Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-29)

Oddi ar Wicidestun
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-28) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf
gan John Morgan Jones

Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-30)

Thomas James heb orphen ei adroddiad. Fel hyn y dywed am y seiadau canlynol :— <poem> Trefecca Heb fod mewn trefn. Llangamarch Newydd ei ffurfio. Cynghorwr anghyoedd — David. Rhif, oddeutu 14. Llwyncoll Mewn trefn, ond nid yw yn gyfleus i mi rhoddi eì chyfrif. Llanfihangel Nant-Bran—Y seiat newydd ei ffurfio. Llanfibangel Fechan—Ni wnant eto ymostwng i unrhyw drefn. Tref Aberhonddu—Heb eì ffurfio. Llangors Heb ddod i drefn. Cilhonwy—Y seiat tan Mr. Beaumont. Dyserth—Heb gael ei phrofi.

Dywed fod yr aelodau y rhydd gyfrif o honynt yn 134, ond y byddai y cyfanswm yn sicr o fod yn 200. Cofier mai rhan o Frycheiniog oedd dan ei ofal. Terfyna yn y modd a ganlyn: "Bendigedig fyddo ein Hiachawdwr am hyn o ddechreuad, gan obeithio y gwna efe ei Jerusalem yn llawenydd yr holl ddaear, oblegyd yn wir eto y mae lle. Am hyn, gweddïwch lawer drosom, a throsof fi, yr annheilwng— THOS JAMES."

Cymerer eto adroddiad Morgan Jones, arolygwr dros ranau o Fynwy. Fel hyn yr ysgrifena efe:

“GOETRE. Y maent yn 13 o rif, gydag un goruchwyliwr drostynt, yr hwn sydd ŵr tra gofalus. Nid oes yma ond dau ŵr priod, a dim un sengl. Derbyniwyd dau yn ddiweddar, un yn wraig mor hawddgar yn ei hyspryd a'r un o'r lleill. Y mae rhai, fel yr wyf yn credu, yn Gristionogion, ond heb uno eto a'r seiat breifat. Y mae yr aelodau wedi profi mesur o ryddid, neu amlygrwydd eu bod wedi cael eu cyfiawn- hau, bawb o honynt ond un, rhai fwy, a rhai lai. . . . Meddant ryddid mawr at eu gilydd, ac at y brawd Stephen Jones, eu cynghorwr anghyoedd. Gwn ddarfod i'r Arglwydd fendithio fy llafur yn eu mysg. Meddwn ryddid mawr y naill at y llall. Bendigedig a fyddo y sanctaidd Dduw, yr hwn a'i dygodd.

"GLASCOED. Y maent tua 9 mewn rhif. Y brawd Jones, eu cynghorwr anghyoedd, a wasanaetha swydd goruchwyliwr, ac, fel yr wyf yn credu, a wasanaetha yn ffyddlawn. Y maent wedi eu gosod yn y drefn oreu bosibl, ac ystyried eu hamgylchiadau. Cyfarfyddant yn breifat mor aml ag y gallant, ac y mae yr Arglwydd yn eu bendithio, fel y mae yn bendithio pawb a gyfarfyddant felly. Nid wyf yn gwybod am un nad yw yn barod i dystio fod yr Arglwydd yn eu bendithio yn rhyfedd yn eu cynulliadau preifat; ond am y rhai sydd yn gwrthsefyll, y maent yn myned yn sychach bob dydd. Y mae yr holl aelodau wedi profi cariad Duw wedi ei dywallt ar led yn eu calonau i'r fath raddau, fel y maent wedi eu hargyhoeddi fod eu pechodau wedi eu maddeu, a'u hanwireddau wedi eu cuddio. Yr wyf yn credu fod eu profiad yn gadarn ac yn gywir, oblegyd y mae eu bywydau yn cyfateb. Tlodion ydynt gan mwyaf, ond y maent yn ffyddlawn yn eu galwedigaethau, ac hefyd y naill i'r llall. Y maent yn foddlawn gweithio er cynorthwyo eu gilydd, pan yn glaf neu mewn eisiau. Y mae i mi undeb mawr a hwy, a felly hwythau ataf finau. bendigedig fyddo Duw am ei ddwyn oddiamgylch. Amen.

"ST. BRIDES.. . Pedwar-ar-ddeg o rif ydynt, a chredaf eu bod yn Gristionogion sylweddol o ran gwybodaeth a phrofiad. Holais hwynt yn breifat, a chefais dystiolaeth ddarfod iddynt oll brofi rhyddid yr efengyl i raddau mawr, oddigerth tri; ac y mae un o'r tri wedi cael fod Crist yn eiddo iddi, ond y mae ei ffydd yn wan. Am y ddau arall, dywedant nad ydynt eto wedi cael gafael ar yr Arglwydd, ond yr wyf yn credu eu bod, a dyna farn y gweddill o'r brodyr. Meddyliais iddynt wneyd yn glir mai gwaith Duw ydoedd, er eu bod yn ceisio ei guddio. Temtir hwy gan y gelyn i gredu na chawsant eu hargyhoeddi erioed, er fod eu calonau yn ymddangos yn ddrylliedig. Y maent mor ostyngedig a neb a welais.

"MYNYDDISLWYN. Y maent yn IO o rif, gyda dau oruchwyliwr drostynt, ac y mae yr Arglwydd yn bendithio y moddion iddynt. Cynorthwyir fi, ac felly eraill hefyd, pan fyddwyf yn llefaru yn eu mysg. Cyfarfyddant yn breifat unwaith yr wythnos, a chant gymaint o les trwy hyn a dim. Y maent yn ddiargyhoedd yn eu bywydau. Medd rhai o honynt dystiolaeth ddarfod eu cyfiawnhau, a dyhea y gweddill yn feunyddiol am ei gael.

"LLANGADOG. Daw cryn nifer ynghyd i wrando y Gair yn y cymdeithasau cyhoeddus, a rhydd yr Arglwydd allu i lefaru mewn cariad. Pedwar-ar-ddeg sydd wedi rhoddi eu henwau. Y maent yn rhy ieuainc i dderbyn un i edrych drostynt, ond daw un atynt o Lannfihangel mor fynych ag sydd bosibl. Dechreu ymgynull yn breifat y maent. Yr wyf yn teimlo rhyddid mawr yn eu mysg, am eu bod

R



Nodiadau[golygu]