Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Sefyllfa Foesol Cymru Adeg Cyfodiad Methodistiaeth (tud-6)

Oddi ar Wicidestun
Sefyllfa Foesol Cymru Adeg Cyfodiad Methodistiaeth (tud-5) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Sefyllfa Foesol Cymru Adeg Cyfodiad Methodistiaeth (tud-7)

tafodau yr adroddwyr yn fwy rhydd mewn canlyniad. Ni thorwyd i fynu hyd haner nos, ac erbyn hyny yr oedd y dosparth ieuangaf wedi eu meddianu gan ddychrynfeydd; cyniweiriai iasau oerion trwy eu cnawd, a safai eu gwallt i fynu yn syth. Ar y ffordd adref tybient mai drychiolaeth oedd pob llwyn o ddrain, ac mai canwyll gorff oedd llewyrch y glöyn byw yn ffos y clawdd.

Dyma yr ymborth meddyhol a roddid i ieuenctyd Cymru gant a haner o flynyddoedd yn ol; dyma y chwedlau ofergoelus a yfent megys gyda llaeth eu mamau, ac a gredid yn ddiameu yn eu phth. Ni wyddent ddim am Dduw, heblaw bod yn gydnabyddus a'i enw; ni feddent yr un syniad am ysprydolrwydd ei natur nac am y dyledswyddau a ofynai ar eu llaw. Am y pethau mawrion yma yr oeddynt agos mor anwybodus a phaganiaid India. Ac yr oedd yr anfoesoldeb yn gyfartal i'r anwybodaeth. Ymlygrasai yr holl wlad; yn hyn nid oedd wahaniaeth rhwng boneddig na gwreng, ofíeiriad na phobl. Nid oedd y pwlpud yn meddu un math o allu i atal y llifeiriant. Yn wir, anaml y clywid enw ein Gwaredwr yn cael ei yngan ynddo, ac ni chyfeirid o gwbl at bechadurusrwydd dyn, nac at waith yr Yspryd Glân.[1] Bob Sul cynhelid chwareugamp, lle y byddai ieuenctyd y wlad yn gwneyd prawf o'u nerth mewn ymgodymu, neidio, rhedeg, a chicio y bel droed, tra y byddai yr hen yn sefyll o gwmpas i edrych. Gorphenid y dydd trwy fyned yn un dorf i'r tafarn, lle y treulid y nos mewn meddwdod, ac yn aml mewn ymladdfeydd creulon. Nos Sadyrnau, yn arbenig yn yr haf, cynhelid cyfarfodydd i ganu carolau, i ganu gyda'r delyn, i ddawnsio, ac i berfformio interliwdiau, gyda y ddau ryw ynghyd; yn y chwareuon hyn ymunai boneddigion yr ardaloedd yn gystal a'r tlodion. Cafodd y pethau yma, ynghyd a'r anfoesoldeb cydfynedol, y fath ddylanwad ar yspryd Mr. Charles o'r Bala, fel yr oedd hyd derfyn ei oes yn boen iddo i aros mewn ystafell yn mha un y byddai y delyn yn cael ei chwareu.

Cyhudda y Parch. T. Rees, D.D., Abertawe, y tadau Methodistaidd o ddesgrifio sefyllfa y Dywysogaeth ar y pryd mewn Iliwiau rhy ddu, a lledawgryma ddarfod iddynt wneyd hyny yn wirfoddol, er dirmygu llafur blaenorol yr Ymneullduwyr, a mwyhau y diwygiad a gynyrchwyd trwy eu llafur hwy eu hunain. Ni ddylasai y fath gyhuddiad ehud a disail gael ei wneyd. Y tadau Methodistaidd fyddai y diweddaf i orbrisio eu gwaith. Yn wir, nid oedd ganddynt un syniad am fawredd y chwildröad y buont yn foddion i'w gynyrchu; nyni, wrth edrych yn ol arno dros agendor o gant a haner o flynyddoedd, sydd yn gallu deall pa mor bwysig a pha mor llesiol a fu eu llafur a'u gweinidogaeth. Seilia Dr. Rees ei gyhuddiad ar ryw daflenau y daeth o hyd iddynt yn Llundain, ac ar lythyr o eiddo y Parch. Edmund Jones, Pontypwl. Cawn sylwi yn nes yn mlaen ar y taflenau, ond y mae yn amlwg fod Edmund Jones, a Dr. Rees yn ogystal, wedi camddeall marwnad Williams, Pantycelyn, i Howell Harris. Pan y desgrifia Williams Gymru, yr adeg y daeth Harris i maes o Drefecca fel dyn mewn twym ias, ac y dywed eu bod

"————yn gorwedd
Mewn rhyw dywyll, farwol hun,
Heb na Phresbyter na 'Ffeirad,
Nac un Esgob ar ddihun,"

nid yw am wadu fod rhai eithriadau pwysig. Ysgrifenai fel bardd, ac ni fwriadai i'w eiriau gael eu deall yn hollol lythyrenol. " Nid yw Williams," meddai Dr. Rees, " mewn un modd yn lleddfu ei haeriad fod pawb yn Nghymru mewn trwmgwsg pan y cychwynodd Methodistiaeth."Y mae hyn yn gamgymeriad; ceir ymadroddion yn y farwnad ei hun sydd yn dangos na fwriedid y geiriau i gael eu gwasgu i'w hystyr eithaf. Tua chanol y farwnad ceir y llinellau canlynol:

" Griffìth Jones pryd hyn oedd ddeffro
Yn cyhooddi Efengyl gras,
Hyd cyrhaeddai'r swn o'r pwlpud
Neu, os rhaid, o'r fynwent las."

Cyn diwedd yr unrhyw farwnad, ceir fod rhagor na Griffìth Jones ar ddihun; yr oedd

" Rowlands, Harris, a rhyw ychydig
Yma yn Nghymru yn seinio maes,
Weithiau o Sinai, weithiau o Sion,
Hen ddirgelion dwyfol ras."

Fel desgrifiad o agwedd gyffredinol y wlad yr oedd geiriau Williams yn wirionedd; yr oedd trwmgwsg marwol wedi meddianu hyd yn nod y rhai oeddynt wedi cael eu appwyntio i wylio. Nid yw am wadu yr eithriadau, yn hytrach cyfeiria atynt, ond achwyna nad oeddynt ond "rhyw ychydig." Rhaid esbonio y gwahanol



Nodiadau[golygu]

  1. Johnes Causes of Dissent in Wales.