Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Sefyllfa Foesol Cymru Adeg Cyfodiad Methodistiaeth (tud-11)

Oddi ar Wicidestun
Sefyllfa Foesol Cymru Adeg Cyfodiad Methodistiaeth (tud-10) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Sefyllfa Foesol Cymru Adeg Cyfodiad Methodistiaeth (tud-12)

gofalu am y lleoedd hyn, nac yn cyrchu iddynt i addoli. Nid oedd y persondai neu y ficerdai ychwaith ond cotiau gwael; ni allai y clerigwyr, er tloted eu byd, fyw ynddynt; felly ardrethid hwy i rywun a'u cymerai. Yn aml syrthient i ran y clochydd; yr hwn, er mwyn cynal corph ac enaid wrth eu gilydd rywlun, a gai y fraint o werthu cwrw yn ymyl y fynwent.

Nid oedd yr ofteiriaid nemawr gwell na'r eglwysydd. Llenwid yr esgobaethau Cymreig gan Saeson, nad oeddynt yn gofalu o gwbl beth a ddeuai o'r genedl; ni fwriadent ychwaith aros yn eu gwahanol esgobaethau, gan mor dloted oeddynt, ond am amser byr, ac hyd nes eu dyrchefid i esgobaeth gyfoethocach. Penodai y rhai hyn eu meibion, eu brodyr, eu neiaint, neu eu cyfeillion, i fywiolaethau Cymreig, er eu bod yn Saeson, ac yn analluog i ddarllen na phregethu yn iaith y plwyfolion.[1] Yn nechreu y ddeunawfed ganrif yr oedd y rhan fwyaf o Sir Faesyfed yn Gymreig; a chawn ohebiaeth ddyddorol rhwng plwyfolion Glascwm, yr hwn blwyf a orwedda tua chanol y Sir, ag Esgob Tyddewi, gyda golwg ar yr offeiriad oedd newydd gael ei appwyntio iddynt. Yn flaenorol darllenid y llithiau yn Gymraeg a Saesneg ar yn ail; felly hefyd gyda golwg ar y gweddïau; a phregethid yn Saesneg un Sabbath, ac yn Gymraeg y Sabbath dilynol Ond am yr offeiriad newydd, cariai ef y cyfan yn mlaen yn Saesneg. Dymunai y plwyfolion i'r Esgob ei orfodi i gario y gwasanaeth yn mlaen yn ddwyieithog, neu i gyflogi rhyw weinidog galluog a wnelai hyny drosto. Ymddengys i'r Ficer ar arch yr Esgob geisio cydsynio a'u dymuniad. Ond cyn pen ychydig fisoedd, anfonent gwyn arall at yr Esgob, sef fod yr offeiriad wedi ymgymeryd a darllen y gwasanaeth yn Gymraeg, ond nad oedd neb yn deall gair a lefarai, am nad oedd yn Gymro, nac wedi dysgu yr iaith. Cymerodd hyn le yn y flwyddyn 1743. Yr oedd yn amcan gan yr esgobion a'r clerigwyr Saesnig i allyudio y Gymraeg allan o'r tir. Meddai Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir), mewn llythyr at ei gyfaill Rhisiart Morys, dyddiedig Mehefin 23, 1766, "Am danom ni yn yr Esgobawd yma (Llanelwy), y mae'r Esgob yn cael gwneuthur a fyno yn ddiwarafun; sef y mae, megys Pab arall, wedi dyrchafu tri neu bedwar o'u neiaint i'r lleoedd goreu, lle yr oedd Cymry cynhenid gynt yn gweinyddu, ac ni chaiff" y curadiaid danynt ddarllen mo'r Gymraeg. Ac myfi a glyw ais hefyd ddywedyd yn ddiweddar fod dau Sais arall yn Sir Drefaldwyn, mewn dwy eglwys a elwir Castell ac Aber Hafesb, yn darllen Saesneg yn gyfan drwy gydol y flwyddyn, er nad oes mo haner y plwyfolion yn deall nac yn dirnad dim ag a draethir ganddynt. Myfi a glywaf fod gwyr Môn am ddeol y Sais brych a dderchafwyd i fod yn Berson Trefdraeth i'w wlad ei hun.[2] Nid rhyfedd fody Prydydd Hir yn ychwanegu—" Duw a ddelo ag amseroedd gwell, ac a atalio ar eu rhwysg, rhag iddynt andwyo eneidiau dynion dros fyth!"

Ychydig iawn o bersoniaid Eglwys Loegr a fedrai bregethu yn iaith y bobl, ie, hyd yn nod o'r Cymry. Gan mwyaf yr oeddynt yn greaduriaid diddysg[3] ac anwybodus, heb feddu unrhyw gymhwysder.ar gyfer eu swydd gysagredig parthed talent, cymeriad, na dawn ymadrodd, ond yn unig eu bod wedi medru ymwthio i ffafr rhywun a feddai ddylanwad ar berchenog y fywioliaeth. Fel yn mhob adeg o ddirywiad crefyddol, gwnelid gwehilion y bobl yn offeiriaid. Meddai Dr. Erasmus Saunders: "Nis gellir ameu fod ordeinio personau sydd eu hunain yn ddirmygus yn tueddu i daflu dirmyg ar eu swydd; ac y mae felly pan fyddo unrhyw damaid o ysgolfeistr sydd yn dysgu yr A B C, neu drulliad gŵr bonheddig, neu gwac, neu bob peth yn mron, yn cael eu derbyn mor rhad i'r offeiriadaeth ar sail cymeradwyaeth rhyw berchenog degwm, a fyddo am gael caplan yn rhad, neu ynte am gael gwared o was diwerth." Medrai y rhai hyn Gymraeg pen heol; gallent gyfeillachu ag yfwyr cwrw yn y tafarndai trwy gyfrwng yr iaith gysefin, ond ni feddent iaith pwlpud. Dywed y Parch. G. Jones,[4] y darllenent lyfrau Saesneg, pan yn ceisio parotoi ar gyfer y Sabbath; ond wedi clytio rhyw fath o bregeth, a dyfod i'r pwlpud i'w thraddodi, yr oedd y fath ffregod baldorddus, ansoniarus, a llygredig, fel na allai y gwrandawyr ddeall gair o honi. Cyhuddiad o gyffelyb natur, onide, a ddygasai John Penry, y merthyr Cymreig, yn erbyn offeiriaid ei ddyddiau ef? sef eu



Nodiadau[golygu]

  1. Diocesan History of St. David's
  2. Gwaith y Parchedig Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir). Golygedig gan D. Silvan Evans, B.D., tudal. 202
  3. State of Religion in the Diocese of St David's
  4. Welsh Piety