Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-23)

Oddi ar Wicidestun
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-22) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf
gan John Morgan Jones

Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-24)

Tadau Methodistaidd, er eu hymlyniad wrth yr Eglwys Sefydledig, yn ddynion rhagfarnllyd. Yr ydym yn cael y Parch. B. Thomas yn bresenol yn Nghymdeithasfa Trefecca, haf 1743, yn gystal ac yn Nghymdeithasfa y Fenni y mis Mawrth dilynol. Yn Nghymdeithasfa Porthyrhyd, Hydref, 1744, penderfynwyd fod y brawd Benjamin Thomas i gynorthwyo Howell Harris fel arolygwr dros holl Gymru, yn lle Herbert Jenkins, yr hwn a ymroddasai i lafurio yn benaf yn Lloegr.

Teithiai Mr. Thomas lawer, trwy Dde a Gogledd Cymru, ac ni ddihangodd rhag erlidiau, mwy na'r gweddill o'i frodyr. Cawn hanes am dano yn pregethu yn Minffordd un tro, mewn adeilad wedi cael ei drwyddedu yn ol y gyfraith i gynal addoliad. Daeth yno lu o erlidwyr, gyda ffyn mawrion yn ei dwylaw, ac i un o'r ffyn hyn yr oedd pen haiarn. Ceisiwyd taro y pregethwr a'r ffon hon, ond ar un Howell Thomas, o Blas Llangefni, y disgynodd yr ergyd; ac yr oedd y tarawiad mor chwimwth fel y torodd y pen haiarn i ffwrdd, gan fyned dros y clawdd i'r ffos tu hwnt hwnt. Dilynodd yr erlidwyr y dorf am chwarter milltir, gan eu curo a'u baeddu yn ddidrugaredd, nes yr oedd eu gwaed yn ffrydio ar hyd y ffordd. Ymddengys, modd bynag, i B. Thomas ddianc yn gymharol ddianaf, gan ei fod yn wr cyflym ar ei draed. Tyner oedd nodwedd pregethu Benj. Thomas; llifai y dagrau i lawr ei ruddiau wrth gynghori pechaduriaid. Pregethai unwaith yn y Bontuchel, yn Sir Ddinbych. Daeth dyn i'w wrando o'r enw Thomas Parry, gwr pwyllog, tra ymlyngar wrth Eglwys Loegr, a llawn rhagfarn at y Methodistiaid. Ond cymhellasid ef gan ei frawd i ddyfod i'r odfa. "Ti gei weled, Twm," meddai ei frawd, "y bydd y dyn yn pregethu o'i galon, canys bydd ei ddagrau yn treiglo i lawr ei wyneb." Pwnc y bregeth oedd ailenedigaeth. Mawr ddymunasai Thomas Parry gael pregeth ar y mater hwn; ond nid oedd y clerigwr a wasanaethai yn yr eglwys yn cyfeirio un amser at y mater. Eithr cafodd yn y pregethwr o'r Dê fwy na boddlonrwydd i'w gywreinrwydd, ac eglurhad ar bwnc duwinyddol; bachodd y gwirionedd yn ei gydwybod, a daeth yn ddyn newydd o'r dydd hwnw allan. Daeth gwedi hyny yn adnabyddus fel Thomas Parry, o'r Rhewl, ac yn un o'r blaenoriaid galluocaf a mwyaf defnyddiol yn holl Wynedd. Nid ydym yn gwybod pa bryd na pha le y terfynodd y Parch. Benjamin Thomas ei yrfa. Ymddengys, pa fodd bynag, mai wrth blaid Rowland y glynodd yn amser yr ymraniad, ac iddo barhau i efengylu yn mysg y Methodistiaid hyd ddiwedd ei oes.

Yr oedd dau gynghorwr yn Sir Benfro, cyffelyb o ran enwau, y rhai y mae eu hanes wedi eu cydgymysgu yn anobeithiol yn Methodistiaeth Cymru. Un oedd John Harris, St. Kennox, yr hwn, mor foreu a'r flwyddyn 1743, a benodwyd yn arolygwr ar y cymdeithasau yn Llawhaden, Prendergast, Jefferson, Carew, Llandysilio, a Gellidawel. Y llall oedd John Harry, Treamlod, cynghorwr anghyoedd. Y blaenaf oedd yr enwocaf o lawer. Ymddengys ei fod yn ddyn siriol, yn bwrlymu o athrylith, yn ysgolhaig gwell na'r cyffredin mewn Cymraeg a Saesneg, a chyda hyn yn meddu gwroldeb diofn. Er dangos ei gymeriad, nis gallwn wneyd yn well na difynu rhanau o'i lythyrau i'r Cymdeithasfaoedd. Fel hyn yr ysgrifena at Gymdeithasfa Fisol Longhouse, Medi 28, 1743, gan gyfarch Daniel Rowland a Howell Davies: "Anwyl a charedig fugeiliaid. O'r diwedd, fe'm cymhellir, o gariad at yr anwyl Immanuel, i'ch hysbysu pa fodd y mae wedi bod arnaf er ein Cymdeithasfa Fisol ddiweddaf, pryd y rhoddasoch arnaf ofal amrywiol gymdeithasau. Pan y gofynwyd i mi y pryd hwnw am fy rhyddid (sef rhyddid i fyned o gwmpas arolygu y seiadau), atebais fel y dysgwylid i mi. Ond daeth y syniad ar unwaith i'm meddwl, pa fodd y gallwn i, nad wyf ond baban mewn profiad, ryfygu sefyll i fynu fel clorian i bwyso eneidiau? Meddyliais ynof fy hun, pe y digwyddai rhyw amryfusedd ynglyn ag esbonio, y byddai yn llai niweidiol i enaid nag a fyddai barnu ar gam rhwng cnawd ac yspryd, a rhwng gwir a gau gariad. Pa fodd bynag, fe fu y gair Rhydd' a atebais i chwi, fel cadwen i fy rhwymo i edrych beth a gymerais mewn llaw. Syrthiodd dychryn ar fy enaid, rhag im fod nid yn unig yn anffyddlawn i'r anwyl Oen, ond yn dristwch i fy hoff athrawon, ac hefyd yn waradwydd i ffyrdd Duw, ac i'w blant. Daeth y baich hwn mor annyoddefol fel ag yr oedd corph ag enaid yn mron cael eu llethu dano. Bum yn yr ing am gryn amser, yn meddwl mwy am y Gymdeithasfa, lle y gelwid arnaf i roddi cyfrif o'm goruchwyliaeth, nag am y farn fawr. Ymroddais i anfon at y



Nodiadau[golygu]