Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-18)

Oddi ar Wicidestun
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-17) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf
gan John Morgan Jones

Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-19)

ddarfu iddo farw yn gynar, neu ynte ymuno a'r Ymneillduwyr, nis gwyddom. Am Thomas Price, perchenog palas Watford, yr hwn a alwa Williams, Pantycelyn, yn "Price yr Ustus," nid oes llawer o hanes. Y tebygolrwydd yw iddo gael ei argyhoeddi dan Howell Harris, ac i'w dŷ gael ei daflu ar unwaith yn agored i'r efengyl. Ymadawodd yntau a chapel Watford, oblegyd heresi David Williams, gan ymaelodi gyda'r Methodistiaid yn y Groeswen. Gwnaed ef yn arolygwr ar nifer o eglwysi yn Morganwg, mewn cysylltiad a Thomas Williams, ac y mae genym nifer o adroddiadau o'i eiddo. Er iddo arwyddo y llythyr at y Gymdeithasfa, ac iddo barhau mewn cysylltiad a'r Groeswen wedi urddo gweinidog yno, Methodist yr ystyriai efe ei hun hyd ei fedd, a chyrchai y Diwygwyr i'w dŷ megys cynt. Ymddengys iddo roddi pregethu i fynu yn bur gynar. Ceir llythyr o'i eiddo at y Gymdeithasfa yn y Weekly History, yn deisyf cael ei ryddhau oddiwrth y gwaith. Ni rydd reswm penodol dros ei gais. Ond ymddengys nad oedd ei ddoniau mor ddysglaer a rhai o'r cynghorwyr, a'i fod yn barod yn dechreu cael ei flino gan asthma. Tad-yn-nghyfraith oedd i Grace Price, i'r hon y canodd Williams ei farwnad odidog; ei fab, Nathaniel, oedd ei gŵr; ac yr oedd Thomas Price yn fyw, er yn llesg ac yn gaeth gan y diffyg anadl, pan y bu ei ferch-yn-nghyfraith dduwiol farw. Profir hyny gan y penill canlynol:

"Price y Justis, ti ge'st golled,
Rwymodd asthma ar dy 'stôl,
Aeth dy ferch i ganol nefoedd,
Fe'th adawyd dithau'n ol;
Aros ronyn, trwy amynedd,
Yn y dyrys anial dir,
Ti gai gyda gwraig y capten
Ganu authem cyn bo hir."

Cynghorwr o gryn enwogrwydd, ac un a fu yn dra gweithgar yn nechreuad Methodistiaeth, oedd y Parch. Morgan John Lewis. Hanai, yn ol pob tebyg, o Blaenau Gwent, a chafodd ei argyhoeddi ar daith gyntaf Howell Harris i Fynwy, yn y flwyddyn 1738. Yn bur fuan dechreuodd gynghori, a cheir aml gyfeiriad ato yn nghofnodau Trefecca. Yr oedd yn un o'r rhai a gafodd eu penodi yn gynghorwyr cyhoedd yn Nghymdeithasfa gyntaf Watford. Yn ail Gymdeithasfa Watford, gosodwyd ef yn arolygydd ar y seiadau yn Dolygaer, Cwmdu, Cantref, Defynog, a Llywel, yn Mrycheiniog; Llanddeusant, yn Sir Gaerfyrddin, a'r oll o Fynwy, yr ochr nesaf i Gymru i'r afon Wysg. Y mae amryw o'r adroddiadau a anfonodd i mewn yn awr ar gael. Yn Nghymdeithasfa Llanfihangel, Mai 3, 1744, bu ymdriniaeth bwysig ar y priodoldeb o barhau i dderbyn y cymundeb yn Eglwys Loegr; ymddengys mai Morgan John Lewis a agorodd y ddadl, a'i fod yn gryf dros i'r Methodistiaid ordeinio gweinidogion iddynt eu hunain. Penderfynu peidio, nes cael arweiniad eglurach a wnaed, a dywedir yn y cofnodau ddarfod " i'r brawd Morgan John Lewis gyduno, mewn ffordd o oddefgarwch, i beidio symud, hyd nes y byddai i'r Arglwydd ein gwthio allan, neu ynte ddwyn diwygiad i mewn." Cymerodd ran flaenllaw yn y ddadl yn Nghymdeithasfa Llanidloes, rhwng pleidwyr Rowland a Harris, yr hon a derfynodd mewn ymraniad; ymddengys mai efe a ddygodd y pwnc i sylw. Pleidiwr Rowland oedd efe, a chyda'r Diwygiwr o Langeitho, a Williams, Pantycelyn, y bwriodd ei goelbren. Yn nghymydogaeth y New Inn, yn Sir Fynwy, y preswyliai; a chwedi yr ymraniad, i'r ddeadell fechan a ymgynullai yno, y pregethai yn benaf. Cynyddodd y gymdeithas yno yn fawr, drwy i nifer o Eglwyswyr efengylaidd, na fedrent ddyoddef gweinidogaeth anefengylaidd offeiriad Llanfrechfa, ymuno a hi; mewn canlyniad, adeiladwyd capel, ac ystabl ynglyn ag ef. Yr oedd hyn yn y flwyddyn 1751. ond yr oedd yr aelodau yn analluog i gael y cymundeb; ni oddefai eu cydwybod iddynt gymuno gyda'r clerigwyr digrefydd yn y llan, ac nid oeddynt am ymuno a'r Ymneillduwyr. Yn eu cyfyngder, anfonasant ddau genad i Langeitho, i ofyn cyngor Daniel Rowland. Yntau, wedi gwrando arnynt, a dwys ystyried yr amgylchiadau, a'u cynghorodd i alw Morgan John Lewis yn weinidog iddynt, trwy ympryd a gweddi; ac ychwanegai: "Gwna gweddi y ffydd fwy o les iddo na dwylaw unrhyw esgob dan haul." Dyn nodedig o ryddfrydig oedd Daniel Rowland; nid oedd ei ymlyniad wrth yr Eglwys agos mor gryf ag eiddo Harris, ac ychydig o bwys a roddai ar ordeiniad esgobol. Derbyniwyd ei gynghor gan eglwys y New Inn. Ymgynullodd yr holl aelodau ynghyd; wedi darllen rhanau o'r Gair, a chanu, a gweddïo, mynegodd y pregethwr ei gredo ar g'oedd; yna dangosodd yr eglwys trwy arwydd ei dewisiad o hono i fod yn weinidog iddi. Yn ganlynol, cyfododd un o'r blaenoriaid, ac



Nodiadau[golygu]