Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-20)

Oddi ar Wicidestun
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-19) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf
gan John Morgan Jones

Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-21)

pur, ac yn ddyn gwir ostyngedig. Bu farw tua'r flwyddyn 1771, wedi gwasanaethu Cyfundeb y Methodistiaid am tua deng-mlynedd-ar-hugain.

Pregethwr rhagorol, ac un a fu yn dra defnyddiol, oedd y Parch. David Williams, Llysyfronydd. Dywedir yn Methodistiaeth Cymru mai brodor o Landyfaelog, yn Sir Gaerfyrddin, ydoedd. Y mae yn bur sicr fod hyn yn gamgymeriad, ac mai o Dregaron yr hanai; mai yno y cafodd ei eni a'i fagu, ac y cafodd grefydd. Efe yw y Dafydd William, y cyfeiria Mr. Hughes ato fel cynghorwr, a breswyliai yn Nhregaron ar gychwyniad yr achos yno. Yn Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, dywedir ei fod yn Blaenpenal, a'i fod yn un o ddisgyblion Phihp Pugh, ond iddo, ar doriad allan y diwygiad Methodistaidd, ymuno a Daniel Rowland yn Llangeitho. I hyn nid oes sail o gwbl; ceisir dal yr honiad i fynu yn unig ag "ymddengys;" cyfid oddiar awydd anghymesur am wneyd holl gynghorwyr cyntaf y Methodistiaid yn broselytiaid oddiwrth yr Ymneillduwyr. Y mae y tebygolrwydd yn gryf fel arall. Nid oedd David Williams ond glaslanc, dwy-ar-bymtheg mlwydd oed, pan y dechreuodd Daniel Rowland gynhyrfu ; y tebyg yw ei fod yn gyífelyb i'w gyfoed, yn ddifater am Dduw a phethau ysprydol; ac mai nerth angerddol gweinidogaeth y Diwygiwr o Langeitho a'i torodd i lawr, ac a'i dygodd i feddwl am grefydd. Yn bur fuan, pan yn ngwres ei gariad cyntaf, dechreuodd gynghori, a dygodd ei ddoniau enillgar ef i sylw Rowland. Yn ail Gymdeithasfa Watford cafodd David WiIIiams ei benodi yn arolygwr yn Sir Aberteifi ; a oedd holl seiadau y sir dan ei ofal, ynte ryw gyfran o honynt, ni ddywedir. Nid yw ei enw wrth un o'r adroddiadau a anfonwyd i'r Gymdeithasfa. Pan y penderfynwyd anfon pedwar o'r pregethwyr enwocaf i Ogledd Cymru i lafurio, oblegyd fod crefydd mor isel yno, pob un o honynt i aros am chwarter blwyddyn, yr oedd David Williams yn un o'r cyfryw. Mor werthfawr oedd ei lafur, ac mor gymeradwy oedd ei weinidogaeth, fel y dywedir iddo gael gwahoddiad taer i ymsefydlu yn y Bala. Wrth deithio Gwynedd cafodd ei drin yn arw yn aml. Cawsai ei gyhoeddi unwaith i bregethu mewn tŷ bychan yn nghymydogaeth Caergwrle, yn Sir Fflint. Daethai yno yn lled gynar, ond yn min y nos, rhuthrai merch i'r tŷ, a'i hanadl yn ei gwddf, gan ddweyd fod llu o erlidwyr gerllaw. Cododd gŵr y tŷ, a chlodd y drws. Gyda hyny, dyma y dyrfa afreolus yno, ac yn nghanol rhegfeydd a swn, yn gorchymyn gyru y pregethwr allan. Ni fynai pobl y tŷ gydsynio. Darfu i'r gwrthodiad gynhyrfu yr erlidwyr yn fwy, a thyngent i'r dystryw mawr, oni wnaent yru y llefarwr allan y tynent y tý i lawr am eu penau. Rhedodd rhai o honynt i gyrchu trosolion, er mwyn rhoddi eu bwriad dieflig mewn grym. Penderfynodd David Williams, ar hyn, yr ai allan i'w mysg. Pan y ceisid ei atal, dywedai: "Gollyngwch fi; rhaid i mi gael myned." Allan yr aeth i ganol y dyrfa ffyrnig, a chan edrych yn ddiofn arnynt, gofynodd: "Yn enw'r Gwr goreu, beth sydd a fynoch a dyn dyeithr ar ei daith? Pa enw neu anrhydedd a gaech pe baech yn fy lladd?" Digwyddodd fod yn eu mysg ryw ddyn cryf, a rhyw deimlad o anrhydedd heb ddiffodd yn ei fynwes. Safodd hwn i fynu, a chyda llonaid ei safn o lwon, gwaeddodd: "Dyn iawn yw hwn. Mi a fynaf chwareu teg iddo." Gwelodd David Williams fod y drws wedi ei agor iddo megys yn wyrthiol i lefaru; cafodd le i sefyll arno wrth ochr y ffordd, a phregethodd gyda dylanwad mawr wrth oleu'r lloer; a diau na chuddiodd Haul y Cyfiawnder ei wyneb. Bu yr erlidwyr mor ddystaw a chŵn yr Aipht, ac ymadawsant yn heddychol. Rhydd y Parch. E. Morgan, Syston, yr hanes ychydig yn wahanol. Dywed efe ddarfod i'r erlidwyr ymaflyd yn y pregethwr, gan ei gymeryd at ryw lyn, a bygwth ei foddi. Pan ar gael ei daflu i mewn, gwaeddodd David Williams: "Bydd yn warth tragywyddol i bobl Caergwrle, os boddant hen bregethwr penllwyd, a ddaethai o eithafion y Deheudir i gyhoeddi iachawdwriaeth iddynt." A dyma y pryd, meddai Mr. Morgan, y darfu i'r dyn cryf gyfryngu rhyngddo a'r gwaethaf.

Ymddengys ddarfod i David Williams symud i Lysyfronydd, er gofalu am y mân gymdeithasau a gawsent eu sefydlu yn Mro Morganwg, ac mai gan Daniel Rowland y bu y prif law yn ei symudiad. Yn bur fuan priododd a Miss Pritchard, Talygarn, yr hon a berthynai i deulu tra chyfrifol, Pan y cyfododd awydd yn y cymdeithasau am gael rhai o'r cynghorwyr yn weinidogion, ordeiniwyd David Williams yn weinidog i eglwys yr Aberthyn. Dywedir yn Hanes Eglwysi Annibynol Cymru mai yn y flwyddyn 1766 y bu hyn ; ond



Nodiadau[golygu]