Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Sefyllfa Foesol Cymru Adeg Cyfodiad Methodistiaeth (tud-14)

Oddi ar Wicidestun
Sefyllfa Foesol Cymru Adeg Cyfodiad Methodistiaeth (tud-13) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Sefyllfa Foesol Cymru Adeg Cyfodiad Methodistiaeth (tud-15)

gyda'r eithriad o'r adeg y bu yn Rhydychain, hyd nes cyrhaedd oedran gŵr; ac felly ei fod yn gwbl gydnabyddus ag agwedd crefydd yn yr oll o Gymru. Pe buasai cyflwr y Deheubarth yn gwahaniaethu mor fawr ag y tybir gan rai oddiwrth eiddo y Gogledd, y mae yn hollol sicr y buasai gŵr o degwch Mr. Charles, un ag oedd mor gymhedrol ac mor ofalus yn ei ymadroddion, yn galw sylw at hyny pan yn darlunio agwedd y wlad. Y mae y rheswm a rydd Dr. Rees am y gwahaniaeth tybiedig rhwng y Gogledd a'r Dê yn ddychymygol ac yn blentynaidd. Dywed fod y gweinidogion yn mron oll yn Ddeheuwyr, a bod y fath wahaniaeth rhwng tafodiaith y ddwy dalaeth, fel yr oedd eu pregethau i raddau mawr yn annealladwy i drigolion Gwynedd, ac y defnyddient ymadroddion yn y pwlpud a pha rai y cysylltai y gwrandawyr y syniadau mwyaf chwerthinllyd a digrifol. Gwir y wahaniaetha ieithoedd y ddwy dalaeth i raddau; ond pan aeth pregethwyr cyntaf y Methodistiaid i Wynedd, ni cheir un awgrym fod y werin yn methu eu deall, na bod eu geiriau yn cynyrchu digrifwch. Yn hytrach, cynyrchent gyffro angerddol; parent i rhai ymgynyrfu mewn llid, ac i eraill waeddu mewn pryder oblegyd eu cyflwr. Deheuwr, o Ddyfryn Nedd, oedd Mr. Lewis Rees, a fu yn weinidog llwyddianus am agos i chwarter canrif yn Llanbrynmair; geiriau Dr. Rees am dano ydynt:[1] "Trwy fendith Duw yn cydfyned a'i ymdrechion diorphwys, ac ag eiddo y pregehwyr bywiog o'r Deheubarth a wahoddai i ymweled a siroedd esgeulusedig y Gogledd, megys Howell Harris, Jenkin Morgan, ac eraill, cymerodd adfywiad ar grefydd le, yr hyn mewn amser a effeithiodd gyfnewidiad hapus yn agwedd foesol y wlad." Buasai hyn yn amhosibl pe y byddent yn methu gwneyd eu hunain yn ddealladwy i'r werin. Anhawdd cyfrif hefyd am yr erledigaethau enbyd a'r ymosodiadau cywilyddus a wnaed ar Howell Harris a Daniel Rowland, ynghyd a chynghorwyr cyntaf y Methodistiaid, yn y Deheubarth yn gystal ac yn y Gogledd, pe y buasai y wlad wedi cael ei meddianu mor llwyr ag y tybir gan rai gan yr Ymneillduwyr.

Seilia Dr. Rees ei honiad, fod y Deheudir wedi cael ei meddianu i raddau mawr gan yr Ymneillduwyr cyn cyfodiad Methodistiaeth, yn benaf ar ddwy o daflenau. Un yw y daflen a baratowyd gan y clerigwyr, trwy orchymyn Archesgob Canterbury, yn y flwyddyn 1669, pan yr adfywiwyd y Conventical Act. Rhoddir nifer y capelau yn mhob esgobaeth yn Lloegr a Chymru, ac y mae y papyrau ar gael yn bresenol yn mhalas Lambeth. Methwyd dod o hyd i daflenau esgobaethau Bangor a Thyddewi; rhai Llandaf a Llanelwy yn unig sydd ar gael. Y daflen arall yw yr un a gasglwyd trwy ymdrechion Dr. John Evans o Lundain, yn y flwyddyn 1715, yr hon sydd ar glawr a chadw yn bresenol yn llawysgrif Dr. Evans, yn llyfrgell Dr. Daniel Wilhams, Gordon Square, Llundain. Yn hon rhoddir rhifedi a grym y cynulleidfaoedd Ymneillduol trwy Gymru a Lloegr yr adeg hono. Mewn cysylltiad a hyn ymddengys yr ystyriaethau canlynol i ni yn briodol.

Nad yw y taflenau hyn, na'r casgliadau a dynir oddiwrthynt, yn gyfryw ag y gellir ymddiried nemawr ynddynt. Cymerer yr ystadegau a anfonwyd gan y clerigwyr i Archesgob Canterbury yn 1669. Dywed Dr. Rees y gallwn fod yn sicr nad yw rhif y gwrandawyr yn cael ei osod yn fwy nag ydoedd mewn gwirionedd. Ond dibyna hyn yn gyfangwbl ar yr amcan mewn golwg. Y tebygolrwydd yw yr amcanai y clerigwyr ail ddefro yr erledigaeth yn erbyn yr Ymneillduwyr, ar y tir eu bod yn annheyrngar, ac o herwydd hyny yn beryglus i'r llywodraeth; felly pa lliosocaf y gellid gwneyd eu cynulleidfaoedd, mwyaf oll yr ymddangosai y perygl, a chryfaf y rheswm dros i'r gallu gwladol ail osod mewn grym y deddfau cosbawl yn eu herbyn. Dengys Dr. Rees ei hun[2] nas gall dim tebyg i gywirdeb berthyn i'r ystadegau yma, am fod y cyfarfodydd yn cael eu cynal mor ddirgel ag oedd bosibl, fel yr oedd yn gwbl annichonadwy i'r clerigwyr a'r wardeniaid, y rhai a gasglent y cyfrif, wybod y nifer a ymgasglai ynghyd. Dywed tafleni 1669 fod y gynulleidfa a ymgynullai yn Merthyr Tydfil, yn nhai Howell Rees Philip ac Isaac John Morgan—sef, gallwn feddwl, ar yn ail; Sabbath yn un ty a Sabbath gwedin mewn ty arall—ynghyd a'r werinos gymysg a'r Crynwyr yn nhai Jenkin Thomas, Harry Thomas, a Lewis Beck, yn rhifo tri, pedwar, pump, ac weithiau chwech cant. Ymddengys i ni fod cynulleidfa o chwech cant o bersonau mewn ychydig dai tlodion yn Merthyr yr



Nodiadau[golygu]

  1. History of Protestant Nonconformity in Wales tudalen 413
  2. History of Protestant Nonconformity in Wales tudalen 172