Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-27)

Oddi ar Wicidestun
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-26) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf
gan John Morgan Jones

Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-28)

cyfryw yn tori allan yn wyllt, heb gael eu llywodraethu gan yspryd pwyll.

Byddai ei dymer yn aml yn fagl iddo. Unwaith, aeth yn ddadl rhyngddo a Thomas Hooper, ei gymydog; aeth yr ymryson yn enbyd o boeth, ac yn y cyffro rhoddes William Edward wth i'w wrthwynebydd, nes y syrthiodd yn sybyrthol yn erbyn rhyw arf, gan gael archoll ddofn ar ei dalcen. Dyma y si allan fod William Edward, Rhydygele, pregethwr efengyl, wedi taro ei gymydog a chaib, fel yr oedd ei ymenydd yn y golwg. Gellir yn hawddach ddychymygu na darlunio y gofid a barodd y chwedl i'r cyfeillion crefyddol. Dygwyd y mater yn mlaen yn y seiat. Gwadai yntau iddo daro Tom Hooper. Eithr ni chredai ei gyd-aelodau; ymddangosai yr archoll yn profi yn wahanol. Penderfynwyd ei ddiarddel. Cyn myned allan, gofynai ganiatad i fyned i weddi. Yr oedd y weddi yn un ryfedd; gruddfanau yr hen bererin mewn edifeirwch wrth yr orsedd, gan grefu am faddeuant, ac apeliai at hollwybodaeth y Goruchaf nad oedd wedi gwneyd yr hyn y cyhuddid ef o hono. "Y mae fy mrodyr yn gwrthod fy nghredu," meddai, "eithr gwyddost ti, Arglwydd Mawr, na tharewais mo Tom Hooper yn ei dalcen a'r gaib." Gorchfygwyd ei gyd-aelodau, a chwedi eu hargyhoeddi yn drwyadl nad oedd yn bwriadu drwg, caniatasant iddo aros yn eu mysg. Bu y tro yn wers iddo am ei oes; daeth gwedi hyn mor hynod am ei larieidd-dra a'i arafwch ag oedd yn flaenoro! am ei fyrbwylldra. A gorphenodd ei yrfa yn fawr ei barch gan bawb a'i hadwaenai.

Bellach, rhaid i ni adael y cynghorwyr, er mor ddifyrus ac addysgiadol eu hanes. Yr amser a ballai i ni fynegu am John Richard, Llansamlet, yr hwn oedd yn wr gwresog ei yspryd, a gonest ei galon, ac er tramgwyddo wrth arweinwyr y Gymdeithasfa oblegyd cyfyngu o honynt ar ei faes llafur, a ddaeth i'w le yn fuan, gan gyfaddef ei ffolineb, a gofyn am faddeuant; am Howell Griffith, Trefeurig, yr hwn oedd yn ŵr dysgedig, ac mewn amgylchiadau da, ac a fu o fawr ddefnydd i achos yr Arglwydd yn ngymydogaethau Llantrisant, Tonyrefail, a Bro Morganwg, ac nad oedd uwchlaw derbyn cerydd yn garedig gan ei frodyr, pan y teimlent ei fod yn tueddu i fyned ar gyfeiliorn; am James Williams, arolygydd y seiadau yn Sir Gaerfyrddin, adroddiadau pa un o sefyllfa y cymdeithasau a osodasid dan ei ofal sydd yn awr ar gael, ac yn dra dyddorol eu cynwys; am Milbourn Bloom, a breswyliai yn Llanarthney, yn nhŷ yr hwn y cedwid y Cyfarfod Misol nodedig, pan y disgynodd Yspryd Duw fel fflam i fysg ei bobl, nes gwresogi eu calonau, a pheri iddynt folianu ei enw; am Morgan Hughes, a fu unwaith yn arolygydd seiadau Sir Drefaldwyn, a chwedi hyny, mewn undeb a Williams, Pantycelyn, yn arolygydd seiadau rhan uchaf Sir Aberteifi, yr hwn, am ei waith yn myned o gwmpas i efengylu, a wysiwyd i frawdlys Aberteifi, yn y flwyddyn 1743, ond erbyn myned yno, a ddaeth yn rhydd am nad oedd neb i'w erlyn; ac am amryw eraill. A'u cymeryd fel dosbarth, dynion ardderchog oedd yr hen gynghorwyr. Eu hunig wendid, os gwendid hefyd, oedd awydd am gael eu hordeinio, fel y gallent weini yr ordinhadau megys gweinidogion yr Ymneillduwyr. Ychydig o gydymdeimlad oedd rhwng y nifer fwyaf o honynt a'r Eglwys Sefydledig; yr oedd eu cydymdeimlad a'r Ymneillduwyr yn fwy. A phan na fynai yr arweinwyr ganiatau ordeiniad iddynt, aeth amryw trosodd at yr Ymneillduwyr, gan gymeryd gofal eglwysi a gwasanaeth eu Harglwydd a'u cenhedlaeth yn ffyddlawn. Dyma fel y collodd y Cyfundeb Evan Williams, y crybwyllasom am dano yn dianc o'r Gogledd oblegyd poethder yr erledigaeth; a John Thomas, a ymsefydlodd yn y Rhaiadr; a Richard Tibbot, Herbert Jenkins, Milbourn Bloom, ac amryw o ddynion talentog eraill. Eithr glynodd y nifer fwyaf yn ffyddlawn, er pob temtasiwn i gefnu. Ond yr ydym yn colli golwg ar amryw o honynt yn amser yr ymraniad, a pha beth a ddaeth o honynt, nis gwyddom. Aeth rhai yn Annibynwyr; cyfeiliornodd eraill oddiwrth y ffydd, gan ffurfio mân bleidiau, a gosod eu hunain yn ben arnynt; ond am y nifer fwyaf, ymlynasant wrth Rowland, Howell Davies, a Williams, Pantycelyn, a buont farw ar y maes fel medelwyr diwyd, a'u crymanau yn eu dwylaw.

Yr ydym yn dyfod yn awr at adrodd- iadau y cynghorwyr, a anfonwyd i'r Cymdeithasfaoedd, yn desgrifio sefyllfa yr eglwysi a osodasid dan eu gofal. Y mae yr adroddiadau hyn mor lliosog, fel nas gallwn ond difynu ychydig o honynt, a hyny megys ar antur. Yr adroddiad cyntaf yn nghofnodau Trefecca yw eiddo



Nodiadau[golygu]