Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Sefyllfa Foesol Cymru Adeg Cyfodiad Methodistiaeth (tud-8)

Oddi ar Wicidestun
Sefyllfa Foesol Cymru Adeg Cyfodiad Methodistiaeth (tud-7) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Sefyllfa Foesol Cymru Adeg Cyfodiad Methodistiaeth (tud-9)

am drefn yr efengyl i achub, ac yn llawn o syniadau ac arferion haner Pabyddol, a'r cyfoethog a'r tlawd wedi cydsuddo i'r anfoesoldeb mwyaf gwarthus. Gwyddai Griffith Jones beth oedd yn ddywedyd, oblegyd yr oedd wedi trafaelu rhanau helaeth o'r Dywysogaeth ar ei deithiau pregethwrol Cofier hefyd ei fod yn byw ynghanol y Deheudir, lle y meddylia rhai fod Ymneillduaeth yn flaenorol wedi agos cwbl grefyddoli y werin, ddarfod iddo gael ei ddwyn i fynu yn nyddiau ei faboed gyda'r Ymneullduwyr, a bod yr eglwysi a wasanaethai o fewn ychydig filldiroedd i dref Caerfyrddin, lle yr oedd Athrofa Ymneillduol wedi cael ei sefydlu. Y mae tystiolaeth y fath ŵr yn werth mil o casgliadau wedi eu tynu oddiwrth dybiaethau amheus.

Adrodda Mr. Pratt,[1] yr hwn a deithiodd y rhan fwyaf o'r Dywysogaeth ychydig wedi cychwyniad Methodistiaeth, ac a ysgrifenodd hanes ei deithiau, am yr ofergoelion a ffynai yn mysg y werin. Yn y Dê a'r Gogledd cafodd fod cred mewn drychiolaethau yn gryfach ac yn fwy cyffredinol na chred yn Nuw; ni amheuai neb y chwedlau a adroddid am ganhwyllau cyrff, a'r tylwyth têg. Yn Sir Forganwg bu yn ymddiddan ag offeiriad, yr hwn nid yn unig oedd yn gredwr yn y tylwyth têg, ond a ysgrifenasai lyfr yn desgrifio eu nodweddion, ac yn croniclo eu gwrhydri. Pan y darfu i Mr. Pratt ledamheu gwirionedd ei dybiaethau, aeth yr offeiriad i dymer ddrwg, gorchuddid ei enau ag ewin, a da gan yr ymwelydd oedd cael ymadael mor gyflym ag y medrai. Ar y ffordd i'r gwestŷ' dywedai ei letywr fod yr offeiriad yn arfer brochi ac ymgynddeiriogi pan yr amheuid dilisrwydd yr hyn a draethai; yr haerai unwaith wrth nifer o bobl oedd wedi ymweled ag ef fod tros fìl o'r tylwyth têg yn yr ystafell ar y pryd, y rhai oeddynt yn anweledig i bawb ond iddo ef ei hun; a'u bod wedi dyfod yno oblegyd ei fod yn eu parchu mor fawr. Dechreuodd rhai chwerthin; ymgynhyrfodd yntau mewn canlyniad, a bygythiodd y gwnai beri i'r tylwyth bychain direidus eu pinsio, a'u blino ddydd a nos. "Ac mor wir a'ch bod yn fyw," meddai y gwestywr wrth Mr. Pratt, "ar waith dau o'r cwmni yn clecian eu bysedd, gan ddweyd nad oeddynt yn malio dim am dano ef na'i dylwyth têg, efe a wnaeth iddynt edifarhau. Oblegyd nos a dydd cafodd y ddau ddyn eu poenydio gymaint gan y diaflaid bychain, fel y bu raid iddynt ddychwelyd at yr offeiriad, a chrefu ei faddeuant, a gofyn ganddo eu gyru ymaith oddiwrthynt." " A ydych chwithau yn credu yn y tylwyth teg? " gofynai Mr. Pratt.

"Credu! ydwyf," oedd yr ateb, "ond y maent bob amser wedi bod yn elynion i mi, ac i fy nheulu, a hyny am y peth mwyaf dibwys, na fuasai yn gyru gwibedyn allan o dymer."

" Pa beth a wnaethoch i'w gofidio? "

"Dim ond bario y ffenestr agosaf at yr ystafell, yn mha un y darfu i chwi gysgu neithiwr."

"Pa wrthwynebiad a allai fod ganddynt i hyny? "

"O, yr oeddynt yn arfer agor y ffenestr, a dyfod i mewn i'r tŷ, gan ladrata pa beth bynag y gallent osod eu dwylaw arno."

"Yn wir; a ydynt yn wreng mor anonest? Y rhempod bychain! Pwy allasai feddwl y fath beth?"

"Ydynt, Syr. Hwy yw y lladron gwaethaf yn yr holl fyd, er eu bod mor fychain."

"A ydych yn ddifrifol? Ydych chwi mewn gwirionedd yn credu y fath chwedlau?"

"Credu? Mi a hoffwn pe yr aech i gysgu am noson i'r ystafell lle y mae y ffenestr wedi ei bario?"

Eithr pan y boddlonodd Mr. Pratt gysgu yn yr ystafell, gwrthododd y gwestywr ganiatau iddo; dywedai nad. oedd am gael ei orfodi i ateb am fywyd neu aelodau un o'i letywyr; ac yn mhellach fod y llyffaint bychain, fel y galwai y tylwyth têg mewn tymer ddrwg, yn dechreu blino hofran o gwmpas, ac ond iddo gadw yr ystafell yn nghau am ryw flwyddyn yn ychwaneg, efallai yr ymadawent ac y chwient am gyrchfa arall. Hawdd deall nad oedd y tafarnwr ond yn rhoddi llais i'r gred gyffredinol a ffynai trwy y wlad, a bod yr holl gymydogaeth yn credu yn y tylwyth têg, ac yn awdurdod yr offeiriad arnynt.

Er prawf pa mor ofergoelus oedd y cyffredin bobl yr adeg yma, hyd yn nod yn y Deheudir, ac fel y ffynai syniadau ac arferion Pabyddol yn eu mysg, cymerer y difyniadau canlynol allan o lyfr a ysgrifenwyd gan Erasmus Saunders, D.D., ac a gyhoeddwyd yn Llundain yn y flwyddyn



Nodiadau[golygu]

  1. Pratt's Gleanings in Wales, Holland, and Westphalia.