Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-25)

Oddi ar Wicidestun
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-24) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf
gan John Morgan Jones

Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-26)

ef i'w dy, gan ei letya fel brenin. "Dychwelais inau adref dranoeth," meddai, " a'r dagrau yn llifo dros fy ngruddiau, o wir dosturi at drigolion tlodion Tenby." Sut y bu yn y sessiwn nis gwyddom. Y tebygolrwydd yw i'r Arglwydd, yn ol ei arfer, i'r rhai a garant ei enw, amddiffyn ei was, a'i ddwyn yn ddyogel allan o fysg y llewod. Y mae hanes John Harris, o'r ymraniad allan, yn gorwedd dan gryn dywyllwch. Dywedir iddo, yn yr argyfwng hwnw, gymeryd plaid Harris; a phan y deallodd fod y blaid yn gwanhau, ac yn rhwym o ddarfod, iddo, fel y cynghorwr John Sparks, o Hwlffordd, ymuno a'r eglwys Forafaidd.

Am John Harry, o Dreamlod, dywedir mai brodor o ranau uchaf Penfro ydoedd, ac mai tuag adeg y diwygiad y symudodd i lawr i odreu y sir. Cawn y cyfeiriad cyntaf ato yn nghofnodau Trefecca yn nglyn a Chymdeithasfa Fisol Llangwg, neu Llangwm, Gorph. 16, 1744. Yno penderfynwyd fod y brawd John Harry yn cael ei gymeradwyo, a'i fod i gynghori fel o'r blaen hyd y Gymdeithasfa Fisol nesaf,

BEDDROD JOHN HARRY, TREAMLOD, SIR BENFRO. (Yma hefyd y claddwyd ei fab, y Parch. Evan Harris, a'i wyr, y Parch. Thomas Harris.)
BEDDROD JOHN HARRY, TREAMLOD, SIR BENFRO. (Yma hefyd y claddwyd ei fab, y Parch. Evan Harris, a'i wyr, y Parch. Thomas Harris.)

tan arolygiaeth y brawd William Richard. Yn Nghymdeithasfa Fisol Hwlffordd, Ionawr 28, 1745, penderfynwyd fod y brodyr John Harry, a John Morris, gan eu bod yn addysgu mewn ysgol, i gynghori gymaint ag a fedrant yn gyson a gofal yr ysgolion. Ymddengys fod John Harry yn ddyn tra gweithgar, ac yn dal gafael ar bob cyfleustra i gynghori ei gyd-bechaduriaid gyda golwg ar eu mater tragywyddol. Lletyai unwaith mewn ffermdy, ac nid esgeulusodd rybuddio y rhai a weinyddent yno. Boreu dranoeth, gofynai y feistres i'r llances o forwyn oedd yno: "Dos a botasau y gŵr dyeithr iddo." "Nac af fi, yn wir," oedd yr ateb. "Paham hyny? "F'wed wrthw i mod i yn bechadur," meddai yr eneth. Prawf diymwad nad esgeulusai efe unrhyw gyfle i wneyd daioni. Yr oedd gan yr hynod Rowland Hill feddwl uchel am dduwioldeb John Harry. Pregethai Mr. Hill unwaith yn Nhre- amlod, gwedi i'r hen gynghorwr farw; ond yr oedd y weddw, a'i fab, y Parch. Evan Harris, yn preswylio yno ar y pryd.



Nodiadau[golygu]