Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-28)

Oddi ar Wicidestun
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-27) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf
gan John Morgan Jones

Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-29)

Thomas James, Cerigcadarn, o ba un y mae a ganlyn yn esiampl:—

“Cymdeithas. Llanfair-muallt. Cynghorwr, Thomas Bowen :—

Enwau yr Aelodau. Eu Sefyllfa.
Thomas James Tystiolaeth lawn ac arosol
Thomas Bowen Mewn rhyddid helaeth
Evan Evans Wedi cael tystiolaeth, ond yn wan mewn gras
Sarah Williams Wedi ei chyfiawnhau,ac wedi dod allan o'r ffwrnais
Sarah James Tystiolaeth gyflawn ond mewn dirfawr gaethiwed
Eliza Bowen Yn gyffelyb, ond i raddau wedi ei gadael
Elenor Jones Yn dechrau ymadfer o'i gwrthgiliad
Gwen James} Wedi mynd i ogoniant fel yr ydwyf yn credu
Susan James}
Gwen Kinsey}

Rhif yr aelodau yma oeddynt 13.

"Cymdeithas Llanafan. Cynghorwyr anghyoedd, Edward Bowen a Thomas Bowen:—


Enwau yr Aelodau Eu Sefyllfa
Rice Price Yn dwyn tystiolaeth yn ei gystudd
Thomas Price Yn gyffelyb, ond wedi colli llawer o'i gariad a'i zêl, gan fod wedi ei faglu yn y byd
Thomas Jones Mewn caethiwed dirfawr. Yn dysgwyl
Stephen Jones Dan lawer o dywyllwch
James Evans Yn wan mewn gras ond yn dysgwyl
Thomas Bowen Tystiolaeth lawn yn aml, ond nid yn arosol
Edward Bowen Tystiolaeth lawn ac arosol
Eliza Evans Tan lawer o amheuon oblegyd grym llygredigaeth
Mary Jones Y gair hwn wedi ei selio iddi hi: "A chariad Tragwyddol y'th gerais"
Catherine Jones Tystiolaeth hyfryd o gariad Duw
Mary Price Yn un modd
Diana Evans Yn rhodio yn agos at Dduw ond mewn llawer o amheuon
Margaret Bound Tystiolaeth lawn


Tri-ar-ddeg oedd rhif yr aelodau yma yn ogystal.

Llanwrtyd. Cynghorwr anghyoedd Rice Morgan:—

Enwau yr Aelodau Eu Sefyllfa
Rice Morgan Yn rhodio yn agos, ond mewn peth amhaeaeth
David Williams Nid yw wedi ei adael mewn un gradd o amheuaeth
Rice Williams Ei gyflwr yn tywyll iawn
Thomas Lloyd Efe yn tybio darfod iddo gael tystiolaeth ond eraill heb eu llawn foddloni yn ei gyflwr
Edward Winston Mewn caethiwed mawr
Roderick Rice Mewn caethiwed a thywyllwch
Ann Lloyd Yn ceisio yn ddyfal ond mewn treialon dirfawr
Eliza Evans Ar y ffordd yn ceisio
Margaret Evans Yn ei chariad cyntaf
Eliza Williams Yn llwythog o anghrediniaeth

Yr oedd 28 o aelodau yn perthyn i'r gymdeithas hon, a dywedir ei bod yn myned yn y blaen yn hyfryd. Rhydd gyfrif cyffelyb am seiadau Merthyr Cynog, Llandyfathen, Cerigcadarn, Llanddewi'r Cwm, a Llaneigion. Y mae ei sylwadau ar gyflyrau y gwahanol aelodau i'r pwynt, ac yn fynych yn brydferth. Dywed am un William Saunders, Llaneigion: "Gwedi bod mewn dirfawr amheuaeth gyda golwg ar dduwdod Crist, ond yn awr creda nid yn unig ei fod yn Dduw, ond hefyd yn Dduw iddo ef." Am un Mrs. P., o'r un seiat, dywed: "Medd dystiolaeth lawn, ac y mae yn rhodio yn agos, ond nid yw ei henw wedi ei ysgrifenu, am fod y gŵr yn bytheirio ac yn erlid." Ychwanega am yr un gymdeithas: "Y mae saith yn ychwaneg i ddod i mewn."

Dengys y cofnodion hyn ddirfawr wahaniaeth parthed ysprydolrwydd meddwl rhwng y Methodistiaid a'r Ymneillduwyr oeddynt yn y wlad o'u blaen. Dospartha Dr. John Evans, yn y daflen y cyfeiriasom ati yn barod, y rhai a berthynent i'r Anghydffurfwyr yn ol eu sefyllfa fydol; rhenir hwy i ynadon, ysweiniaid, rhai yn meddu pleidlais yn y sir neu y fwrdeisdref, rhydd-ddeiliaid, amaethwyr, masnachwyr, a labrwyr. Nid yw yr hen gynghorwr o Gerigcadarn yn prisio dim parthed safle fydol aelodau y gwahanol seiadau; dibwys ganddo pa un ai labrwyr ynte ustusiaid ydynt; rhana efe hwy yn ol eu cyflwr ysprydol, sef rhai wedi eu cyfiawnhau, rhai yn dyfal geisio, a rhai dan draed amheuon, &c. Yr oedd y Methodistiaid cyntaf yn byw gymaint yn y Presenoldeb Dwyfol, fel nad oedd mân wahaniaethau y byd o un pwys yn eu golwg. Eithr y mae



Nodiadau[golygu]