Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Sefyllfa Foesol Cymru Adeg Cyfodiad Methodistiaeth (tud-13)

Oddi ar Wicidestun
Sefyllfa Foesol Cymru Adeg Cyfodiad Methodistiaeth (tud-12) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Sefyllfa Foesol Cymru Adeg Cyfodiad Methodistiaeth (tud-14)

a rhysedd; ymgymysgent ag oferwyr ar y Sabbath, gan gymeryd rhan flaenllaw yn y campau halogedig, ac yr oedd eu bywyd preifat yn fynych yn waradwydd. Pa ryfedd felly fod crefydd yn cael ei chablu?

Nid gorchwyl hawdd yw cael gwybodaeth gywir am rif a nerth yr Ymneillduwyr yr adeg hon, yn nghyd a'r dylanwad a feddent ar y wlad. Wrth yr " Ymneillduwyr " yr ydym . yn golygu yr Henaduriaethwyr, yr Annibynwyr, a'r Bedyddwyr, er fod. y Crynwyr yn ogystal yn gryfion mewn rhai parthau o Gymru. Nid ydym am atal dim o'r clod dyledus i'r Tadau Ymneullduol, nac am fychanu y llwyddiant ddarfu ganlyn eu hymdrechion. Dynion gwronaidd a llawn o ffydd oeddynt; llafuriasant yn galed o blaid yr efengyl tan anhawsderau dirfawr, ac ni chyfrifent eu heinioes yn werthfawr pan yn cyhoeddi gwirionedd Duw i'w cydwladwyr. Braidd na ddaliai y dyoddefiadau yr aethant drwyddynt eu cymharu a chyfres dyoddefiadau yr Apostol Paul. Gorthrymwyd hwy gan ddeddfau anghyfiawn a chan swyddogion gwladol didosturi; erlidiwyd hwy fel petris ar hyd copäu'r mynyddoedd; yr oeddynt yn gydnabyddus a charcharau, yn gystal ag a newyn ac a noethni. Bydd enwau Walter Cradoc, Vavasour Powel, Stephen Hughes, Hugh Owen, Bronyclydwr, a'u cydlafurwyr agos mor enwog a hwythau, mewn coffa parhaus yn Nghymru. Darllena eu hanes fel rhamant. Os ystyrir iselder cyflwr y genedl pan wnaethant eu hymddangosiad, a'r rhwystrau oedd ganddynt i ymdrechu yn eu herbyn, rhaid i bawb deimlo iddynt wneyd gwaith mawr. Buont yn foddion i gasglu cynulleidfaoedd, ac i ffurfio eglwysi, mewn amryw ranau o'r wlad, llawer o ba rai sydd yn aros hyd heddyw. Gwir mai bychain oedd yr eglwysi, ac mai mewn tai anedd yr ymgynullid i wrando yr efengyl yn cael ei phregethu; ond os na allent rwystro a throi yn ol y Ilifeiriant pechadurus oedd wedi goresgyn y wlad, medrent ddwyn tystiolaeth dros Dduw yn ei ganol, fel ag i wneyd cydwybodau rhai yn anesmwyth.

Dadleua y Parch. Thomas Rees, D.D., yn ei History of Protestant Nonconformity in Wales, fod y Dywysogaeth, yn arbenig Deheudir Cymru, wedi cael ei hefengyleiddio i raddau mawr cyn cychwyniad Methodistiaeth trwy lafur y gwyr enwog uchod, ynghyd a'u holynwyr; ac mai myned i mewn i'w llafur hwy a medi yr hyn a gawsai ei hau ganddynt, a wnaeth y Diwygwyr Methodistaidd. Yn hyn yr ydym yn credu ei fod yn cael ei arwain ar gyfeiliorn gan ei zêl enwadol. Un prawf a roddir ganddo yw fod cynulleidfaoedd cyntaf Howell Harris a Daniel Rowland wedi cael eu casglu yn y cymydogaethau hyny lle yr oedd eglwysi Ymneillduol yn barod. Yr awgrym yw mai dynion oeddynt yn flaenorol yn aelodau yn yr eglwysi hyny a ffurfient gynulleidfaoedd cyntaf y Methodistiaid, ac nid rhai wedi cael eu hachub trwy weinidogaeth y pregethwyr Methodistaidd. Y mae hyn yn hollol groes i dystiolaeth bendant Howell Harris. Pan yn ceryddu Edmund Jones, Pontypwl, mewn modd nodedig o dyner ac efengylaidd, am ffurfio eglwysi YmneiIIduoI yn Defynog a manau eraill heb ymgynghori ag ef, nac a Daniel Rowland, dywed: "Y mae y rhan fwyaf o'r bobl wedi cael eu galw trwy ein gweinidogaeth ni. Pe y rhoddech eich hun yn ein lle ni, gwelwch nad yw yr hyn a wnaethoch yn iawn, mwy na phe bawn i yn dyfod ac yn cymeryd eich pobl chwi i ffwrdd yn ddirgel oddiwrthych chwi." Prawf y difyniad hwn, i'r hwn ni atebodd Edmund Jones air, mai nid o eglwysi yr Ymneillduwyr oeddynt yn barod mewn bodolaeth y ffurfiwyd societies cyntaf Howell Harris a Daniel Rowland, ond o ddynion annuwiol a gawsant eu hargyhoeddu trwyddynt. Yr un fath, cydnebydd eglwys y Groeswen, yn y Ilythyr a anfonodd i'r Gymdeithasfa yn 1746, wrth ofyn am i rai o'i phregethwyr cynorthwyol gael eu hordeinio, mai plant ysprydol y gweinidogion Methodistaidd oedd yr aelodau. Yr hyn a brofir gan sefydliad societies Methodistaidd yn nghymydogaeth hen eglwysi YmneiIIduol yw, fod yr eglwysi hyny ar y pryd yn fychain o ran rhif, eu bod yn gwanhau yn gyflym ac heb fawr dylanwad ar y wlad o gwmpas.

Addefa Dr. Rees fod cyflwr ysprydol Gogledd Cymru yn cyfateb yn hollol i'r desgrifiad a rydd Mr. Charles o'r Bala, yn y Drysorfa Ysprydol, [1] o agwedd y Dywysogaeth. Yr oedd Mr. Charles y fath fel na feiddir ei gyhuddo o gam-ddarluniad. Ond honir mai Gwynedd yn unig a ddesgrifiai, a bod cyflwr y wlad yn y Deheubarth yn dra gwahanol. Anghofir, pa fodd bynag, ddarfod i Mr. Charles gael ei ddwyn i fynu yn y Dê, ac mai yno y trigodd.



Nodiadau[golygu]

  1. History of Protestant Nonconformity in Wales tudalen 278