Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-24)

Oddi ar Wicidestun
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-23) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf
gan John Morgan Jones

Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-25)

cymdeithasau i ymgynull ar amser priodol ac mewn trefn, gan ymddangos iddynt fel gŵr o awdurdod." Yn canlyn, ceir adroddiad o ansawdd y seiadau. Yn sicr, nid dyn cyffredin a allasai ysgrifenu fel y gwna John Harris.

Yr un gŵr, sef John Harris, St. Kennox, sydd mewn llythyr, dyddiedig Mai 12, 1745, yn cofnodi hanes ei ymweliad a chymydogaeth Tenby. "Nid oes, bellach," meddai, "yr un rhan o'r sir na fum yn cynghori ynddi, ond tref Penfro, a bwrdeisdref Tenby, yr hon sydd borthladd tua phump neu chwech milltir o Penfro Bum yn llefaru o fewn dwy filltir i'r lle, nos Wener diweddaf. Nid oes ond un brawd crefyddol yn byw yn Tenby; mynych y ceisiasai hwn genyf ddyfod i'r dref i bregethu; yn awr, anfonais ato y deuwn i'w dy i letya, ac os gwelai efe yn oreu wahodd rhyw nifer o wyr a gwragedd adnabyddus iddo, ac yn chwenych fy ngwrando, i fy nghyfarfod, y gwnawn esbonio ychydig o adnodau yn yr ystafell gefn. Felly hefyd y gwnaeth y gwr. Ond pan oeddwn ar ganol y gwasanaeth, daeth y cwnstab i mewn, gan ddweyd: Syr, y mae yn rhaid i chwi dewi; gorchymynir i mi gan y maer eich dwyn o'i flaen yn ddioedi. Dywedais inau y cydsyniwn a'r cais, ond gan fy mod ar wasanaeth Meistr arall yn awr, fy mod yn hawlio caniatad i draddodi fy neges drosto ef yn nghyntaf. Ar hyn, efe a adawodd yr ystafell. Eithr cyn i mi orphen, dyma y cuwrad i mewn, a chydag ef yr oedd cwnstebli, a phedwar neu bump o foneddigion. Ceisiai y cuwrad gan y swyddog fy llusgo i lawr. Atebodd yntau: Gresyn fyddai hyny, cyn iddo orphen, oblegyd y mae yn llefaru yn felus.'

"I lawr ag ef,' ebai y cuwrad, 'onide mi rof gyfraith arnat ti am esgeuluso dy ddyledswydd.'

"Er fod y dynion (y cwnstebli) yn haner meddw, cefais genad i orphen yr odfa; ac yn wir, yr oedd yn hyfryd ar fy yspryd, ac ar fy ngwrandawyr hawddgar, y rhai a rifent tua deugain. Disgynais oddiar y lle y safwn, a thra yr ymesgusodent (y swyddogion) wrth wr y tŷ, yr oedd eu gwedd yn llwyd rhyfedd.

"Nia ddaethom, Mr. Thomas,' meddent, i weled y darluniau gwych sydd genych.' "Atebais inau: "Tybygwyf, foneddigion, mai fi yw y darlun y daethoch i'w weled.' Ar hyn, y swyddog a roes ei law ar fy ysgwydd, gan ddweyd: Yr ydych yn garcharor, Syr, a rhaid i chwi ddyfod o flaen y maer.'

"Yr wyf yn barod i ddyfod,' ebe finau. Pan aethom i'r heol, a hyny rhwng naw a deg o'r gloch y nos, yr oedd yno tua mil o bobl, yn wyr ac yn wragedd, gyda llusernau a chanhwyllau yn fy nysgwyl, ac yn llefain yn echrys: Ymaith ag ef! Ymaith ag ef!'

"At y maer yr aethom. Hwn, heb edrych yn fy wyneb, a ofynodd am fy nhrwydded. Atebais nad oedd genyf yr un. Gofynodd: 'Pa fodd y meiddiwch ddyfod i'n tref ni i bregethu?" "I hyn atebais: 'Ni chyhoeddwyd fi i bregethu; eithr gwedi i'r bobl wybod am fy nyfodiad yma i letya, daethant i mewn; minau a esboniais ychydig adnodau iddynt, canasom emyn neu ddwy, a gweddiasom." "Rhaid i chwi,' ebe y maer, 'roddi meichiau am eich ymddangosiad yma y cwarter sessiwn nesaf.'

"Da fyddai genyf wybod, Syr, beth sydd genych i'w roddi yn fy erbyn.' "Eich gwaith

yn pregethu,' oedd yr

ateb.

"Os hyny yw y trosedd, Syr, chwi a'u cewch yn ewyllysgar. Am ba swm y gofynir hwynt?

"Am ddau cant o bunoedd,' oedd yr ateb. Yr oedd yno ddau frawd yn barod i ymrwymo, ond gofynodd rhywrai a safent gerllaw: A roddech chwi eich gair, pe y caech fyned yn rhydd yn awr, na ddeuwch yma i bregethu mwy?'

"Hyny nis gallaf ei wneyd,' ebe finau;' 'er na ddaethum yma i bregethu y tro hwn, nid oes sicrwydd na fydd raid i mi bregethu yma cyn y fory, oblegyd nid oes genyf awdurdod arnaf fy hun."

"Gan bwy, atolwg, y mae awdurdod arnoch?' gofynai gwraig y maer.

"Dan awdurdod fy Meistr yr wyf.'

"Pwy yw eich meistr? Ai y diafol?'

Nage. Y mae fy Meistr i yn feistr ar y diafol, ac arnoch chwithau yn ogystal.'

"Ust,' ebe y maer wrth y wraig, 'tewch a son." Gyda hyn, galwyd arnaf i lawarwyddo yr ymrwymiad, a gollyngwyd fi yn rhydd."

Dyma adroddiad John Harris o helynt Tenby. Pan aeth allan i'r heol yr oedd yno dorf o derfysgwyr yn ei ddysgwyl, yn ffyrnig eu gwedd, ac yn barod i ymosod arno. Ond amddiffynwyd ef yn annysg wyliadwy gan ryw ynad, a deimlai yn garedig at y Methodistiaid, a chymerodd



Nodiadau[golygu]