Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-19)

Oddi ar Wicidestun
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-18) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf
gan John Morgan Jones

Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-20)

mewn modd difrifol cyhoeddodd Morgan John Lewis yn weinidog dros Grist, i eglwys y New Inn, i gymeryd ei gofal yn yr Arglwydd. Dywedir yn Methodistiaeth Cymru mai Sulgwyn, 1756, y cymerodd hyn le; ond tueddwn i feddwl ei fod yn gynarach.

Parodd yr ordeiniad hwn, un o'r rhai cyntaf yn mysg y Methodistiaid, gyffro dirfawr. Beiai yr Eglwyswyr y peth mewn modd chwerw, am yr ystyrient waith neb yn gweinyddu y sacramentau, heb feddu ordeiniad esgobol, yn rhyfyg ac yn ysgelerder. Beiai yr Ymneillduwyr y weithred lawn mor chwerw, am nad oedd unrhyw weinidog ordeiniedig wedi bod a llaw yn yr urddiad. Yr oeddynt hwy yn eu ffordd eu hunain lawn mor gulion a'r Eglwyswyr, ac yn credu lawn mor gryf mewn math o olyniaeth apostolaidd. Meddai Morgan John Lewis, ac eglwys y New Inn, syniadau mwy rhyddfrydig, a nes at y Testament Newydd, am osodiad gweinidog ar eglwys. "Llawer o ddyeithrwch, chwerwder, anfrawdgarwch, a dirmyg, a daflwyd arnom," meddai Mr. Lewis; "Fe'n gwrthwynebwyd yn gyhoeddus y cyfle cyntaf a gafwyd. Ond y mae y ffordd yr ydym ni yn broffesu yn ymddangos i ni yn fwy cydsyniol a threfn yr efengyl, ac yn ateb y dyben yn well, ar y dewisiad cyhoeddus, neu ordeinasiwn gweinidogion. Dymunwn i'r Arglwydd ein cynorthwyo bawb i gydoddef ein gilydd mewn cariad." Gan mor gynddeiriog oedd yr ystorm a ymosodai ar eglwys y New Inn, a chan mor anwireddus a disail oedd y chwedlau a daenid am dani, ac am ei gweinidog, barnodd Morgan John Lewis yn ddoeth argraffu math o Gyffes Ffydd, yn yr hon y gosodai allan mewn modd clir yr egwyddorion a gredai.

Eglwys Fethodistaidd oedd eiddo y New Inn dros yr holl amser y bu Morgan John Lewis yn gweinyddu iddi. Yn wir, ni wnai eglwysi Ymneillduol y wlad ym- gyfathrachu a hi; ni ddeuai gweinidogion yr Anghydffurfwyr yno ar unrhyw gyfrif i gyflenwi ei phwlpud; cauid hi y tu allan i'r gwersyll, yr un fath a'r gwahanglwyfus gynt yn Israel; a gellid tybio ddarfod iddi bechu y pechod anfaddeuol wrth alw gweinidog i'w bugeilio yn ol y drefn a ystyriai hi fwyaf cyson a dysgeidiaeth y Testament Newydd. Mor gryf ac mor greulon ydyw rhagfarn! Pa fodd bynag, deuai y cynghorwyr Methodistaidd yno ar eu teithiau, gan sirioli calon y gweinidog a'i gynulleidfa drwy eu hymweliad. Yno y llafuriodd Morgan John Lewis am O gwmpas pymtheg mlynedd gwedi, gyda mawr lwyddiant. Teimlodd yr holl wlad o gwmpas oddiwrth ei weinidogaeth; ymgasglai dynion i wrando arno bymtheg milltir o bellder. Eithr daeth ei wasanaeth i derfyn mewn modd hynod iawn. Y Sabbath olaf y bu yn pregethu yn y New Inn, aeth yn yr hwyr i gynal gwasanaeth crefyddol mewn ffermdy yn nghymydogaeth Pontypwl, tua milltir allan i'r dref. Yn y tý lle y darfu iddo bregethu y lletyai y noson hono. Dranoeth, cyn iddo godi o'i wely, daeth perchenog y tyddyn i'r lle, a rhyw swyddog milwraidd gydag ef, a chan gyfarch gŵr y ty, gofynai: "Pa le y mae y pregethwr a fu yn cadw cwrdd yma neithiwr? Atebwyd yn ofnus iawn ei fod yn ei wely. "Rhaid i ni gael ei weled," ebai'r boneddwr; "y mae arnom eisiau cael ymddiddan ag ef." Cynygiodd y gŵr ei alw i lawr atynt, ond ni wnai hyny mo'r tro i'r boneddwyr, eithr rhuthrasant i fynu y grisiau, ac i mewn â hwy i ystafell wely y gweinidog yn ddiseremoni. Yno y cysgai gŵr Duw heb freuddwydio am berygl. Tynodd y swyddog milwraidd ei gleddyf, a chan sefyll wrth ochr y gwely, a dal y cledd uwchben y pregethwr, gwaeddodd mewn llais croch: "Heretic, deffro!" Deffrodd yntau, a'r olwg gyntaf a ganfu oedd milwr yn dal arf uwch ei ben, fel pe ar fedr ei drywanu. Yr oedd yr olygfa mor enbyd, ac yn ymrithio o'i Haen mor ddisymwth, cyn iddo gael amser i ymresymu ag ef ei hun, nac i ymbarotoi ar gyfer y brofedigaeth, fel y bu yn ddigon i ysgytio ei natur o'i lle, ac i ddyrysu ei synwyr. Ymddadebrodd i raddau gwedi hyn, ond ni ddaeth byth yn alluog i bregethu. Darfu a bod yn gysur iddo ei hun, a chollodd ei ddefnyddioldeb i eraill, ac yn mhen tua blwyddyn ymollyngodd i'r bedd. Meddai y Parch. John Hughes: "O ran ymddangosiad, y gelyn a gawsai yr oruchafiaeth. Y New Inn, a Sir Fynwy, ie, a Chymru oll, a gafodd y golled." Duwinydd gwych oedd Morgan John Lewis; meddai gydnabyddiaeth ddofn a Gair Duw, a chryn dreiddgarwch meddwl i fyned i mewn i'w ystyr. Pregethai gyda nerth a hyawdledd, a chrynai dynion tan ddylanwad ei weinidogaeth. Yr oedd yn dra difrifddwys yn wastad, a dywedir na welwyd erioed wên ar ei wyneb. Gyda hyn oll, yr oedd yn Gristion



Nodiadau[golygu]