Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Sefyllfa Foesol Cymru Adeg Cyfodiad Methodistiaeth (tud-12)

Oddi ar Wicidestun
Sefyllfa Foesol Cymru Adeg Cyfodiad Methodistiaeth (tud-11) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Sefyllfa Foesol Cymru Adeg Cyfodiad Methodistiaeth (tud-13)

bod yn amddifad o eiriau crefyddol a thermau duwinyddol, ac felly yn methu gwneyd eu hunain yn ddealladwy yn y pwlpud, er y gallent gario yn mlaen ymddiddân mewn iaith weriniol ar ben y ffordd fawr, neu yn nghongl yr aelwyd.

Gwaeth na'r cyfan, yr oeddynt yn ddigymeriad, a llawer o honynt yn byw mewn annuwioldeb cyhoeddus. Nis gallent gynghori yr anfoesol, na chyhuddo y drygionus, am eu bod hwy eu hunain yn llygredig.[1] " Nis gellir cuddio," meddai Griffith Jones, "ddarfod i amryw o oferwyr halogedig gyffesu mai y gwir reswm am eu hinffideliaeth a'u rhysedd cnawdol, oedd y syniad isel a feddent am yr offeiriaid; y rhai, fel y tybient, na feddent fwy o ffydd mewn Cristionogaeth na hwythau, onide y byddent yn pregethu ac yn byw yn well.,[2] Cawn yr un gŵr parchedig, mewn llythyr o'i eiddo ar gateceisio yn ymosod yn ddiarbed ar y "perigloriaid a'r ficeriaid diog, y rhai a arweinient fywyd difater, ac a warient eu hamser mewn cadw cwmniaeth, ac mewn meddwi ar hyd y tafarndai, yn lle glynu ŵrth eu llyfrau, a chyflawni eu dyledswydd." Pan yr oedd gweinidogion y Gair eu hunain yn byw mewn rhysedd annuwiol, ac yn dangos yn amlwg yn eu bucheddau nad oeddynt yn credu nac yn parchu y gwirionedd, y tyngasent hwy o ffyddlondeb iddo ar eu hordeiniad, pa ryfedd fod y rhai y tu allan, yn wreng a boneddig, yn cymeryd yn ganiataol nad oedd Cristionogaeth ond ffug, na chrefydd ond chwedl, a'u bod yn troi eu cefnau ar foddion gras, gan arwain bywyd penrhydd?

Cyfaddefa Dr. Erasmus Saunders[3] fod llawer o eglwysydd yn y rhai na fyddai na phregethu, na chateceisio, na gweinyddiad o'r cymun bendigaid, yn cymeryd lle ond anaml, os un amser; ac mewn eglwysydd eraill nad oedd y gweddïau yn cael eu darllen ond yn rhanol, a hyny efallai unwaith y mis, neu unwaith y cwarter. Ond y mae yn taflu y bai ar fychander cyflog y cuwradiaid. Gorfodid hwy i wasanaethu tair neu bedair o eglwysydd, a'r rhai hyny yn mhell oddiwrth eu gilydd, am ryw ddeg neu ddeuddeg punt y flwyddyn; a gofyna mewn llid, pan fyddo pethau fel hyn, pa drefn neu reoleidd-dra ellir ddisgwyl? "Gorfodir hwy," meddai, " yn awr gan eu bod wedi eu hordeinio, i blygu i unrhyw delerau; rhaid iddynt naill ai newynu neu ynte foddloni i'r gyflog waelaf, gan gerdded a gweithio am dani cyhyd ag y medrant. A chan fod eu hamser mor fyr, a chanddynt hwythau gynifer o leoedd i'w gwasanaethu, mor frysiog ac fel allan o anadl y rhaid iddynt ddarllen y gweddíau, neu eu byrhau a'u talfyru! Pa amser sydd ganddynt hwy neu eu cynulleidfaoedd i ymlonyddu, tra y gorfodir hwy fel hyn i fod yn fath o ysgogiad parhaus (perpetual motion), neu deithwyr ffrystiog yn brysio o gwmpas o le i le? Nid oes unrhyw amser penodol i fyned i'r eglwys, ond iddi fod yn ddydd Sul; rhaid i'r dyn tlawd (y cuwrad) ddechreu unrhyw bryd, gyda chynifer ag a fyddo yno, yn foreuach neu yn hwyrach, fel y byddo yn gallu dod o gwmpas. Yna brasgama yn gyflym tros gynifer o weddïau ag a all mewn rhyw haner awr, a chwedin ail-gychvyna i'w daith, gyda chylla gwag (oblegyd pa mor llym bynag y byddo ei chwant bwyd, anaml y mae ganddo amser i gymeryd cinio; ac anaml y gall deiliad y fferm- ddegwm fforddio rhoddi cinio iddo hyd nes y byddo wedi gorphen ei gylch, neu ynte hyd nes y byddo blinder neu dywyllwch y nos yn peri iddo orphwys. Efallai o ddiffyg ychydig luniaeth gartref yr â i le na ddylai, ag y bydd yn debyg o gyfarfod a'r rhan fwyaf o'r gynulleidfa, y rhai pan fyddo y gwasanaeth byr drosodd, a deimlant yn rhydd i dreulio gweddill y dydd yn y tafarndŷ, neu mew'n rhyw chwareuon dymunol yn eu golwg."

Profa y tystiolaethau hyn, a gymerwyd oll allan o weithiau awdwyr eglwysig, ynghyd ag eraill a ellid ychwanegu atynt, fod yr Eglwys Wladol yn hollol amddifad o allu i wrthsefyll y llygredigaeth oedd yn dyfod i mewn fel diluw, ac i ddyrchafu moes a chrefydd. Gydag eglwysydd afiach, brwnt, a dadfeiliedig; gyda gwasanaeth crefyddol ffrystiog, difater , ar y Sul, na wyddai neb pa awr o'r dydd y cymerai le; a chyda clerygwyr anfucheddol, dirmygus yn ngolwg y cyhoedd, mwy cydnabyddus a chadair freichiau ac a chwmni dyddan y tafarndŷ nac a Gair Duw, ac mor anwybodus o'r iaith yn mha un eu ganed, fel na allent bregethu yn ddealladwy, nid oedd unrhyw ddylanwad ysprydol er da yn bosibl. Yn rhy aml yr oedd yr offeiriaid yn ffynonhellau llygredigaeth. Blaenorent yn mhob annuwioldeb



Nodiadau[golygu]

  1. Welsh Piety
  2. Diocesian History of St David's
  3. A View of the State of Religion in the Diocese of St david's