Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Sefyllfa Foesol Cymru Adeg Cyfodiad Methodistiaeth (tud-1)

Oddi ar Wicidestun
Rhagymadrodd Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Sefyllfa Foesol Cymru Adeg Cyfodiad Methodistiaeth (tud-2)

PENOD I

,

SEFYLLFA FOESOL CYMRU ADEG CYFODIAD METHODISTIAETH

Sefyllfa foesol Prydain yn isel adeg cyfodiad Methodistiaeth—Cyflwr Cymru o angenrheidrwydd yn gyffelyb—Hirnos gauaf mewn amaethdy—Tystiolaeth ysgrifenwyr diduedd am gyflwr y Dywysogaeth—Cyhuddiad Dr. Rees yn erbyn y Tadau Methodistaidd—Y cyhuddiad yn ddisail—Taflen Mr. John Evans, o Lundain—Y daflen yn cael ei llyrgunio i amcan Yr eglwysi Ymneillduol yn cael eu gwanhau gan ddadleuon—Yr elfenau newyddion a ddaethant i mewn gyda'r Methodistiaid.

Y MAE yn amheus a fu crefydd ysprydol erioed yn is yn Mhrydain, er pan y pregethwyd yr efengyl gyntaf yn yr ynys, nag adeg dechreuad Methodistiaeth. Yr oedd y Puritaniaid gyda eu bywyd a'u harferion personol a theuluaidd dysyml, eu gwrthnaws at bob rhodres, gwag—ymddangosiad, a balchder, eu difrifwch angerddol, a'u cydnabyddiaeth eang a Gair yr Arglwydd, wedi cael eu rhifo i'r bedd; ac ar eu hol cyfodasai oes arall, hollol wahanol o ran yspryd, arferion, a moes, yr hon oedd wedi ymroddi i bob math o chwareu, a phob math o lygredigaeth. Gellir olrhain y cyfnewidiad mewn rhan i wrthweithiad naturiol yn erbyn yr yspryd Puritanaidd, yr hwn o bosibl oedd yn rhy lym; mewn rhan i ddylanwad llygredig llys Siarl yr Ail, yn yr hwn y gwawdid rhinwedd a phob math o ddifrifwch, ac yr ymffrostid mewn anfoesoldeb; ond yn benaf i lygredigaeth naturiol y galon ddynol, yr hon sydd yn unig yn ddrygionus bob amser. Nid oedd prinder dynion galluog yr adeg hon. Dyma y pryd y blodeuai Handel y cerddor, Pope y bardd, Daniel Defoe y nofelydd, a Samuel Johnson y llenor. Tua'r amser hwn y cyfansoddai Butler ei Gyfatebiaeth, yr hwn lyfr nad oes yr un anffyddiwr wedi llwyddo i'w ateb hyd heddyw. Fel dynion o allu arbenig yn yr Eglwys Sefydledig, gellir cyfeirio at Sherlock, Waterland, a Secker; ac yn mysg yr Ymneillduwyr at Isaac Watts, Nathaniel Lardner, a'r duwiol Philip Doddridge. Ond fel y sylwa un, nid yw talent bob amser yn esgor ar ddaioni. Ac yr oedd yr oes yma, er yr holl ddynion galluog a dysglaer eu talent a gynwysai, yn nodedig am ei hanfoesoldeb. Meddai ysgrifenydd galluog: [1] " Ni wawriodd canrif erioed ar Loegr Gristionogol mor amddifad o enaid ac o ffydd a'r hon a gychwynodd gyda theyrnasiad y Frenhines Anne, ac a gyrhaeddodd ei chanolddydd dan Sior yr Ail. Nid oedd dim irder yn yr amser a basiodd, na dim gobaith yn y dyfodol. Athronydd yr oes oedd Bolingbroke, ei haddysgydd mewn moesoldeb oedd Addison, ei phrydydd oedd Pope, a'i phregethwr oedd Atterbury. Gwisgai y byd olwg segur anniddig tranoeth i ddydd gwyl gwallgof."

Cadarnheir y desgrifìad gan y rhai oeddynt yn byw ar y pryd. Dywed Esgob Lichfield, yn 1724, mewn pregeth o flaen y Gymdeithas er Diwygio Moesau: [2] " Dydd yr Arglwydd yn awr yw dydd marchnad y diafol. Ymroddir i fwy o anlladrwydd, i fwy o feddwdod, ac i fwy o gynhenau; cyflawnir mwy o fwrddradau a mwy o bechod ar y dydd hwn nag ar

Nodiadau[golygu]

  1. North British Retiew, 1847
  2. Tyerman's Life of John Wesley