnwr ato, a geiriau llawn mêl ar ei wefusau, gan geisio ganddo beidio terfysgu, ac y byddai yn dda ganddo ei weled yno unrhyw amser arall. Atebai yntau na wnai derfysgu, ond mai ei waith oedd sefyll i fynu yn erbyn teyrnas Satan; na lefarai yn erbyn dim ond pechod; ac os oedd y tafarnwr am gefnogi pechod, fod yn rhaid iddo ei wrthwynebu. Erbyn hyn, yr oedd y dorf yn dechreu ymgasglu. Daeth dynes, lawn o'r cythraul, a hyrddiodd ei hun ar ei draws, nes ei fwrw i lawr, gan ddweyd



Nodiadau[golygu]