Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-22)

Oddi ar Wicidestun
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-21) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf
gan John Morgan Jones

Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-23)

Ychydig iawn a wyddom am William Richard, arolygwr seiadau y rhan isaf o Sir Aberteifi, yn nghyd a'r oll o gymdeith asau glàn y môr yn Sir Benfro, mor bell a Thyddewi, ond a geir yn nghofnodau Trefecca. Un o ddychweledigion Daniel Rowland ydoedd, a dechreuodd gynghori yn mron yn union wedi iddo gael crefydd. Cawn y cyfeiriad cyntaf ato yn nghofnodau Cyfarfod Misol Llanddeusant, pan y rhoddwyd nifer o seiadau dan ei ofal. Cyfeirir ato hefyd yn nghofnodau ail Gymdeithasfa Watford, lle y dywedir ei fod i aros fel yr ydoedd hyd Gymdeithasfa Dygoedydd. Yn Nghymdeithasfa Fisol Glanyrafonddu, ail-roddir seiadau Blaenhownant, Dyffryn Saith, Blaenporth, Twrgwyn, a Llechryd dan ei ofal, a gelwir ef yn "William Richard o Landdewi-frevi." A ydoedd yn preswylio yn Llanddewi-brefi ar y pryd, nis gwyddom; y tebygolrwydd yw mai oddiyno yr hanai, ond ddarfod iddo symud ei breswyl cyn hyn i gymydogaeth Aberteifi. Yn ngweithiau barddonol Williams, Pantycelyn, ceir marwnad i un William Richard, o Abercarfan, yn mhlwyf Llanddewi-brefi, yr hwn a fu farw o'r darfodedigaeth, haf 1770. Y mae amryw bethau yn y farwnad yn pleidio mai yr un ydyw a William Richard y cynghorwr. Dywed y bardd:—

"Mae Llanfrynach wan yn wylo
Hyd yn awr, wrth gofio am dano."

Gorwedda Llanfrynach yn gyfagos i gydiad y tair sir, sef Penfro, Caerfyrddin, ac Aberteifi, ac felly yr oedd yn ymyl y maes a gawsai ei ymddiried i William Richard, os nad oedd yn wir yn rhan o hono. Os ydym yn gywir yn ein dyfaliad, profasai William Richard bethau cryfion ar gychwyn ei fywyd crefyddol; buasai yn neidio ac yn molianu tan weinidogaeth danllyd Rowland; a chadwodd ei goron hyd ddiwedd ei ddydd. Fel hyn ei desgrifir gan Williams:—

"Gwelais of ar oriau hyfryd,
Yn moreuddydd braf ei fywyd,
Yn molianu, yn prophwydo,
Yn flaena' o'r werin yn Llangeithio;
Chwys fel nentydd clir yn llifo,
Tarth trwy ei wisgoedd tew yn suo;
Cariad pur, gwerthfawr clir, yn gwir enynu,
Nes oedd corph yn gorfod helpu
Enaid allan i'w fynegu.
Mi fum unwaith wrth ei wely,
'Roedd ei wledd fel gwleddoedd gwindy,
A'i holl eiriau'n tarddu'n gyson,
O grediniaeth, heb ddim ofon:
Gwyr yn twymo wrth y siarad,
Merched, hwythau'n wylo cariad ;
Minau f'hun, waclaf ddyn, gwanaidd, yn gwenu,
Ac yn hyfryd ciddigeddu,
Weled plentyn arna i'n blaenu.

Y mae y desgrifiad yn nodedig o fyw. Braidd na welwn ef yn moreuddydd ei fywyd, gyda dillad tewion, wedi eu gwneyd o frethyn cartref, yn ol arfer ffermwyr y pryd hwnw, am dano; y mae y syniadau am ogoniant y Gwaredwr a ymrithiant gerbron ei feddwl mor ogoneddus, nes y mae ei gorph yn gorfod helpu ei enaid i roddi mynegiant iddynt. Wrth ei fod yn neidio ac yn molianu, y mae chwys fel nentydd yn llifo dros ei wyneb, a'i ddillad yn myned yn wlybion am dano, fel pe buasai tarth wedi treiddio trwyddynt. A chan yn amlwg y cyfunai wybodaeth grefyddol eang, a medr mawr mewn ymwneyd a'r dychweledigion, nid rhyfedd fod seiadau glàn y môr mewn rhanau o ddwy sir yn cael eu gosod dan ei ofal. Gallwn dybio ddarfod iddo yn mhen amser symud yn ei ol i Landdewi-brefi, ac mai yno yr arhosodd hyd ddydd ei farwolaeth. Nid tawel a fu ei fywyd crefyddol yno; bu mewn dadleuon poethion; eithr safodd yn ffyddlon trwy bob anhawsder. Meddai William Williams yn mhellach:—

"Ti, Llanddewi, fu'n agosa'
Gneifio'r blew oedd ar ei gopa,
Mwg a thân fu iddo'n galed
Yn y ffrae rhwng Twrcs ac Indiaid;
Ond fe safodd Wil i fynu
Pan oedd Efan laith yn methu."

Nis gwyddom beth oedd testun y ffrae, na phwy oedd y "Twrcs ac Indiaid" a'i dygent yn mlaen; na phwy oedd yr "Efan laith" a fethodd sefyll ei dir; ac ofer dyfalu yn awr. Yr hyn sydd yn bwysig yw deall ddarfod i William Richard ddyfod

"O'r anialwch mawr i fynu,
Heb ei ladd, heb ei orchfygu."

Gweinidog Ymneillduol, a ymunodd a'r Methodistiaid, oedd y Parch. Benjamin Thomas. Ychydig iawn o'i hanes sydd genym. Yn nghofnodau ail Gymdeithasfa Watford, cyfeirir at ddau weinidog Anghydffurfiol; un yn bresenol, sef y Parch. Henry Davies, Bryngwrach; a'r llall yn absenol, sef y Parch. Benjamin Thomas. Rhoddir eu henwau yn mysg yr offeiriaid ordeiniedig; gellid meddwl yr edrychid ar urddiad Ymneillduol fel yn hollol gyfartal i ordeiniad Esgobol; y mae enw Howell Harris yn is i lawr, sef yn mysg y lleygwyr. Rhaid nad oedd y



Nodiadau[golygu]