Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Sefyllfa Foesol Cymru Adeg Cyfodiad Methodistiaeth (tud-7)

Oddi ar Wicidestun
Sefyllfa Foesol Cymru Adeg Cyfodiad Methodistiaeth (tud-6) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Sefyllfa Foesol Cymru Adeg Cyfodiad Methodistiaeth (tud-8)

linellau yn y farwnad yn ngoleuni yr oll o honi. Dyma y rheol bendant wrth esbonio yr Ysgrythyr; a phe y gwneid fel arall, ac y cymerid ymadroddion allan o'i cysylltiadau, fel y gwna Dr. Rees ac Edmund Jones wrth feirniadu geiriau Williams, Pantycelyn, gellid gwneyd i'r Beibl ddysgu y cyfeiliornadau mwyaf dinystriol. Yn mhellach, ysgrifenai Edmund Jones ei lythyr dan ddylanwad teimladau digofus at y Methodistiaid. Hawdd deall hyny wrth ei dôn. Dywed: " Y mae William Williams, y clerigwr Methodistaidd, yn dweyd yn blaen nad oedd na 'ffeirad na phresbyter ar ddihun pan ddechreuodd Howell Harris gynghori. Dyma anwiredd cywilyddus wedi ei argraffu. . . . Myfi fy hun a ddygodd Harris gyntaf i Sir Fynwy i gynghori. Y mae yn rhyfedd fod y dyn yna yn gallu dweyd y fath beth, ac yntau wedi ei eni a'i addysgu yn mysg yr Ymneillduwyr. os na wna y Methodistiaid roddi heibio senu yn llym fel y maent, bydd i Dduw o radd i radd eu gadael." Geiriau digllawn, ac nid anhawdd rhoddi cyfrif am deimlad yr hwn a'u hysgrifenai. Yr oedd Howell Harris wedi gweini cerydd i Edmund Jones am ei zêl broselytiol, a'i waith yn ffurfio eglwysi Annibynol o ddychweledigion Harris ei hun. Yr oedd y cerydd yn nodedig o fwynaidd a thyner, yn arbenig pan yr ystyrir yr amgylchiadau; addefir hyny gan Dr. Rees; ond y mae yn ymddangos iddo chwerwi yspryd Edmund Jones, a pheri iddo deimlo yn gas at y Methodistiaid.

Ond nid rhaid dibynu yn unig ar dystiolaeth y Methodistiaid gyda golwg ar agwedd y Dywysogaeth yr adeg hon; cadarnheir eu desgrifiad gan bersonau y tu allan iddynt. Ni ddeallai neb beth oedd sefyllfa foesol ac ysprydol Cymru yr adeg yma yn well na'r Parch. Griffith Jones, Llanddowror; ni chafodd neb well cyfleustra; yr oedd yntau yn ŵr nodedig o gymhedrol, ac yn dra gofalus am bwyso ei eiriau. Fel hyn yr ysgrifena efe:[1] "Mewn amrywiol fanau, pan yr ymgynullai rhyw driugain, neu bedwar ugain o bobl, cymysg o hen ac ieuanc, i'r ysgolion, cafwyd nad oedd dros dri neu bedwar o'r oll yn alluog i adrodd Gweddi yr Arglwydd, a'r rhai hyny yn dra anmherffaith ac annealladwy, heb wybod pwy yw eu Tad yn y nefoedd, na medru rhoddi gwell cyfrif am y gwirioneddau hawddaf a mwyaf cyffredin yn y grefydd Gristionogol, na'r paganiaid ydych yn ddysgu o'ch caredigrwydd yn yr India. Nid disail yw yr achwyniadau fod halogedigaeth, anlladrwydd, trais a lladradau, yn llanw y wlad, ac ar gynydd." Geiriau cryfion, ac nid rhyfedd fod y gŵr da yn gofyn yn brudd: "Beth a fedr ymdrechion preifat ychydig mewn cymhariaeth ei effeithio?" Meddai:[2] "Ymddengys fod cwmwl llawn o ystorm yn hofran uwch ein penau, pa le bynag y disgyna, yr hon sydd yn bygwth dinystr ar bawb sydd yn esmwyth arnynt yn Sion." Trachefn:[3] "Chwi a synech y fath syniadau ynfyd a chywilyddus, os nad cableddus, sydd gan lawer o'r tlodion am Dduw a Christ a'r sacramentau. Ni wyddant ddim am fedydd ond iddynt gael eu bedyddio, a'u gwneyd yn Gristionogion da, ychydig wedi eu geni; nac am Swper yr Arglwydd heblaw mai bara a gwin ydyw, yr hyn y bwriada rhai o honynt ei gymeryd pan fyddont yn myned i farw. Prin y maent yn dirnad mwy am briodoleddau Duw, neu swyddau ein Hiachawdwr, neu y cyfamod gras, neu amodau iachawdwriaeth, neu ynte am eu sefyllfa ysprydol eu hunain, a'u dyledswyddau at Dduw ac at ddynion, na phe byddent heb gael eu geni mewn gwlad Gristionogol. Y fath yw yr anwybodaeth sydd wedi goresgyn ein gwlad, fel mewn llawer rhan o honi, y mae gweddillion ei phaganiaeth gynt, ynghyd a gweddillion Pabyddiaeth ddiweddarach, yn aros hyd heddyw yn mysg y tlodion, mewn syniadau, geiriau, a dull o fyw. Nid rhyfedd ynte fod y fath ddiluw o anfoesoldeb a drygioni, megys cenfigen, malais, celwydd, anonestrwydd, rhegu, meddwdod, aflendid, a chabledd, ynghyd a phob math o halogedigaeth ac annhrefn wedi llifo allan o hono. Yr unig wahaniaeth a wna llawer rhwng y Dydd Sanctaidd a dyddiau eraill yw ei fod yn rhoddi mwy o hamdden iddynt i ymroddi i anlladrwydd a bryntni."

Gallem ddifynu brawddegau eraill, llawn mor gryfion, o ba rai y mae ei ysgrifeniadau yn dryfrith, ond rhaid ymatal. Byddai yn anhawdd tynu darlun duach, na mwy byw. Braidd nad ydym yn gweled y wlad wedi ei gorchuddio gan anwybodaeth caddugawl am Dduw, am Grist, ac am grefydd, heb un dirnadaeth



Nodiadau[golygu]

  1. Welsh Piety
  2. Welsh Piety
  3. Welsh Piety